Bangor a’r Ardal
Lleoliad Prifysgol Bangor - Does unman tebyg!
Mae lleoliad Prifysgol Bangor, rhwng mynyddoedd Eryri a'r môr, yn dod ag elfen unigryw i fywyd myfyrwyr. Gallwch gymryd rhan mewn bob math o weithgareddau awyr agored, crwydro ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ymweld â chestyll a phentrefi hanesyddol neu ymlacio ar draethau hardd yr ardal.
Antur newydd o'ch blaen - Zip World Velocity
Wyddoch chi fod Bangor wedi ei lleoli ychydig filltiroedd o wifren wib cyflymaf y byd? Buodd pump o'n myfyrwyr dewr yno am antur..
Mynyddoedd Eryri
Mae Bangor wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd Eryri ac afon Menai; mae’n debyg mai dyma un o’r lleoliadau prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Gwyliwch y fideo i weld golygfeydd syfrdanol o fynyddoedd Eryri.
Ffilmiwyd y fideo yma gan Tom Hecht, cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor.