Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Mehefin 2020

Gwella gallu gofodol er mwyn helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM

Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd at broject Ewropeaidd newydd i wella galluoedd gofodol plant, gyda'r nod o helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg technoleg a mathemateg (STEM).

Mae disgyblion â lefelau uchel o allu gofodol yn llawer mwy tebygol o lwyddo mewn pynciau STEM, o fwynhau eu gwneud ac o'u dewis i'w hastudio ymhellach ac fel gyrfa o gymharu â disgyblion â gallu gofodol isel.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020

Menter trwy Ddylunio yn mynd yn ddigidol ac yn ffynnu yn ystod cyfnod anodd

Roedd rhaglen amlddisgyblaethol Menter trwy Ddylunio Prifysgol Bangor yn edrych ychydig yn wahanol eleni. 

Mae'r her yn dod â myfyrwyr ynghyd o saith Ysgol a meysydd pwnc o fewn y Brifysgol i weithio gyda'i gilydd mewn timau dros gyfnod o 10 wythnos. Bu timau eleni yn ymateb i friffiau yn y byd go iawn a osodir gan fusnesau sy'n bartneriaid, sef y cwmni halen môr o Ynys Môn, Halen Môn, a'r gwneuthurwr offer dringo DMM yn Llanberis.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020

Ail-ddarllediad America Gaeth a'r Cymry

Nos yfory ( 22.00 Iau 18 Mehefin) mae S4C yn ail-ddangos America Gaeth a’r Cymru i gyd-fynd â digwyddiadau cyfredol symudiad Black Lives Matter

Yr Athro Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd sy'n ymchwilio hanes Cymry â chaethwasiaeth yn UDA yn y gyfres tair rhan.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2020

Y dewis gwyrdd

Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn awyddus i leihau eu hôl troed amgylcheddol, a gall y fyfyrwyr hynny sy’n chwilio am brifysgol werdd fod yn sicr eu bod yn astudio mewn prifysgol sydd ar y brig yn fyd eang yn ei hymrwymiad i ailgylchu a chynaladwyedd, drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Prifysgol Bangor yn seithfed yn y byd am ailgylchu a chynaliadwyedd,  yn ôl llinyn mesur Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae’r coleg ar y bryn yn 10fed yn fyd eang am ei gwaith yn ôl y Green Metric World University Rankings.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020