Newyddion: Rhagfyr 2019

Boris Johnson is planning radical changes to the UK constitution – here are the ones you need to know about

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2019

Nawr mae myfyrwyr Cyfrifeg a Chyllid Ysgol Busnes Bangor wedi eu heithrio o wyth o arholiadau proffesiynol ACCA

Mae Ysgol Busnes Bangor wedi llwyddo i ymuno â nifer fach o ysgolion busnes yn y Deyrnas Unedig sydd nawr yn cynnig i fyfyrwyr ar eu cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid gael eu heithrio o wyth o arholiadau proffesiynol Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2019

Cyhoeddiadau gan fardd a flogiwr poblogaidd

Mae’r bardd Carol Rumens, Athro Ysgrifennu Creadigol ar Ymweliad yn yr Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Llenyddiaethau, yn gorffen y flwyddyn 2019 gan gyhoeddi dau lyfr.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2019

Llofruddiaeth Dydd Nadolig Caergybi - 1909

Ddydd San Steffan 1909 deffrodd trigolion Caergybi i newyddion dychrynllyd. Y noson flaenorol cafodd dynes 35 oed, Gwen Ellen Jones, ei llofruddio’n giaidd. Mewn un adroddiad papur newydd cignoeth dywedwyd bod ei phen bron iawn wedi'i hollti o'i chorff. Ildiodd ei llofrudd, William Murphy, 49 oed, ei hun i'r awdurdodau a chafodd ei draddodi i sefyll ei brawf ym Mrawdlys Biwmares ar 26 Ionawr 1910.

Mae enw William Murphy wedi ennill drwg-enwogrwydd am mai ef oedd y dyn olaf i gael ei grogi yng Ngharchar Caernarfon. Ond beth am y ddynes a laddodd? Mae ymchwil newydd a wnaed gan Ganolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, Prifysgol Bangor yn canolbwyntio ar dystiolaeth ysgrifenedig sy'n datgelu bywyd dioddefwr y drosedd dreisgar hon.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2019

Y tu ôl i Eyes Wide Shut

Bydd symposiwm, yr unig un o'i fath i'w gynnal yn y Deyrnas Unedig, yn edrych ar waddol Eyes Wide Shut, ffilm olaf y cyfarwyddwr ffilm, Stanley Kubrick.

Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng yr UAL Archives and Special Collections Centre a Phrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2019

Cynhadledd Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019

Efrydiaethau PhD: Ffiniau, ymfudo a chymdeithas sifil

Gwahoddir ceisiadau am ddwy efrydiaeth PhD a ariennir yn llawn, a gynigir fel rhan o ganolfan ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD, a ariennir gan yr ESRC. 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019