Professor Bruce Vanstone, Head of Bangor Business School

Neges gan Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Bruce Vanstone Amdanom Ni

Mae Ysgol Busnes Bangor yn ysgol flaenllaw sy'n canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil. Rydym yn cynnig rhaglenni gradd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd o lefel israddedig ac ôl-raddedig hyd at ddoethuriaeth.

Cewch eich addysgu gan staff academaidd sy'n arbenigwyr yn eu maes ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygu polisi, hyrwyddo eu disgyblaethau, a hyd yn oed arwain at gwell dealltwriaeth o fusnes. Mae ein staff academaidd o'r radd flaenaf yn defnyddio eu hymchwil i lywio eu haddysgu, gan helpu i sicrhau eich bod yn barod iawn i lwyddo ym myd esblygol busnes byd-eang.

Rwy'n eich gwahodd i ymuno â'r gymuned gyffrous a bywiog sydd yma yn Ysgol Busnes Bangor, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda chi i liwio eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.

3ydd

allan o 85 ar gyfer y mesur Cyffredinol

Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2023

Y Gorau

o holl brifysgolion ar gyfer ymchwil ym maes Bancio

RePEc, Medi 2023

5ed

ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid

2024 Guardian University Guide

Canolfannau Ymchwil

Mae Ysgol Busnes Bangor yn gartref i ddwy Ganolfan Ymchwil. Dysgwch fwy am ein Canolfannau Ymchwil a'u hamrywiaeth o weithgareddau a chyflawniadau.

Themâu Ymchwil

Mae Ysgol Busnes Bangor yn gartref i ddwy Ganolfan Ymchwil. Dysgwch fwy am ein Canolfannau Ymchwil a'u hamrywiaeth o weithgareddau a chyflawniadau.

Myfyriwr yn eistedd o flaen gliniadur ar fwrdd gwyn gyda pherson arall yn y cefndir

Ein Partneriaeth

Yma yn Ysgol Busnes Bangor rydym yn gweithio gyda phartneriaeth leol a phartneriaethau byd-eang. Ein hamcan yw ehangu'r profiad dysgu mae myfyrwyr yn ei chael yma yn yr ysgol a sicrhau bod busnesau yn cael mynediad tua at ymchwil o safon ac arbenigedd ein hacademyddion. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a sectorau trydydd parti.

Two students looking at databases in the new trading floor

Ein Cronfeydd Data

Yma yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Cyfrifiadureg

Ein Cyfleusterau ac Adnoddau

Mae Ysgol Busnes Bangor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau ac adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi a hyrwyddo profiad dysgu ymysg myfyrwyr.  

DILYNWCH NI

Y Tweets diweddaraf gan @Bangor_Business

Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

Cysylltwch

Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?