




Digwyddiadau
- Nid oes digwyddiadau yn y calendr
- Gwelwch yr holl ddigwyddiadau
Newyddion
- Dim Newyddion Cyfredol
- Darllenwch yr holl newyddion
Gŵyl Wyddoniaeth Bangor @ Gŵyl Ddarganfod 30ain Mai - 1af Mehefin 2019
Yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ym meysydd gwyddor technoleg a pheirianneg
Eleni mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a bydd yn cydweithio gyda'r Ŵyl Ddarganfod sy'n cael ei chynnal ar Faes Sioe Mona ar Ynys Môn rhwng y 30ain o Fai a'r 1af o Fehefin (dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn). Byddwn yn dod â gwyddoniaeth at y bobl mewn ddigwyddiad cyffrous yn llawn o bob mathau o weithgareddau cyffrous, na welwyd erioed mo'u tebyg ar Ynys Môn. Fyddwn ni ddim yn cynnal digwyddiad cyhoeddus Hidden Worlds yn Brambell eleni yn ystod Wythnos Gwyddoniaeth Prydain.
Bydd yr Ŵyl Ddarganfod yn ŵyl deuluol hwyliog dros 3 diwrnod, bydd yn ddathliad o'r 'Gorau o Ogledd Cymru'ac yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Plas Menai, Go North Wales, Twristiaeth Gogledd Cymru, Nant Gwytheryn, Menter Iaith, Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Sioe Cychod a Hamdden Cymru Gyfan, Gŵyl Fwyd Môn, Menter Mon, Canolfan Technoleg Bwyd, Dark Skies Cymru, Blas (a Trac) Cerddoriaeth Werin Cymru a llawer mwy ...
Yn yr Ŵyl Ddarganfod bydd ymwelwyr yn darganfod Crefft y Goedwig, Adrodd Straeon, Gwyddoniaeth Ryngweithiol, Bwydydd y Dyfodol, Coginio, Difyrion Cefn Gwlad, Cerddoriaeth, Dawns a Theatr. Bydd rhywbeth bob awr dros 3 diwrnod yr ŵyl, a rhaglen yn llawn i'r ymylon o hwyl a phrofiadau i'r teulu.
Braf fyddai gweld dilynwyr triw'r ŵyl wyddoniaeth yno.
Mae Prifysgol Bangor yn bartner swyddogol, ac mae wedi cael tocynnau am ddim i blant a thocynnau hanner pris i oedolion. Bydd y tocynnau ar gael trwy wefan Gŵyl Wyddoniaeth Bangor o'r 1af Mawrth - 31ain Mai. Mae gwersylla hefyd ar y safle!
I gael tocynnau ar gyfer y digwyddiad, ewch i'r wefan gan ddefnyddio'r ddolen isod a defnyddio codau disgownt unigryw Gŵyl Wyddoniaeth Bangor:
GDFoD2019 am docynnau am ddim i'r plant
GDFoD2019A am docynnau hanner pris i oedolion
Caiff Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn yr Ŵyl Ddarganfod ei chydlynu gan Stevie Scanlan, Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg mewn partneriaeth â llawer o gydweithwyr eraill ym Mhrifysgol Bangor.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost:
- Ffôn: 01248 382400
- E-bost cyffredinol Gŵyl Wyddoniaeth Bangor: b.s.f@bangor.ac.uk
Cysylltiadau:
- Stevie Scanlan: stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Uchafbwyntiau Gŵyl Wyddoniaeth Bangor
Gallwch edrych ymlaen at hyn oll a llawer mwy!