Wythnos Groeso
Wythnos Groeso - yr wythnos gyntaf ym Mangor!
Dyma gip olwg i chi o'r hyn sy'n mynd ymlaen yn ystod yr wythnos gyntaf o'ch bywyd prifysgol.
Clybiau a Chymdeithasau
Mae gan Fangor dros 150 o glybiau a chymdeithasau ar gael felly rydych yn siwr o ddod o hyd i rhywbeth sydd at eich dant. Mae aelodaeth i'r holl glybiau a chymdeithasau nawr yn rhad ac am ddim felly does dim rheswm i beidio ymaelodi! Yn ystod yr Wythnos Groeso cewch y cyfle i ymuno â clybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn Ffair Serendipity.
Arweinwyr Cyfoed
Cyfle i ddarganfod mwy am waith yr arweinwyr cyfoed, a sut gall fod yn fanteisiol i fyfyrwyr.