Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Tachwedd 2019

Gwerthiant a defnydd o Brydlesau yng Nghymru

Er mwyn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar brydles yng Nghymru, mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl sydd â phrydles preswyl hir, fel rhan o'u perchentyaeth neu forgais, i gwblhau holiadur ar-lein ynglŷn â’u profiadau a'u dealltwriaeth o brydlesi.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2019

Accessing health care is challenging for Deaf people – but the best solution isn’t ‘one-size-fits-all’

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Christopher Shank, Darlithydd mewn Ieithyddiaeth a Anouschka Foltz, Prifysgol Graz  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2019

Astudio/Gweithio Dramor yn 2020/21

Os hoffech chi ymgeisio i fynd dramor yn y flwyddyn academaidd 2020/21, hoffir eich atgoffa mai’r dyddiad cau yw 10 Rhagfyr 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019

Ail-broffesiynoli Bancio a Chyllid yn Trinidad a Tobago

Ym mis Tachwedd bu Prifysgol Bangor yn ymweld â Trinidad a Tobago i ddatblygu perthynas newydd ar gyfer darparu addysg ôl-radd Bancio a Chyllid, trwy'r rhaglen MBA Banciwr Siartredig.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019

Prifysgol Bangor yn helpu diogelu adneuwyr a sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn Nigeria ac ar draws Affrica

Y Nigerian Deposit Insurance Corporation yn ymweld â Phrifysgol Bangor. 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019

Ffair y Gyfraith Prifysgol Bangor, 20 Tachwedd 2019

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2019

Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing.

Ymunodd Prifysgol Bangor â phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona.

Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Trafod y gyfres The Crown

Wrth i’r gyfres The Crown dychwelyd i Netflix ar gyfer ei thrydedd gyfres fis yma, bydd dilynwyr yn cael gweld un o drefi gogledd Cymru yn cael ei thrawsnewid yn ôl i’r chwe degau. Bydd y drydedd gyfres yn cynnwys digwyddiadau enwog y teulu brenhinol rhwng 1964 ac 1977 yn cynnwys arwisgiad y Tywysog Charles fel Tywysog Cymru yng Ngahaernarfon. Digwyddiad a oedd wedi creu rhwyg mewn cymdeithas yn ôl Dr Euryn Roberts, Darlithydd mewn Hanes Oesoedd Canol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019

Arddangosfa o hanes Iddewig Bangor yn mynd i Gaerdydd

Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd.

Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor, yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019