Newyddion: Mai 2019

Trafod Cerddoriaeth mewn Gemau

Mae myfyriwr Prifysgol Bangor wedi troi ei ddiddordeb mewn gemau cyfrifiadurol i mewn i radd ôl-raddedig mewn naratif rhyngweithiol.


Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2019

Ymgais 2019

Ar  5 Gorffennaf 2019, bydd y Ganolfan yn cynnal gweithdy ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y digwyddiad newydd hwn, sy'n agored i athrawon ar draws Gogledd Cymru, yn adeiladu ar lwyddiant project llythrennedd “Quest” / “Ymchwil” y llynedd ac yn caniatáu i athrawon ddod i'r Ganolfan i weld ein casgliad gwych o lyfrau a llawysgrifau prin, ac i glywed sgyrsiau gan Yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, a Gillian Brownson, awdur a storïwraig, ar ddefnyddio'r mythau a'r chwedlau a gynrychiolir yn ein casgliad yn yr ystafell ddosbarth.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019

Eidales o’r Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr

Francesca Elena Sciarrillo o’r Wyddgrug sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Fe’i gwobrwywyd mewn seremoni ar lwyfan prifwyl yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth, Mai 28).

Graddiodd Francesca, 23, gydag MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yn 2018, ac mae hi nawr yn brentis graddedig mewn Marchnata. Hi yw’r unig berson o’i theulu sy’n siarad Cymraeg, ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019

Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia

Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru.

Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o SeicolegCyfrifiadureg a Pheirianneg ElectronigBusnesDylunio CynnyrchCerddoriaeth a'r Cyfryngau, a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019

Gradd plismona newydd gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau yn 2019/20

O fis Medi 2019, bydd Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai (GLlM), yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno sgiliau i'r myfyrwyr y byddant eu hangen i weithio fel swyddogion heddlu ac mae'n adeiladu ar y Radd Sylfaen lwyddiannus iawn mewn Plismona a fu’n cael ei chynnig ers rhai blynyddoedd gan GLlM.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019

Ysgolheigion Bangor yn cyfrannu at The Cambridge History of Welsh Literature

Mae cyfrol newydd swmpus ar lenyddiaeth Cymru, o'i tharddiadau cynnar hyd at y cyfnod presennol, yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o arbenigwyr o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei lansio'n swyddogol yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai.

Disgrifir The Cambridge History of Welsh Literature (Cambridge University Press, 2019) gan y cyhoeddwr fel “the biggest history of Welsh literature ever published” ac mae'n ganllaw cronolegol i bymtheg canrif o lên Gymraeg a Chymreig.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019

Is there such thing as a ‘European identity’?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Nikolaos Papadogiannis, Darlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail-gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019

“Nofel epig” ar Restr Fer Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae nofel sydd wedi ei disgrifio gan un beirniad cyfoes fel “nofel epig...afon o stori sy’n llifo fel bywyd ei hun” wedi cyrraedd rhestr fer un o wobrau Llyfr y Flwyddyn 2019.

Mae Ynys Fadog gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor ac Athro yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn adrodd canrif a mwy o hanes teulu Cymraeg a adawodd Gymru am ‘yr Amerig’ a’u hymdrechion i ganfod bywyd gwell mewn oes o newid cythyryblus. Mae’r nofel swmpus wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Ffuglen, gan rannu’r gofod â Llyfr Glas Nebo (Manon Steffan Ros) ac Esgryn (Heiddwen Tomos).

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2019

Game of Thrones: neither Arya Stark nor Brienne of Tarth are unusual — medieval romance heroines did it all before

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Raluca Radulescu o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail-gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2019