Cyfarfod â'r criw
- Cwestiynau cyflym gyda gweddill y tîm.
Calendr Campws Byw
- Llawrlwytho Calendr Campws Byw.
Criw Campws Byw - Esther
Heiii bawb! Fy enw i yw Esther ac rwy'n dod o Iwerddon ond rwy'n byw yn Llundain. Rwy'n 20 oed ac yn y drydedd flwyddyn yn astudio'r Gyfraith gydag Athroniaeth a Chrefydd. Rwyf wrth fy modd yn helpu pobl ac os oes angen rhywbeth arnoch chi, galwch fi. Rwyf hefyd wrth fy modd yn dod i adnabod pobl newydd ac mae croeso i chi ddweud “helo” pryd bynnag.
Rwy'n hoff o ddarllen, coginio a chreu pethau newydd naill ai o'r dechrau'n deg neu drwy uwchgylchu. Rwyf hefyd yn Llywydd y Gymdeithas Affro-Garibïaidd, Ysgrifennydd y Trampolîn ac rwy'n aelod o broject Mind Over Body. Rwy'n mwynhau bod yn greadigol ac yn fy ysgogi fy hun y tu hwnt i'r arferol.
Mae Campws Byw'n ffordd wych o fynd allan a chwrdd â phobl eraill sydd mewn neuaddau. Mae gyfle i chi gymdeithasu, rhoi cynnig ar bethau newydd ac wrth gwrs mae bwyd am ddim yn fonws hefyd! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi i gyd, gobeithiaf eich gweld chi'n fuan.