Problemau Amlieithedd
Hoffwn gychwyn y rhan yma drwy ddychwelyd at y cysyniad o ingroup ac outgroup.
Gwyddom am y peryglon sydd yn deillio o ddemoneiddio unigolion ar y sail eu bod yn perthyn
i grwp gwahanol. Mae drwgdybiaeth tuag at yr "arall" yn gallu arwain at gasineb a thrais.
Hyd y gwelaf i, lle diffinnir yr arall yn nhermau iaith, mae'r potensial am ddrwgdybiaeth yn
uchel. Nid mater o fod yn perthyn i grwp gwahanol mo hyn yn unig, ond mater o fod yn
perthyn i grwp sy'n meddu ar nodwedd sy'n llesterio dealltwriaeth, sef ei iaith ei hun. Mae'r
anghyfiaith yn outgroup anos ei ddirnad na'r un. Nawr fe fydd gan bob grwp i raddau mwy
neu lai ei lect ei hun, ys dywed yr ieithegwyr, ei ffordd ei hun o siarad ac o fynegi pethau. Mae
gan bob teulu ei eiriau a'i ymadroddion ei hun, sydd yn ystyrlon i'w aelodau, ond nid i'r sawl
nad ydynt yn aelodau. Wyddoch chi er enghraifft beth yw bogos a llebes? Pe dywedwn i "yn
ei senna' gath hi" wrthych chi, pa faint callach fyddech chi? Dyma eiriau ac ymadroddion sydd
yn gysefin yn fy nheulu i, ond yn ddryswch pur i bobl o'r tu allan. Eto i gyd, Cymraeg yw iaith
y teulu. Ni fyddai'n anodd i rywun arall sy'n medru'r Gymraeg wylio fy nheulu a meithrin
dealltwriaeth o natur y grwp a'r berthynas rhwng ei aelodau. Ond mae grp a ddiffinir gan
ei hiaith ei hun yn cynnig mwy o her i'r sawl a fynn ei ddeall o'r tu allan. Mae fy nheulu yn
rhan o'r ingroup siaradwyr Cymraeg. Peth anodd iawn yw hi i rywun sydd ddim yn perthyn i'r
ingroup hwnnw i feithrin dealltwriaeth o'i natur, gan nad ydynt yn meddu ar y prif arf ar gyfer
gwneud hynny, sef dealltwriaeth o'r Gymraeg.
Credaf fod y ffactor yma, a'r ddrwgdybiaeth sy'n deillio ohono wedi bod yn llestair ymarferol,
seicolegol a gwleidyddol i ffyniant y Gymraeg oddi mewn i'r DG. Mae hynny yn arbennig o
wir oherwydd bod y rhan helaethaf o'r ingroup yn medru Saesneg yn rhugl. Yn aml, gwelir y
Gymraeg fel cod dirgel sy'n bodoli er mwyn cau pobl allan, cynllwynio yn eu herbyn neu
sicrhau breiniau megis swyddi i aelodau'r ingroup. Ac weithiau, rhaid cydnabod bod rhai
aelodau o'r ingroup yn ymddwyn felly.
Mae hyn yn fwy o broblem oherwydd mai tiriogaeth unieithog yw rhan helaethaf y Deyrnas
Gyfunol, ac mai iaith y diriogaeth honno fu unig iaith grym masnachol, gwleidyddol a
11