Sut mae arbed arian er mwyn cynilo?

Dr Gwion WilliamsDr Gwion Williams

Mae’r llog y gallwn ni ei gael ar gyfrifon banc yn allweddol i’n gallu i gynilo, yn ôl yr arbenigwr ariannol, Dr Gwion Williams o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor.

Yn 2017, llwyddodd teuluoedd yng ngwledydd Prydain ar gyfartaledd i gynilo dim ond 3% o’u hincwm misol, y raddfa isaf ers hanner canrif. Ar y cyfan, roedd un o bob pedwar teulu wedi llwyddo i gynilo dim ond £95.

Mae Dr Gwion Williams wedi bod yn cynnig cyngor i gyfres realiti newydd sbon S4C, Y Tŷ Arian (nos Iau, 19 Ebrill, 8pm), sy’n rhoi’r cyfle i chwe theulu o bob cwr o Gymru ddysgu mwy am eu harferion ariannol mewn ymgais i gynilo at ddiben arbennig.

Bydd teuluoedd o Lanfrothen, Merthyr Tudful, Aberystwyth, Caerffili, Brithdir (Dolgellau) a Waunfawr yn treulio 48 awr yn y ‘Tŷ Arian’ i drafod eu harferion gwario ac i ymgymryd â nifer o heriau ariannol cyn cael adborth, lle byddwn ni’n cael gweld eu llwyddiant a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu o’r broses.

Beth sy’n ein hatal ni rhag cynilo?

Bydd y gyfres yn codi sawl cwestiwn am y ffactorau sy’n effeithio ar ein gallu i arbed arian ac i gynilo – o or-wario ar bethau diangen i brysurdeb bywyd. Ond dydy’r problemau sy’n codi ddim yn unigryw i’r Tŷ Arian.

Dywedodd Dr Gwion Williams: “Os yw pobl yn brysur, maen nhw’n fwy tebygol o gael têcawê, ac yn y blaen. Mae’n gallu achosi i bobl wario mwy o bres lle ’dyn nhw ddim angen gwneud. Rhan o gyflymdra bywyd pobl ydy o, sy’n meddwl bod gynnon nhw lai o amser i feddwl am eu pres a’u bancio.

Cyflwynwyr Ty Arian yw Leah Hughes a Dot Davies.Cyflwynwyr Ty Arian yw Leah Hughes a Dot Davies.“Mae lot o hysbysebion ar y teledu yn deud wrth bobl pa mor hawdd ydi o i newid darparwr ond dydi pobl dal ddim efo’r amynedd i wneud yr ymdrech i’w wneud o. Os ydyn nhw’n sylweddoli faint o bres allen nhw arbed eu hunain, ella fyddan nhw’n dechrau meddwl am y peth.

“Un peth wnes i weld o wneud y gyfres ydi fod pobl ddim yn sylweddoli faint o bres maen nhw’n ei wario dros flwyddyn. Maen nhw’n deud bo nhw’n gwario gormod ar fwyd neu ar drydan ond dydyn nhw ddim yn gwybod faint maen nhw’n ei wario.

“Taswn i’n gwneud y cyfrifo, byddai’n hawdd i’r teuluoedd yma weld faint maen nhw’n ei wario a lle maen nhw’n gwario gormod. I’r teulu cyffredin, ydyn nhw’n mynd i roi’r ymdrech yna i fewn eu hunain? Dydy pawb ddim yn mynd i fynd at ymgynghorydd ariannol i gael manylion eu gwariant.”

Arbed arian – pum cam syml

Mae llawer o bobl yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i asesu eu hanghenion ariannol yn fanwl, felly mae Dr Gwion Williams wedi mynd ati i lunio pum cam syml i’ch helpu i gynilo.

  1. 1.      Nid ISA yw’r cyfrif gorau i’w ddefnyddio i gynilo. Mae llog gwell i’w gael mewn cyfrifon cyfredol (current account) neu gyfrifon cynilo rheolaidd (regular savers account). Mae’n dibynnu faint o bres sydd gan bobl i’w roi. Mae hyn oherwydd y lwfans treth personol, sy’n golygu bod y £1,000 cyntaf ar gael heb orfod talu treth. Mae ISA heb dreth, ond mae cyfrifon cyfredol yn cael eu trethu.  Ond os wyt ti yn y categori 40% ac ymhlith yr enillwyr uchaf, efallai mai ISA fyddai orau wedyn. Mae incwm pobl yng Nghymru’n llai na gweddill Prydain, felly nhw fydd yn cael eu cosbi fwyaf.

 

  1. 2.      Cadwch lygad ar eich biliau trydan a nwy. Wnes i sylwi bod y teuluoedd yn Y Tŷ Arian yn gwario lot fawr o bres ar drydan a nwy. Mae modd sbïo i gael dêl gwell. A oes angen y gwres ymlaen drwy’r dydd? Mae lot o bobl yn gwario gormod ar eu gwres. Ond mi allen nhw sbïo ar wefannau i weld sut fedran nhw arbed pres ar drydan a ballu neu yn eu cyfri banc. Ond mae lot o bobl yn deud nad oes gynnon nhw amser i wneud y pethau yma. Dyna ydw i wedi’i weld yn y gyfres yma, er dydi o ond yn cymryd pum munud i newid darparwr tanwydd.

 

  1. 3.      Ewch â’ch bwyd eich hun i mewn i’r gwaith. Peidiwch â phrynu dêl bwyd i ginio. Byddai hynny’n arbed lot fawr o bres dros gyfnod o amser.

 

  1. 4.      Chwiliwch am gytundeb band llydan gwell. Mae llawer ohonoch yn gwario mwy o bres nag y dylech chi fod yn ei wneud.

 

  1. 5.       Ystyriwch ailforgeisio eich tŷ. Dydy hyn ddim yn berthnasol i bawb. Os yw eich morgais yn gyfnod sefydlog o bum mlynedd, dydy o ddim werth ailforgeisio. Ond i chi sydd ar gyfradd newidiol, mae’n werth edrych ar ailforgeisio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2018