chyfreithiol am ganrifoedd, hyd yn oed yn yr ardaloedd bychain y tu allan i'r diriogaeth honno
lle siaredir mwy nag un iaith.
Amlieithedd Ewrop a'r Gymraeg
Mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, am nifer o wladwriaethau eraill yr UE, yn arbennig felly y
rhai hynny a fu yn eu tro yn rymoedd imperialaidd. Un o brif ddulliau ymerodraeth yw
gwastrodi ieithyddol, er mwyn sicrhau unffurfiaeth dros y rhai y llywodraethir drostynt. Does
ond rhaid edrych ar sut y daeth tafodiaith ardal Paris drwy orfodaeth yn iaith swyddogol
Ffrainc, a thafodiaith ysgolion bonedd Lloegr yn "received pronunciation" i weld hyn ar waith.
Eithr ar lefel tiriogaeth Ewrop gyfan, nid oes modd gweithredu fel hyn yn ymarferol. Er (neu
efallai oherwydd) bod Saesneg wedi datblygu yn iaith ryngwladol a siaredir yn gyffredin ar
draws gyfandir Ewrop, mae amrywiaeth ieithyddol y diriogaeth yn parhau yn nodwedd sydd
yn ei diffinio, ac hefyd yn rhywbeth y mae angen ei ddathlu. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei
hanfod yn amlieithog, oherwydd bod y diriogaeth y mae'n ei chwmpasu yn amlieithog, a thra
bo'r DG yn dal yn aelod o'r UE, mae'r Gymraeg yn bodoli oddi mewn i'r cyd-destun amlieithog
hwnnw.
Oddi mewn i nifer o wledydd Ewrop, mae amlieithrwydd yn fater sy'n fwy gwleidyddol
gymhleth na lleiafrif bychan sy'n dipyn o boendod i rai sy'n credu mewn trefn. Yn aml mae
iaith lleiafrif mewn un wladwriaeth yn iaith mwyafrif neu'n iaith swyddogol mewn
gwladwriaeth arall. Dyna i chi siaradwyr Eidaleg yng Nghroatia, siaradwyr Ffinneg yn Sweden,
siaradwyr Hwngareg, Almaeneg ac Iwcraineg ledled canol Ewrop. Mae gwastrodi lleiafrif
ieithyddol y mae ganddi "kin state" pwerus yn beth peryglus i'w wneud. Hyd yn oed oddi
mewn i'r UE, er enghraifft, bu diffyg hawliau iaith yr hanner miliwn o siaradwyr Hwngareg yn
Slofacia yn destun gwrthdaro gwleidyddol difrifol.
Mae cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd yn cydnabod yr amrywiaeth yma. Felly mae Erthygl
3(3) Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, yn datgan:
The Union shall establish an internal market. It shall work for the sustainable development of
Europe based on balanced economic growth and price stability, a highly competitive social
12