Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn graddio

Megan EliasMegan EliasAr ôl tair blynedd o waith caled, ac o wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a oedd ar gael iddi, mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn graddio gyda balchder.

Daw Megan Elias o Hen Golwyn ac mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn. Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-gymraeg, a’i bwriad dair blynedd yn ôl oedd mynd i astudio gradd mewn cyllid mewn prifysgol yn Lloegr. Fodd bynnag, daeth tro ar fyd dridiau ar ôl iddi adael yr ysgol a hynny ar ymweliad undydd ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala: fe’i meddiannwyd gan y teimlad ei bod hi am siarad Cymraeg a bod yn rhan lawn o’r diwylliant. Newidiodd ei meddwl a dod yn fyfyrwraig israddedig i Ysgol y Gymraeg ym Medi 2014.

O’r funud y cyrhaeddodd Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, bwriodd Megan i ganol bywyd fel myfyriwr israddedig. Mae hi’n enghraifft ragorol o fyfyrwraig o gefndir ail iaith sydd wedi llwyddo i integreiddio’n llawn yn ieithyddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Gwnaeth gyfraniad arbennig i fywyd yr ysgol a’r brifysgol yn ystod y cyfnod hwn gan godi proffil myfyrwyr ail iaith.

Daeth i amlygrwydd cenedlaethol ym Mehefin 2016 pan enillodd Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ei newydd wedd gyda phwyslais newydd ar ddefnyddio a chymhwyso’r Gymraeg. Bu’r profiad hwnnw’n un a’i hysbrydolodd ac oddi ar hynny, bu’n gwirfoddoli droeon gyda’r Urdd ac yn ymweld â sawl ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg er mwyn hybu’r Gymraeg a rhannu ei stori ysbrydoledig gyda nifer fawr o ddisgyblion ail iaith.

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf – er gwaethaf prysurdeb ei blwyddyn olaf – aeth ati i ailsefydlu Cymdeithas Llywelyn, sef cymdeithas ar gyfer dysgwyr Prifysgol Bangor: ymaelododd nifer ryfeddol o fyfyrwyr, 130 ohonynt, yn ystod Wythnos y Glas, y rhan fwyaf yn ddechreuwyr pur, a bu’n cynnal cyfarfodydd anffurfiol ar hyd y sesiwn ddiwethaf er mwyn defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Gerwyn Wiliams: “Heddiw mae Megan yn ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ac rydym yn ei llongyfarch yn fawr ar ei champ ac ar ei chyfraniad ar hyd ei chyfnod fel myfyrwraig yma ym Mangor.”

Dywedodd Megan:

“Roedd fy mhrofiad ym Mangor yn un i'w drysori. Ymdrochais fy hun i mewn i'r byd Cymraeg gan fyw yn Neuadd JMJ yn fy mlwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn lle mae'r Gymraeg i'w chlywed ym mhob man. Nid yn unig y cefais y cyfle i glywed yr iaith ar lafar a gwahanol dafodieithoedd yno, ond roedd digon o gyfleoedd ar gael a drefnwyd gan UMCB ac Ysgol y Gymraeg imi allu ymarfer fy Nghymraeg, ond mewn ffordd hwyliog gan wneud ffrindiau a dod i wybod mwy am y diwylliant a’r byd Cymraeg. 

“Ni fyddwn wedi llwyddo cystal pe na bawn wedi cael y cymorth a gefais gan ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg. Yr oeddent yno i fy helpu gydag unrhyw beth, unrhyw bryd. Cefais fy nhrin fel myfyrwraig y Gymraeg yn hytrach na myfyrwraig ‘ail-iaith’ a chefais i ddim fy rhoi ar wahân i’r myfyrwyr eraill, ond roeddent hefyd yn deall sut yr oeddwn yn gweithio a sut i fy nysgu mewn sesiynau un-i-un. Fy hoff atgof yw’r Athro Gerwyn Wiliams yn dod i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint y llynedd er mwyn fy ngweld yn ennill Medal y Dysgwyr; mae hyn yn dangos dilysrwydd yr Athro ac hefyd yn adlewyrchu natur pob athro arall yn Ysgol y Gymraeg. 

“Fe wnaeth bod yn aelod o UMCB, ac yn rhan o Ysgol y Gymraeg, godi fy ysbryd a fy hyder fel person ac rwy’n falch iawn o allu cynrychioli myfyrwyr ail-iaith. Mae’n deimlad chwerwfelys graddio eleni gyda gradd yn y Gymraeg. Rwyf mor falch fy mod wedi llwyddo ac wedi cael cymaint o gyfleoedd bythgofiadwy ar hyd y tair blynedd ddiwethaf. Serch hynny, mae’n ddiwedd cyfnod arbennig iawn yn fy mywyd ac mi fydd yn drist iawn gadael y brifysgol a Bangor, er y byddaf yn gadael gydag atgofion melys iawn. 

“Ar hyn o bryd rwy’n gobeithio cael swydd lle caf ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac rwy’n dal i wirfoddoli gyda’r Urdd a chael mwy o brofiadau bob dydd. Y gobaith yw ysbrydoli dysgwyr eraill a gwneud gwahaniaeth gan newid agweddau pobl i fod eisiau dysgu’r iaith. Ond pwy a ŵyr, nid wyf yn barod i ddweud hwyl wrth Fangor eto, felly efallai y byddaf yn ôl yn fuan i wneud cwrs MA.”

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017