Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Medi 2020

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Gwybodaeth Covid-19

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Applicants
  • Current Students
  • Staff
  • Job Vacancies
  • Covid-19
My country:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Strategaeth Ymchwil ac Effaith

Pwy ydym

Mae ymchwilwyr Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn gwneud ymchwil sy'n ennill gwobrau, yn rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith. Mae ein hymchwil yn cynnwys iaith a llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r cyfryngau, astudiaethau ariannol, cyfathrebu, astudiaethau technoleg, rheoleiddio, cyfiawnder, hunaniaethau ac astudiaethau cymunedol. Mewn amrywiol ddisgyblaethau, rydym yn cyfuno rhagoriaeth academaidd gydag ymgysylltiad â'r gymuned, effaith ar bolisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol. Mae ymchwil y Coleg wedi'i drefnu o amgylch chwe ysgol:

  • Ysgol Busnes Bangor
  • Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
  • ⁠Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth, a'r Cyfryngau
  • Ysgol y Gyfraith
  • Ysgol Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
  • Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Mae sail gadarn i'n hymchwil ar ymdeimlad o le trwy ddiwylliant, perthnasedd cymharol, moddolrwydd, llenyddiaeth, iaith, cerddoriaeth, hanes, technoleg a sefydliadau, ynghyd â diddordeb yn natur newidiol cymunedau, cenhedloedd, strwythurau llywodraethu a chyfiawnder. Adlewyrchir hyn yn ein themâu ymchwil a nodir isod, sy'n caniatáu i ymchwilwyr o bob rhan o'r Coleg a'r Brifysgol ehangach gydweithredu a chynhyrchu ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol sydd gyda'r orau yn y byd. Nid oes bwriad yn y dull hwnnw i hepgor nac anwybyddu meysydd rhagoriaeth ymchwil penodol y tu hwnt i'r themâu hynny, ond mae'n cynnig set eang o faterion thematig y gall llawer o'n hymchwil ymffurfio o'u cwmpas.

 

Cymru fel Cenedl yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r Byd

Mae gan Fangor draddodiad balch o ymchwil gyda'r gorau yn y byd mewn Astudiaethau Celtaidd, a ffocws neilltuol a chysylltiadau rhyngwladol parthed hanes, diwylliant, llenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth Cymru. Rydym yn gartref i rai o brif ganolfannau ymchwil Cymru, sy'n cael eu cyfarwyddo gan haneswyr blaenllaw o Gymru, arbenigwyr yng nghyfraith Cymru, diwylliant, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth Cymraeg a Chymreig. Mae ein canolfannau ymchwil a'n grwpiau ymchwil yn cynnwys:

  • Canolfan Ymchwil Cymru
  • Canolfan R.S. Thomas
  • Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
  • Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Cymunedau Gwydn trwy Ddiwylliant, y Celfyddydau, a Chymdeithas Sifil

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio ac yn arfer agweddau ar ddiwylliant a'r celfyddydau ac yn meithrin dealltwriaeth o elfennau'r gymdeithas sifil sy'n cryfhau gwytnwch cymunedol i ymdopi â newidiadau a heriau cyfoes. Yn seiliedig ar adnoddau archifol a chyfoes sylweddol, ynghyd â gweithgareddau artistig, rydym yn cyfrannu'n weithredol at ddiwylliant cymunedol a'r celfyddydau i roi lle i astudio cymdeithas sifil ar waith. Ochr yn ochr â gweithgareddau helaeth ym meysydd ysgrifennu creadigol, cyfansoddi cerddorol a pherfformio, mae ein canolfannau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes
  • Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr
  • Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin

Llywodraethu, Economi, Sefydliadau a Chyfiawnder mewn Amseroedd o Newid

Mae cymunedau ledled y byd wedi'u cysylltu gan we gymhleth o lywodraethiant, cysylltiadau ariannol ac economaidd, ymfudo dynol, a chwestiynau ynghylch cwmpas a natur sefydliadau ac egwyddorion cyfiawnder. Mae diddordebau cystadleuol cymunedau lleol, cenedl-wladwriaethau, a systemau economaidd byd-eang a rhyngwladol yn gofyn am ymchwil ymatebol ar reoliadau a llywodraethu, sefydliadau ac astudiaethau cymunedol. Mae ein heconomegwyr, ein cyfreithwyr, ein gwyddonwyr cymdeithasol a'n haneswyr yn archwilio'r cysylltiadau cymhleth hynny a sut mae cwestiynau ynglŷn â phŵer, gwleidyddiaeth a heriau byd-eang yn effeithio arnynt. Ymhlith y sefydliadau ymchwil perthnasol mae:

  • Canolfan Cynaliadwyedd
  • Sefydliad Cyllid Ewropeaidd
  • Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)
  • Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol

 

Cyfathrebu, Iaith, a'r Cyfryngau

Saif Prifysgol Bangor mewn amgylchedd dwyieithog sy'n hwyluso'r cryfderau rhagorol sydd ganddi ym meysydd amlieithrwydd a dwyieithrwydd a defnydd iaith mewn amryw o gyd-destunau cyfathrebol, gan gwmpasu rhagoriaeth ymchwil mewn polisi a chynllunio iaith, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, dadansoddi disgwrs ac astudiaethau corpws, defnydd cymunedau a chymdeithas sifil o iaith a'r goblygiadau i hunaniaeth, yn ogystal â rôl technoleg yn natblygiad iaith. Yn ogystal, mae ymchwil yn y thema hon yn codi cwestiynau ehangach am berthynas iaith a chyfathrebu fel ffurf ar bŵer, trwy gyfathrebu corfforaethol, moeseg, newyddiaduraeth, cyfathrebu perswadiol cyfundrefnol a'r cyfryngau. Yn y thema hon, gweithiwn yn ddygn gyda chydweithwyr ledled y Brifysgol ac yn benodol, cydweithwyr yng Nghanolfan Bedwyr a'r Uned Technolegau Iaith. Mae ein canolfannau ymchwil a'n rhwydweithiau'n cynnwys:

  • Canolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd
  • Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru
  • Rhwydwaith Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol
  • Rhwydwaith Ymchwil Technoleg ac Iaith

 

Blaenoriaethau Strategol y Colegau ar gyfer Ymchwil

Mae'r strategaeth hon yn ystyried bod ymchwil yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, cyhoeddi, cipio grantiau, ymgysylltu ac allgymorth, llwybrau at effaith, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.

Caiff Blaenoriaethau Strategol y Coleg ar gyfer Ymchwil eu llunio yng nghyd-destun ymrwymiad Prifysgol Bangor i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac Egwyddorion Cynaliadwyedd. Dylai ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ystyried Egwyddor Datblygu Cynaliadwy; pedair colofn cynaliadwyedd; y pum ffordd o weithio tuag at gynaliadwyedd; a saith nod llesiant. 

 

Rhagoriaeth mewn Ymchwil, Ymgysylltu ac Effaith

Mae'r Coleg yn hwyluso ymchwil, ymgysylltu, ac effaith rhagoriaeth ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol trwy ein themâu ymchwil, a gydnabyddir trwy gyhoeddiadau a gwobrau proffil uchel, o ansawdd uchel ac a adolygir gan gyfoedion, cipio grantiau o fri a mathau eraill o gydnabyddiaeth allanol. Mae ffocws penodol neilltuol ar yr isod:

  • Ymgorffori ymgysylltiad yn ein mentrau academaidd, a thrwy hynny adeiladu llwybrau i effeithio ar y broses ymchwil o'r cynnig cyntaf hyd at weithredu a lledaenu
  • Mentora, adborth a chyngor ar syniadau ymchwil, ceisiadau grant, a gweithgareddau ymgysylltu, effaith ac arloesi
  • Mynediad at ymchwilwyr y Coleg sydd â phrofiad o gipio grantiau ac aelodau'r panel dyfarnu ymchwil, yn enwedig UKRI
  • Ymgysylltu ag ymwelwyr ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol trwy seminarau, gweithdai a chynllun ymchwilwyr ar ymweliad
  • Cysylltu ein hymchwil â'r gymuned ehangach i sicrhau bod ymchwil yn cefnogi creu gwytnwch cymunedol
  • Hwyluso ac ymgorffori cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â phartneriaid allanol yn y sector preifat, cyhoeddus neu'r 3ydd sector, gan atgyfnerthu cysylltiadau â chymdeithas a diwydiant
  • Hwyluso ac annog cydweithio strategol ar gynigion cyllido gyda rhanddeiliaid - ymgysylltu â rhaglenni KESS a KTP a mwy
  • Codi ymwybyddiaeth yn y Coleg o anghenion cymdeithas a phryderon economaidd
  • Gwella'r ffocws ar strategaeth ddiwydiannol foesegol, arloesedd, masnacheiddio chysylltiadau dinesig
  • Targedu meysydd o angen cymdeithasol a chyfleoedd ariannol
  • Ymgysylltu â'r llywodraeth, llywio polisïau, datblygu prosiectau ymchwil gyda'r bwriad o lywio agendâu llywodraeth
  • Cefnogi Cynllun Strategol 'Bangor 2050' Prifysgol Bangor sy'n hyrwyddo lledaeniad a defnydd y Gymraeg, trwy ymchwil ac ymarfer.


Cefnogi Ymchwilwyr

Mae'r Coleg yn llwyr ymrwymedig i'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr ac mae'n darparu cefnogaeth i ymchwilwyr ymhob cam o'u gyrfaoedd. Rydym yn cefnogi ymchwilwyr fel a ganlyn:

  • Annog cyfranogiad y rheolwyr ymchwil ac ymchwilwyr mewn rhaglenni hyfforddi perthnasol
  • Cynnwys cynrychiolwyr yr ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa yn y Coleg yng Ngrŵp Ymchwil ac Effaith y Coleg a'i weithgareddau
  • Cydnabod amrywiaeth y gweithgareddau ymchwil, ymgysylltu ac effaith sydd ar waith yn y Coleg gan gynnwys ymarfer creadigol fel ymchwil ac ymgysylltu diwylliannol
  • Mentora i gefnogi cipio grantiau a datblygu gyrfaoedd ymchwil
  • Annog a chydnabod cyfraniadau ymchwilwyr at baneli dyfarnu ymchwil, cymdeithasau dysgedig, a chyfnodolion a gwaith golygyddol arall
  • Rhoi amser ar gyfer ymchwil trwy gefnogi'r egwyddor o gydraddoldeb amser gwarchodedig mewn ysgolion a thrwy gynnig absenoldeb astudio ledled y Coleg lle mae cyfiawnhad dros hynny
  • Cynrychioli buddiannau a llais cymuned ymchwil y Coleg yn y Brifysgol
  • Cefnogi cydnabyddiaeth ymchwilwyr trwy fesurau allanol o ragoriaeth ymchwil fel y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

Heriau mawr, Ymatebion Cymdeithasol a Rhyngddisgyblaeth

Mae ymchwil rhyngddisgyblaethol yn cynhyrchu ffurfiau newydd o wybodaeth, arloesedd, mewnwelediadau ac allbynnau creadigol sydd eu hangen i roi sylw i'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas yn fyd-eang. Mae'r Coleg yn llwyfan i annog a hwyluso  ymchwil, gweithgareddau ymgysylltu ac effaith rhyngddisgyblaethol, gan gysylltu Ysgolion ledled y Coleg, a ledled tri Choleg y Brifysgol a'u hysgolion cysylltiedig trwy'r isod:

  • Trefnu digwyddiadau ledled y Coleg ac ar draws  y Colegau
  • Cynnwys y Coleg mewn mentrau strategol ledled y Brifysgol
  • Sefydlu mecanweithiau i fonitro blaenoriaethau'r llywodraeth, a pharu ymchwilwyr a phrosiectau â chynlluniau cyllid grant perthnasol cyn gynted ag y byddant ar gael
  • Cefnogi cydweithredu rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol a cheisiadau grant
  • Codi ymwybyddiaeth o gyflawniadau, blaenoriaethau a chryfderau ymchwil, ymgysylltu ac effaith y Coleg ledled y Brifysgol, y gymuned ehangach, ac yn rhyngwladol

 

Monitro Ein Strategaeth - ein nod yw:

  • Galluogi ac annog pob ymchwilydd i wneud cais am gyllid ymchwil o ansawdd uchel priodol (ar lefel gyrfa a'r ddisgyblaeth benodol) yn rheolaidd
  • Cynyddu nifer ac ystod y ceisiadau grant llwyddiannus yn barhaus
  • Ymgorffori gweithgareddau ymgysylltu ym mhob prosiect ymchwil o'r cychwyn cyntaf
  • Cynyddu nifer y cyhoeddiadau o ansawdd uchel trwy fframwaith cyhoeddi cydlynol a'r ffocws ar ansawdd yn hytrach na niferoedd
  • Annog digwyddiadau rhwydweithio rhyngddisgyblaethol a chymryd rhan mewn nifer cynyddol o geisiadau grant rhyngddisgyblaethol
  • Annog creu timau o fewn a'r tu hwnt i'r sefydliad, gyda'r bwriad o gipio grantiau mawr.

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
    • Hafan
    • Gwybodaeth am y Coleg
      • Ysgolion a Chanolfannau Academig
      • Staff
      • Bangor a'r ardal
    • Israddedigion
      • Ein Cyrsiau
      • Modiwlau
      • Bywyd myfyrwyr
      • Llety
      • Cyllid a ffioedd
      • Diwrnodau Agored
      • Archebu prospectws
    • Ôl-raddedigion
      • Ein cyrsiau
      • Ysgol i Raddedigion
      • Cyllid a ffioedd
      • Llety
      • Gwneud cais
      • Hyfforddiant a chefnogaeth
      • Ysgoloriaethau
      • Archebu prospectws
    • Ymchwil
      • Strategaeth Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Seminarau Ymchwil
      • Ysgoloriaethau
    • Derbyniad Graddio
    • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
    • Moeseg
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Cysylltwch â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

marchnata@bangor.ac.uk

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor