Dolenni Defnyddiol
Gwybodaeth Bellach i Staff
- Am gefnogaeth weinyddol gyda chynadleddau a digwyddiadau, e-bostiwch cahconferences@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382009.
- Os hoffech gyflwyno deunyddiau i'w cynnwys yn y Bwletin Ymchwil, e-bostiwch cahconferences@bangor.ac.uk.
Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Mae ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn rhychwantu ystod eang o ddisgyblaethau, ac yn cyfuno arbenigedd ar draws meysydd mewn sawl achos. Mae'r ymchwil gyffrous ac arwyddocaol a wneir gan ein hysgolion academaidd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau statws Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.
Mae gan y Coleg record ymchwil ragorol. Gwnaethom gyflwyno pedair Uned Asesu yn yr asesiad cenedlaethol mwyaf diweddar o ansawdd ymchwil (REF 2014):
- UoA19 Business and Managment Studies
- UoA20 Law
- UoA28 Modern Languages and Linguistics
- UoA29 English Language and Literature
- UoA30 History
- UoA35 Music, Drama, Dance and Performing Arts
Strategaeth Ymchwil, cryfderau ac arbenigeddau
Mae ymchwilwyr yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn gwneud ymchwil sy'n ennill gwobrau, yn rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith. Mae ein hymchwil yn amrywio o iaith a llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r cyfryngau, i astudiaethau ariannol, cyfathrebu, astudiaethau technoleg, rheoleiddio, cyfiawnder, hunaniaethau ac astudiaethau cymunedol. Mae wedi'i seilio'n gadarn ar ymdeimlad o le trwy ddiwylliant, perthnasedd cymharol, moddolrwydd, llenyddiaeth, iaith, cerddoriaeth, hanes, technoleg a sefydliadau, ynghyd â diddordeb yn natur newidiol cymunedau, cenhedloedd, strwythurau llywodraethu a chyfiawnder. Bwriad Strategaeth Ymchwil ac Effaith y Coleg yw meithrin y cryfderau ymchwil hyn o ran themâu cyffredin a chlystyrau ymchwil, tuag at gyhoeddi a lledaenu ymchwil yn llwyddiannus, ennill grantiau, ymgysylltu ac ymestyn allan, llwybrau at effaith, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.
Partneriaethau Ymchwil
Mae ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn cael ei wneud gan unigolion, grwpiau ymchwil ac mewn Canolfannau a Sefydliadau. Mae gennym nifer o ganolfannau ymchwil yn y coleg, a chymuned lewyrchus o ymchwilwyr ôl-raddedig. Ceir gwybodaeth bellach am weithgareddau ymchwil pob ysgol ar eu tudalennau gwe unigol.
Digwyddiadau Ymchwil
Mae'r Coleg yn cynnal cynadleddau, digwyddiadau ymchwil a chyfresi seminar ar ystod o bynciau ar draws ein disgyblaethau.
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau ymchwil diweddar yn y coleg, cymerwch olwg ar ein Newyddlen Ymchwil:
Newyddlen Ymchwil y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau i ddod ar ein calendr digwyddiadau ar-lein.