Yr Athro William Tydeman (1935- 2018)

Ymunodd yr Athro Bill Tydeman, sydd wedi marw yn 83 oed, â'r Adran Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1961, yn syth ar ôl gorffen astudio am ei B.Litt. ym Mhrifysgol Rhydychen. Dechreuodd astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen, ar ôl comisiwn am gyfnod byr yn y Royal Corps of Signals. Cafodd yrfa lwyddiannus iawn fel myfyriwr israddedig, gan orffen gyda gradd dosbarth gyntaf a llongyfarchiadau'r panel. Bu hefyd yn aelod prysur a chynhyrchiol iawn o gymdeithasau drama myfyrwyr. Roedd ei ymchwil cynnar, a gyflawnodd yng Ngholeg y Brifysgol hefyd, yn canolbwyntio ar  farddoniaeth cyfnod y Tuduriaid, yn enwedig barddoniaeth Thomas Wyatt; cyhoeddwyd ei gyfrol English Poetry 1400-1580 ym 1970. Ond erbyn hynny, roedd ei ddiddordeb eisoes yn tyfu ym maes theatr yn ystod cyfnod y Tuduriaid ac oes Elisabeth, a dyna oedd prif faes ei ymchwil trwy gydol ei yrfa. Ei gyhoeddiadau mwyaf adnabyddus oeddThe Theatre in the Middle Ages (1978), English Medieval Theatre 1400-1500 (1986) and editions of Four Tudor Comedies a Two Tudor Tragedies yng nghyfres y Penguin Classics. Gyda'i gydweithiwr, Vivien Thomas, cyhoeddodd gyfrol ar ffynonellau dramâu Christopher Marlowe ym 1994; ei waith mawr olaf oedd cydlynu llafur deg ysgolhaig i gynhyrchu The Medieval European Stage 500-1550 (2001).

Ond ni fu diddordebau academaidd Bill erioed yn gul. Mentrodd i'r cyfnod Rhamantaidd, gan gyd-olygu casgliad o weithiau beirniadol ar Coleridge a Wordsworth gyda'r Athro Alun R. Jones ar gyfer y gyfres adnabyddus Macmillan’s Casebook, ac argraffiad pwysig o gyfrol Joseph Hucks' A Pedestrian Tour Through North Wales (1979). Roedd hefyd yn mentro i gyfnodau diweddarach theatr Lloegr. Golygodd ddramâu Tom Robertson a chyhoeddodd hefyd waith ar Oscar Wilde, oedd o ddiddordeb arbennig iddo, gan gynnwys llyfr ar hanes llwyfan drama Wilde, Salome, gyda chydweithiwr ym Mangor, Steven Price.  I nodi canmlwyddiant sefydlu'r brifysgol ym Mangor, gyda'i fenter nodweddiadol, aeth Bill ati i olygu The Welsh Connection, casgliad o draethodau ar y cysylltiadau llenyddol rhwng Cymru a Lloegr, a oedd yn cynnwys traethodau gan gyn-aelodau ac aelodau cyfredol yr adran, yn cynnwys Alun Jones yn ysgrifennu am Wordsworth, Peter Field yn ysgrifennu am Shakespeare a Tony Conran yn ysgrifennu am Hopkins.

Efallai bod hyn oll yn rhoi syniad o'r egni oedd gan Bill Tydeman, a'i gwnaeth yn gymaint o bresenoldeb yn yr adran ac a oedd yn rhan mor greiddiol o'i ddysgu. Oherwydd ei ddawn am ddrama, roedd yn ddarlithydd anarferol o effeithiol, yn enwedig ar Shakespeare, ac roedd yn ffynhonnell gyson o syniadau ar gyfer cyrsiau seminar newydd, o farddoniaeth Renascence i waith Oscar Wilde. Fel pe na bai ei lwyth dysgu yn ddigon i lenwi ei amser a dihysbyddu ei egni, cyfarwyddodd Bill hefyd nifer o gynyrchiadau o ddramâu Saesneg cynnar yng Nghadeirlan Bangor. Y mwyaf cofiadwy o'r rhain, gyda chast mawr, oedd 'cylch Bangor', sef cyfres o ddramâu Beiblaidd o'r Oesoedd Canol, a ddyfeisiwyd ar sail dramâu mwyaf dramatig ac effeithiol cylchoedd canoloesol Efrog, Caer a Wakefield.

Daeth Bill Tydeman yn Bennaeth Adran Dros Dro ar ôl i Alun Jones ymddeol ym 1982 a dyfarnwyd cadair bersonol iddo cyn iddo gael ei benodi'n ffurfiol i gadair yr Adran Saesneg, y bu ynddi tan ei ymddeoliad ym 1997, ac erbyn hynny roedd yn bennaeth o'r Ysgol Saesneg ac Ieithyddiaeth gyfunol. Roedd wedi mynd yn bennaeth ar yr Adran Saesneg mewn cyfnod neilltuol o heriol i'r adran ac i'r sefydliad. Arweiniodd toriadau llym i'r gyllideb ar gyfer addysg uwch yn genedlaethol i ostyngiad cyflym a di-drefn yn nifer yr aelodau staff. Yn achos yr Adran Saesneg, cafodd nifer y staff dysgu ei ostwng o bedwar ar bymtheg i dair ar ddeg yn y flwyddyn academaidd 1981-82. Roedd arweinyddiaeth Bill, a nodweddwyd gan ei gywirdeb a'i onestrwydd amlwg, yn codi morâl, yn annog y rhai oedd dal yn yr adran i dderbyn yr amodau gwaith newydd a mwy anodd, a llwyddodd i arwain yr adran trwy'r argyfwng heb wneud unrhyw niwed i brofiad dysgu'r myfyrwyr. Roedd hyn yn nodweddiadol o'i arweinyddiaeth; yn ystod ei gyfnod fel pennaeth, bu'n bresenoldeb cyson cefnogol a chalonogol ym mywydau proffesiynol ei gydweithwyr.

Yn 2003, symudodd Bill a'i wraig Jackie i Ddyfnaint, lle bu farw hi yn 2009. Mae'n gadael dwy ferch, Jo a Rose, a phump o wyrion.

Yr Athro Tony Brown

Yr Athro Tom Corns

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2018