Newyddion: Gorffennaf 2020
Athro Ysgrifennu Creadigol yn ennill Gwobr
Mae’r Athro a’r bardd, Zoë Skoulding, wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori Barddoniaeth Saesneg am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water.
Mae Footnotes to Water yn dilyn hynt dwy afon anghofiedig, sef Afon Adda ym Mangor ac Afon Bièvre ym Mharis, yn ogystal â dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o’r cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020
Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddarlithydd o Fangor
Mae Ifan Morgan Jones wedi ennill Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2020 am ei nofel Babel.
Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel, ac fe enillodd y gyntaf ohonynt, Igam Ogam, wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2018 ar bwnc y wasg Gymraeg yn y 19eg ganrif a’r ymchwil hwnnw oedd sail ei nofel Babel.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2020
Gwobr Ryngwladol i Athro
Mae Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, wedi derbyn Gwobr Ryngwladol Anrhydeddus 2020 Cymdeithasfa Cyfraith a Chymdeithas (LSA) “i gydnabod ei gyfraniadau arwyddocaol i helaethiad gwybodaeth ym maes cyfraith a chymdeithas.” Mae’r LSA wedi’i lleoli yn yr UD ond mae ganddi aelodau ar draws y byd, a hi yw’r gymdeithasfa ysgolheigaidd fwyaf blaengar yn ei maes.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020
Athro er Anrhydedd Prifysgol Bangor i arwain y gwaith ar addysgu hanes cyfoethog Cymru a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth
Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno.
Mae'r Athro Williams yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a chyn Deon Cysylltiol ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT, Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2020
Mae cyfres newydd Netflix yn dangos agwedd arall ar ferched yn y chwedl Arthuraidd, meddai academydd ym Mhrifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf, bydd Netflix yn dechrau ffrydio ei ddrama ffantasi epig ddiweddaraf, Cursed, sy'n seiliedig ar y chwedl Arthuraidd ac yn canolbwyntio ar chwedl Merch Llyn y Fan Fach. Mae'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn esbonio pam mae'r cymeriad hynod a phwerus hwn yn y chwedl Arthuraidd yn parhau i apelio at bobl.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Gall symud i ffwrdd oddi wrth gadwyni cyflenwi byd-eang ar ôl Covid roi hwb i economi Gogledd Cymru
Gall ymateb yn erbyn globaleiddio yn sgil argyfwng Covid-19 roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus Gogledd Cymru gyda ffyniant mewn technolegau blaengar fel argraffu 3D yn rhoi hwb i'r adferiad, yn ôl arbenigwr.
Mae darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones, yn rhagweld y bydd mwy o fusnesau a llywodraethau eisiau cael eu cyflenwadau yn agosach at adref wrth iddynt ddod allan o'r misoedd o gyfyngiadau symud digynsail.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020
Cydweithio ag arlunydd i gyflwyno Cymdeithaseg ar ffurf cofiadwy
Mae dau academydd o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â’r cartwnydd Huw Aaron er mwyn cyflwyno maes pwysig Cymdeithaseg ar ffurf hwyliog a chofiadwy yn y Gymraeg, gyda’r gobaith y bydd yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y maes.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020
Golygu cyfrol newydd
Llongyfarchiadau i ddau aelod o staff Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Dr Owain Wyn Jones a Dr Rebecca Thomas, ar gyd-olygu’r gyfrol newydd The Chronicles of Medieval Wales and the March[:] New Contexts, Studies and Texts.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020
Gwaith ymchwilwyr Bangor yn dylanwadu ar adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ar ddiffygion democratiaeth ddigidol
Mae cyngor dau ymchwilydd o Brifysgol Bangor wedi dylanwadu ar argymhellion adroddiad i ddemocratiaeth a thechnolegau digidol gan un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020
Ymgyrch Ail-Ddefnyddio Diwedd Tymor
Mae Prifysgol Bangor yn ymdrechu i fod y Brifysgol fwyaf effeithlon o ran adnoddau; yn wir roeddem yn 7fed yn y byd yng nghyngrair THE impact 2020 am ein hymrwymiad i nôd 12 ‘sicrhau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020
Prifysgol Bangor yn ymchwilio i iaith plant sy’n siarad Arabeg
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2020
Tri o Brifysgol Bangor ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae creadigrwydd yn y gwynt ym Mangor wrth i ddwy o’n darlithwyr Ysgrifennu Creadigol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori llenyddiaeth Saesneg y gystadleuaeth. Mae Darlithydd newyddiaduraeth hefyd wedi ei gynnwys yng Nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddir y canlyniadau ar 1 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2020