Newyddion: Rhagfyr 2017

Lessons from the Beeching cuts in reviving Britain's railways

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).

Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

O’r Byd Newydd i’n byd ni – cyfieithiad newydd o nofel epig Jerry Hunter

Mae cyfieithiad newydd o nofel Gymraeg gan Yr Athro Jerry Hunter yn taflu goleuni ar bennod lled-anghofiedig o Ryfel Cartref Lloegr – a hanes Cymru – pan ddaru milwyr o fyddin Cromwell daro ar griw o ferched yn gynnar wedi terfyn Brwydr Naseby ym 1645. Gyda Chymraeg y merched yn estron i glustiau milwyr Cromwell, tybiwyd mai Pabyddion Gwyddelig oedden nhw a lladdwyd dros gant ohonynt yn y fan a’r lle gan y milwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2017