Cymraeg ar y Cyfrifiadur
Dyddiad: | i'w bennu |
Lleoliad: | Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor |
Hyfforddwr: | Dr Llion Jones |
Tâl: | £75 (yn cynnwys paned a llawlyfr) |
Amser: | 9:30 - 13:00 |
Cofrestrwch | yma |
Crynodeb
Cyflwyniad ymarferol i’r holl ystod o adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sy’n defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith ac sy’n awyddus i ddatblygu eu defnydd o adnoddau cyfrifiadurol er mwyn gallu gweithio yn gywirach ac yn fwy effeithlon.
Cynnwys
- Cyflwyniad ymarferol i’r holl ystod o adnoddau geiriadurol a therminolegol electronig sydd ar gael i hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
- Cyflwyniad ymarferol i’r offer gwirio sillafu a gramadeg sydd ar gael i hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
- Trosolwg o’r datblygiadau diweddaraf ym maes adnoddau cyfrifiadurol Cymraeg (e.e. cyfieithu peirianyddol, technoleg lleferydd).
- Cyfres o ymarferion i sicrhau defnydd effeithiol a pherthnasol o’r adnoddau sydd ar gael.
Hyfforddwr
Mae gan Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, dros chwarter canrif o brofiad dysgu yn y sector addysg uwch. Yn ystod y cyfnod hwnnw, y mae wedi datblygu a chyflwyno nifer o gyrsiau arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes technoleg gwybodaeth a’r cyfryngau newydd. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno cyrsiau gloywi a defnyddio’r Gymraeg yng nghyd-destun gwahanol gyfryngau.
Tystebau
'Hollol wych. Bydd y cwrs yn fy ngalluogi i weithio'n llawer cynt yn Gymraeg'
'Wedi dysgu llawer o driciau clyfar i'm helpu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg'
'Dwi wedi mwynhau ac wedi cael llawer mwy nag oeddwn wedi'i obeithio drwy fynychu'r cwrs'