market economy, aiming at full employment and social progress, and a high level of
protection and improvement of the quality of the environment. It shall promote scientific and
technological advance. It shall combat social exclusion and discrimination, and shall promote
social justice and protection, equality between women and men, solidarity between
generations and protection of the rights of the child. It shall promote economic, social and
territorial cohesion, and solidarity among Member States. It shall respect its rich cultural and
linguistic diversity, and shall ensure that Europe's cultural heritage is safeguarded and
enhanced.
Dyma osod amrywiaeth diwylliannol A IEITHYDDOL yn yr un man â dibenion hanfodol eraill yr
Undeb. Maent yn greiddiol i gyfansoddiad Ewrop, yn cael eu gosod yn un o brif gonglfeini yr
hyn y mae'n ofynnol i'r UE ei wneud.
Fe welir y pwyslais hwn ar warchod a hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol yn cael ei adlewyrchu
fel mater o bolisi oddi mewn i weithrediad y farchnad rydd. Er enghraifft, o'r un Cytundeb,
dyma Erthygl 207(4):
...The Council shall also act unanimously for the negotiation and conclusion of agreements: (a)
in the field of trade in cultural and audiovisual services, where these agreements risk
prejudicing the Union's cultural and linguistic diversity;
Dyma amrywiaeth ieithyddol yn cael ei chrybwyll nid fel rhyw addurn, ond fel rhywbeth y mae
angen ei ddiogelu fel mater o bolisi mewn maes lle mae dan fygythiad.
Nawr mae'n deg dweud wrth gwrs bod gwahanol raddfeydd o gydnabyddiaeth i ieithoedd yn
yr UE ar y lefel ffurfiol. Yn y lle cyntaf mae'r ieithoedd swyddogol, sef y rhai hynny y mae
gwladwriaethau sy'n aelodau o'r UE wedi eu nodi fel ieithoedd swyddogol. Dyma'r ieithoedd
y mae'r prif gytundebau a deddfau Ewropeaidd ar gael ynddynt, a'r ieithoedd y medrir eu
defnyddio yn ddiamod yn Senedd Ewrop. Nid yw'r rhain y cynnwys y Gymraeg er eu bod yn
cynnwys y Wyddeleg. Mae gan y Gymraeg serch hynny statws a elwir yn "gyd-swyddogol"
neu "co-official", megis y Gatalaneg a'r Fasgeg, sydd yn rhoi hawliau i ddinasyddion ohebu yn
y Gymraeg efo'r Comisiwn, a derbyn ateb, ac mae peth defnydd o'r Gymraeg wedi bod yng
ngweithgareddau'r Senedd. Felly mae hawliau'r dinesydd vis-à-vis Brwsel yn gryfach na vis-
13