à-vis Whitehall. Serch hynny, Llywodraeth Cymru, nid cyllideb yr UE, sydd yn gorfod
ysgwyddo'r gost o sicrhau hyn.
Felly er nad ydy sefyllfa beunyddiol y Gymraeg yn Ewrop fawr gwahanol i'r hyn ydyw ar raddfa
Brydeinig, serch hynny mae ymlyniad yr UE at amrywiaeth ieithyddol fel hanfod
cyfansoddiadol yn rhoi safle ffurfiol a chreiddiol iddi nas ceir oddi mewn i'r DG y tu allan i
Gymru. Mae dau ganlyniad pwysig yn deillio o hyn. Yn y lle cyntaf, mae'n golygu bod y
Gymraeg yn bodoli mewn cyd-destun lle mai amrywiaeth ieithyddol yw'r norm, nid yr
eithriad. Nid yw seicoleg yr UE (ta beth am seicoleg rhai o'i haelodau) yn wrthwynebus i
amrywiaeth ieithyddol fel mater o egwyddor. Yn yr ail le, mae'n drosol cyfreithiol sy'n rhoi
gofod a chyfle i'r Gymraeg gydweithio a chydymgyrchu gyda ieithoedd lleiafrifol di-
wladwriaeth eraill megis y Gatalaneg a'r Fasgeg.
Atgyfnerthir hyn drwy ddwy ddarpariaeth arall oddi mewn i gyfansoddiad yr UE. Yn y lle
cyntaf, mae Erthygl 2 cytundeb Lisboa yn mynnu "parch i hawliau pobl sydd yn perthyn i
leiafrifoedd" ac mae Siarter Hawliau Sylfaenol Ewrop yn gwahardd camwahaniaethu ar sail
iaith. Dyma eto osod parch at amrywiaeth ieithyddol ac at hawliau iaith yn rhan ganolog o
gyfansoddiad yr UE.
Yn 2013, pleidleisiodd 92% o aelodau Senedd Ewrop dros gynnig manwl yn galw ar
wladwriaethau sy'n aelodau o'r UE i weithredu er lles ieithoedd dan fygythiad a ieithoedd
lleiafrifol ar draws Ewrop. Er nad oedd grym cyfreithiol i hyn, mae'n dangos sut mae diogelu
ieithoedd lleiafrifol yn destun polisi sydd yn berthnasol ar draws y cyfandir.
Mae ymlyniad yr UE at ieithoedd lleiafrifol wedi ei amlygu hefyd wrth i wladwriaethau o'r cyn
floc Sofietaidd ymuno â'r undeb. Roedd hi'n amod ymuno iddynt eu bod yn ymrwymo i Siarter
Ewrop dros Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol yn ogystal â'r Confensiwn Fframwaith dros
Leiafrifoedd Cenedlaethol. Nawr cytundebau rhyngwladol yw'r rhain sydd dan ofalaeth
Cyngor Ewrop. Fel y nodais uchod, nid yw Cyngor Ewrop yn gorff goruwchwladol, ac nid yw
ymrwymo i'r dogfennau hyn yn amod perthyn i Gyngor Ewrop ei hun. Serch hynny, roedd yr
UE yn awyddus i sicrhau bod y gwladwriaethau hyn yn cyrraedd lefel o ymrwymiad
rhywngwladol er mwyn diogelu lleiafrifoedd ieithyddol oddi mewn i'w tiriogaethau.
14