Newyddion: Hydref 2020
Be human, be Fluxus!
Bydd Sarah Pogoda, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor yn siarad am ei hymchwil seiliedig ar y celfyddydau i Fluxus yng ngŵyl Being Human 2020, sef digwyddiad a gynhelir ledled y DU sy'n canolbwyntio ar y dyniaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2020
Cyn-fyfyriwr yn Brif Olygydd North Wales Live a’r Daily Post
Yn ddiweddar, penodwyd Dion Jones, cyn-fyfyriwr BA Hanes gyda Newyddiaduraeth yma ym Mangor, i swydd Prif Olygydd North Wales Live a’r Daily Post. Dyma ychydig o’i hanes a sut y mae gradd o Fangor wedi helpu ei yrfa:
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2020
'Mapio Dwfn' archifau ystadau: Methodoleg newydd i ddadansoddi tirweddau ystadau c.1500-1930
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2020
Dathlu hanes Iddewig Llandudno
Mae map yn dathlu hanes Iddewig Llandudno wedi'i greu gan Nathan Abrams, sy’n Athro mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r map yn dathlu presenoldeb Iddewon yn Llandudno o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Mae'n cyd-fynd â'r map cynharach o hanes Iddewig Bangor (Walking Jewish History a gyllidwyd gan Gyfrif Cyflymydd Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2020