Trydar yn Gymraeg
Dyddiad: | i'w bennu |
Lleoliad: | Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor; |
Hyfforddwr: | Dr Llion Jones |
Tâl: | £75 (yn cynnwys paned ac adnoddau) |
Amser: | 9:30 - 13:00 (Bangor) |
Cofrestrwch | yma |
Crynodeb
Cyflwyniad ymarferol i brif egwyddorion ysgrifennu Cymraeg bachog a chlir ar gyfer Twitter a chyfryngau cymdeithasol eraill.
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros baratoi testun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a llwyfan Twitter yn benodol.
Cynnwys:
- Trosolwg o Twitter fel cyfrwng a’r ystyriaethau ieithyddol y mae’r cyfrwng yn eu codi, gyda sylw penodol i’r Gymraeg.
- Cyflwyniad ymarferol i brif egwyddorion ysgrifennu yn llwyddiannus ar gyfer Twitter yn Gymraeg.
- Cyfres o ymarferion ysgrifennu ac addasu cynnwys ar gyfer Twitter.
Hyfforddwr
Mae gan Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, dros chwarter canrif o brofiad dysgu yn y sector addysg uwch. Yn ystod y cyfnod hwnnw, y mae wedi datblygu a chyflwyno nifer o gyrsiau arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes technoleg gwybodaeth a’r cyfryngau newydd. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno cyrsiau gloywi a defnyddio’r Gymraeg yng nghyd-destun gwahanol gyfryngau.
Tystebau
'Mae'r cwrs wedi gwneud i mi ail-ystyried y ffordd rwy'n trydar yn Gymraeg'
'Mae'r cwrs wedi rhoi hyder i mi fynd ati i drydar yn Gymraeg'
'Byddaf yn gallu gwella fy negeseuon trydar yn Gymraeg (a Saesneg i fod yn onest!)'
'Mae'r cwrs wedi rhoi arweiniad clir i mi ar sui drydar yn gryno a llai ffurfiol'