Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Ebrill 2020

Academyddion Prifysgol Bangor yn cael eu hanrhydeddu gan Academi Cymru

Mae tri o academyddion Prifysgol Bangor ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Maen nhw’n ymuno â 40 o Gymrodyr newydd eraill, sydd oll yn rhannu cyswllt â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob arbenigedd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020

Bydd byd gwaith yn newid am byth oherwydd yr argyfwng coronafirws

Cyngor busnes Dr Edward Jones i oroesi'r pandemig

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020

Penodi'r Athro Chris Collins yn llywydd ISM 2020-21

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020

UBC Global Masters 2019-20 - Raja Asad

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2020

Rownd derfynol UBC Global Masters 2019-20

Llongyfarchiadau i Raja Asad a ddaeth yn chweched yn rownd derfynol y gystadleuaeth UBC Global Masters 2019-20 a gynhaliwyd fel digwyddiad rhithwir ddydd Iau 2 Ebrill 2020. 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2020

Chwe ffilm allweddol i wylio dros y Pasg

Caiff dwy ŵyl grefyddol, Pasg yr Iddewon a gŵyl Gristnogol y Pasg eu dathlu dros yr wythnos nesaf, felly dyma chwe ffilm allweddol (tair wedi’u hysbrydoli gan yr Hen Destament a thair gan y Testament Newydd) y mae Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, yn eu hargymell fel ffilmiau i'w gwylio dros gyfnod y gwyliau.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2020

Wyth ffilm i’w gwylio am garcharu a dianc.

A ninnau’n cadw pellter cymdeithasol ac yn aros yn ein cartrefi, dyma restr o wyth ffilm i'ch hysbrydoli, yn eich caethiwed!

Gofynnon ni i Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau awgrymu ffilmiau am garchar a chaethiwed…  a braf yw cael dweud bod diweddglo hapus i bob un!

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2020