Cymraeg Clir
Dyddiad: | 19 Tachwedd 2019 |
Lleoliad: | Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor |
Hyfforddwr: | Eleri Hughes |
Tâl: | £125 (yn cynnwys cinio, paned ac adnoddau) |
Amser: | 9:30 - 16:00 |
Cofrestrwch | yma |
Amcanion:
Cyflwyniad ymarferol i brif egwyddorion ysgrifennu Cymraeg clir, naturiol a chywir ar gyfer y cyhoedd.
Ar gyfer pwy?
Gweithwyr y sector cyhoeddus neu’r sector preifat sy’n ysgrifennu ar gyfer y cyhoedd yn eu gwaith.
Cynnwys:
- Trafod pwysigrwydd ysgrifennu’n glir a dealladwy ar gyfer y cyhoedd;
- Prif egwyddorion Cymraeg Clir gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- elfennau sy’n gwneud dogfennau Cymraeg yn haws eu darllen a’u deall;
- sut i addasu eich iaith yn dibynnu ar y dasg a’r gynulleidfa;
- geirfa a thermau;
- defnyddio ffynonellau Saesneg – osgoi dylanwad patrymau’r Saesneg wrth ysgrifennu yn y Gymraeg;
- ysgrifennu mewn cywair addas gan ganolbwyntio ar y berfau;
- Rhoi cynnig arni – cyfle i ymarfer y sgiliau wrth ysgrifennu darn perthnasol i’ch gwaith.
Hyfforddwr
Eleri Hughes ydy Prif Diwtor Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno cyrsiau sgiliau iaith. Dros y 25 mlynedd diwethaf, bu’n dysgu yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin; ym Mhatagonia yn yr Ariannin; ym Mhrifysgol Caerdydd ac yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Yn 2015 derbyniodd Gymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol Bangor am ragoriaeth mewn dysgu a gofal bugeiliol.
Tystebau
'Fel swyddog marchnata rwyf angen gallu ysgrifennu Cymraeg cywir ond clir – mae’r cwrs yma wedi bod o help mawr.''Mae’r cwrs wedi dangos i mi fod rhaid canolbwyntio ar “pam” a “pwy” wrth ysgrifennu rhywbeth yn Gymraeg. Pam rydw i’n ei ysgrifennu a phwy sy’n mynd i’w ddarllen!'
'Mae gen i lawer gwell syniad sut i ysgrifennu’n glir a dealladwy – defnyddiol iawn wrth ddelio â’r cyhoedd o ddydd i ddydd.'