Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Awst 2020

Cyfraith a Threfn a Frasier

Ar ochr ysgafnach ysgolheictod, cyhoeddodd yr Athro Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, erthygl eleni gyda’i gyfoed, Olga Litvinova, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, am wrthdaro a chyfraith yn y gyfres gomedi Frasier.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2020

Anelka: Netflix documentary on 'misunderstood' French footballer fails to persuade

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Ervine o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithtddiaeth a'r Cyfryngau  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2020

Astudiaeth yn datgelu effaith prif weithredwyr pwerus a gwyngalchu arian ar berfformiad banciau

Mae banciau sydd â phrif weithredwyr pwerus a byrddau llai, llai annibynnol, yn fwy tebygol o fentro ac yn fwy tueddol o wyngalchu arian, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol East Anglia (UEA) ac Ysgol Busnes Prifysgol Bangor lle cafwyd y syniad am yr ymchwil yn wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2020

Gwobrau lu yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn

O'r tri o Brifysgol Bangor ar restr fer categorïau Saesneg a Chymraeg Gwobrau Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru, llwyddodd dau i ennill gwobrau, ac Ifan Morgan Jones yn llwyddo i gipio Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobl trwy bleidlais ar Golwg 360.

Cyhoeddwyd amser cinio ddydd Gwener 31 Gorffennaf fod Babel, nofel Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth, wedi ennill categori nofel Gymraeg Llyfr y Flwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2020