Gwasanaethau Ffitrwydd
Croeso i Rhaglen Ffitrwydd Canolfan Brailsford
Cwrs Sefydlu
Er mwyn defnyddio’r ystafelloedd pwysau a chardiofasgwlaidd mae’n rhaid i chi fod wedi bod ar gwrs sefydlu yn gyntaf. Cewch logi eich cwrs sefydlu yn y Dderbynfa. Gellwch archebu hwn wrth y Dderbynfa ar adeg sy’n gyfleus, ar gost o £10. Unwaith yr ydych wedi cwblhau’r cwrs sefydlu, nid oes rhaid llogi ar gyfer defnydd unigol o’r ystafelloedd ffitrwydd. Cysylltwch â’r Dderbynfa i holi am amseroedd a dyddiadau’r cyrsiau sefydlu.
Hyfforddiant Personol
Pam gwastraffu amser yn y gym? Pam na wnewch chi gael Rhaglen Ffitrwydd Personol wedi ei gynllunio ar eich cyfer.
Ymgynghoriad 1 awr. Cewch logi hyfforddiant personol yn y Dderbynfa.
Dadansoddiad Braster y Corff
Wrth geisio colli pwysau, mae pawb yn ceisio colli braster, felly pam na wnewch chi fesur canran y braster yn eich corff?
Mae’r profion yn cymryd tua ½ awr i’w cwblhau. Am fwy o wybodaeth neu i logi’r gwasanaeth ewch i’r Dderbynfa ym Canolfan Brailsford.
Cyngor Maeth
Mae maeth yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau fod y corff yn gweithredu mewn ffordd effeithlon. O golli pwysau i ennill pwysau, o hyfforddiant uwch i weithgareddau pob dydd, mae maeth yn chwarae rhan allweddol.
Clwb Ieuenctid
Os ydych o dan 16 ac eisiau defnyddio ein hystafelloedd ffitrwydd, pam na ddowch i’n Clwb Ieuenctid. Bydd ein hyfforddwyr yno i’ch helpu chi ddod i arfer gyda defnyddio’r offer.