Newyddion: Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn Ymweld â Chymdeithas Fancio Uzbekistan

Ar yr 17eg o Hydref, ymwelodd Prifysgol Bangor â Chymdeithas Fancio Uzbekistan yn ei phrif swyddfa hynod yn Tashkent.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2019

Llongyfarchiadau i dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n graddio yn Tashkent

Hoffem longyfarch dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi graddio yn Tashkent yr wythnos ddiwethaf.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019

Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd

Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc.

Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm.

Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019

Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei

Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau.

Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Myfyriwr Bangor yn cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019.

Bydd Cai Fôn Davies, 19, o Fangor sy’n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Hanes, yn cystadlu Nos Wener, Hydref 11eg yn Neuadd Goffa’r Barri.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad?

Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion

Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion.  Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd.

Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion

Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion.  Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd.

Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn ennill dwy wobr Athena SWAN - y tro cyntaf i Ysgol Busnes Bangor

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod dau gais diweddar i Athena SWAN gan Ysgol Busnes Bangor a'r Ysgol Seicoleg wedi bod yn llwyddiannus. Ysgol Busnes Bangor yw'r Ysgol gyntaf o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes i ennill gwobr. Mae gan yr Ysgol Seicoleg wobr Efydd ers 2016 ac fe lwyddodd i adennill y wobr honno.Mae'r gwobrau yma'n cydnabod ymrwymiad parhaus y Brifysgol a'r Ysgolion i gydraddoldeb rhywiol ymhlith y staff a'r myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Myfyrwraig greadigol yn rhyddhau record elusennol

Mae Aly Shields, sy'n ofalwraig ac yn fyfyrwraig hŷn o Landudno, wedi rhyddhau record er budd PANS PANDAS UK, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau anghyffredin sy'n aml yn arwain at gamddiagnosis i'r bobl dan sylw, ac sy'n cefnogi'r bobl hynny a'u teuluoedd.

Mae'r gân Warriors gan Aly ar gael ar iTunes a Google Play am $1.29 neu oddeutu £1 o dan label PANS PANDAS UK.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2019

EMPYRE: Project Gwaith Ieuenctid yn Ewrop

Mae'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas bellach yn un o bartneriaid project Erasmus EMPYRE sydd yn canolbwyntio ar waith ieuenctid yn Ewrop. Mae sefydliadau addysg uwch eraill o bob cwr o'r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol mewn pedair gwlad yn bartneriaid yn y project, sy'n archwilio, yn casglu ac yn datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio i rymuso pobl ifanc yn Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019