bod unigolion llai breintiedig yn derbyn peth cymorth, ond nid oes rhaglen strategol o
ddargyfeirio adnoddau o ardaloedd goludog er mwyn buddsoddi mewn ardaloedd lle mae
angen datblygiad economaidd. Wrth gwrs, mae dargyfeirio o'r fath yn gallu digwydd fel mater
o ffaith pan fo'r Llywodraeth yn Llundain yn clustnodi arian ar gyfer buddsoddi mewn
prosiectau cyfalaf sy'n creu gwaith neu yn hwyluso gweithgaredd economaidd, megis
buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth neu ynni mewn ardaloedd llai breintiedig. Ond cyd-
ddigwyddiad yw hynny. Nid ailddosbarthu cyfoeth er mwyn galluogi twf economaidd lleol mo
hyn, ond manteisio ar amgylchiadau daearyddol penodol er mwyn gwneud pethau sydd eu
hangen yn ehangach. Sgil effaith yw twf economaidd lleol.
Nid yw'r arian a drosglwyddir i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnet yn cydnabod y
gwahaniaeth angen rhwng Cymru a Lloegr.
Heb bolisi ar ran Llywodraeth Prydain o
gynorthwyo buddsoddiad mewn ardaloedd difreintiedig, a darparu'r cyllid ar gyfer hynny,
bydd yr her economaidd i ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol gref yn dwysáu.
Bydd mwy o bobl, yn arbennig pobl ifanc, yn gadael.
Hefyd, mae angen cadw mewn cof bwysigrwydd y diwydiant amaeth i'r ardaloedd cefn gwlad
hynny lle mae'r Gymraeg yn gryf, a'r trefi a phentrefi yn yr ardaloedd hynny. Nid wyf yn
arbenigwr yn y maes hwn o gwbl, ond mi fentraf ddyfalu bod busnesau ffermio teuluol yr
ardaloedd Cymraeg wedi bod fwy ar eu hennill nag ar eu colled yn sgil Polisi Amaeth Cyffredin
yr UE.
Yr hyn sydd angen ei gadw mewn cof am y cyfryw effeithiau economaidd ar y Gymraeg yw y
byddant yn digwydd Brexit caled neu beidio. O adael yr UE ni fydd ei bolisi rhanbarthol na'i
bolisi amaeth yn weithredol yng Nghymru. Mater i Lywodraeth y DG fydd hi i benderfynu a
yw am gynnal polisïau o'r fath.
Ymadael, a'r effaith ehangach ar y Gymraeg
Hoffwn symud nawr i ymdrin yn ehangach, yn fwy goddrychol efallai, ag effaith y refferendwm
ar y Gymraeg. Yr wyf am sôn am y Gymraeg fel iaith leiafrifol yn Ewrop ac am y Cymry
Cymraeg fel lleiafrif yn y DG.
10