Proffil Staff Dr Hazel Robbins
- Enw
- Dr Hazel Robbins
- Swydd
- Swyddog Cefnogi Ymchwil y Coleg
- E-bost
- h.robbins@bangor.ac.uk
- Ffôn
- 01248 388142
- Lleoliad
- 2il Lawr Adeilad Newydd y Celfyddydau
Mae gan Hazel radd hanes o Fangor a thestun ei doethuriaeth oedd Margaret Pole, Iarlles Salisbury, 1473 - 1541. Mae Hazel yn Gymrawd o’r Royal Historical Society ac mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn y Welsh History Review, mae wedi cyfrannu at yr Oxford Dictionary of National Biography; The Readers Guide to British History, a chyhoeddwyd ei llyfr, Margaret Pole, Countess of Salisbury 1473-1541: Loyalty, Lineage and Leadership, gan Wasg Prifysgol Cymru.
Mae Hazel yn Swyddog Cefnogi Ymchwil y Coleg i Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Bydd yn rhoi cymorth gydag unrhyw ymholiadau'n ymwneud ag ymchwil ac mae'n gweithio'n agos â Chyfarwyddwr Ymchwil y Coleg, Yr Athro Astrid Ensslin.
Os oes gennych syniad am broject ond ddim yn gwybod o ble i gael cyllid ar ei gyfer, gall Hazel eich helpu i weld pwy yw'r cyllidwyr mwyaf priodol i wneud cais iddynt, ac mae ar gael ar gyfer cyfarfodydd un-i-un i drafod eich cynlluniau ymchwil a gofynion cysylltiedig.
Gall Hazel gynorthwyo gyda pharatoi a gwirio cynigion a chostiadau cyn cyflwyno. Bydd hefyd yn paratoi'r ffurflen FEC sydd ei hangen ar gyfer eich cais ymchwil, ac mae'n gweithio'n agos â'r adran gyllid yn y Swyddfa Ymchwil a Menter i gwblhau'r ffurflen ar gyfer ei llofnodi.
Pierce, H., Margaret Pole, Countess of Salisbury 1473-1541: Loyalty, Lineage and Leadership, (Cardiff, 2003)
Pierce, H., `The King’s Cousin: The Life, Career and Welsh Connection of Sir Richard Pole, 1458-1504,’ The Welsh History Review, vol., 19, no., 2, December 1998.
Cyfraniadau at weithiau a olygwyd:
Pole, Margaret, suo jure countess of Salisbury (1473–1541)
Pole, Arthur (1531/2-1570?), in Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
Loades, D.M., (ed.), Reader’s Guide to British History (London, 2003)
The Plantagenets, (1154-1485)
Cardinal John Morton
The Lambert Simnel Rebellion, (1487)
The Perkin Warbeck Conspiracy (1490s).