Newyddion: Mawrth 2017

Tri i gystadlu ar ran y Brifysgol mewn cystadleuaeth entrepreneuriaeth

Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i gynrychioli’r Brifysgol ar gyfer rownd ranbarthol cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.

Yn dilyn cystadlu yn erbyn dros 30 o geisiadau eraill i gyrraedd y  rhestr fer o chwe phroject entrepreneuraidd, gwobrwywyd Ned Hartfiel, sydd newydd dderbyn gradd PhD, a myfyrwyr gradd Meistr mewn Seicoleg, Alex Bailey a Daniel Pascoe gyda siec gwerth £200 at eu ceisiadau. Byddant hefyd yn gymwys i dderbyn cefnogaeth busnes trwy raglen B-Fentrus Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017

Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd

Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn.

Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017

Diwrnod Rhyngwladol Merched

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2017