Gallwn draethu yn faith ar y pwnc hwn yn sgil fy mhrofiad fel aelod o'r Pwyllgor Arbenigwyr
rhyngwladol oedd yn monitro cydymffurfiaeth gwladwriaethau efo'r Siarter, ond wnaf i ddim,
dim ond dweud bod llawer o ragrith ynghlwm wrth y pwnc, gan nad yw gwladwriaeth Ffrainc
sydd yn aelod o'r UE ers y cychwyn wedi ymddarostwng i ymrwymo i'r Siarter.
Rhaid cydnabod serch hynny nad yw'r Undeb Ewropeaidd wedi gosod diogelu hawliau
lleiafrifoedd a'u hieithoedd fel rhan o brif ffrwd ei waith. Yn 2013 cyflwynwyd "citizens'
charter" i'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig bod Senedd Ewrop yn mabwysiadau polisi a chreu
deddfau er mwyn diogelu ieithoedd lleiafrifol oddi mewn i'r UE. Gwrthodwyd hyn gan y
Comisiwn ar y sail nad oedd y meysydd hyn yn rhai oddi mewn i bwerau'r UE. Mater i'r
gwladwriaethau unigol oeddynt. Fis Medi eleni cynhaliwyd achos yn Llys Cyflawnder yr Undeb
Ewropeaidd yn herio'r penderfyniad hwn. Pwy a yr, efallai y daw'r cynigion hyn eto gerbron
Senedd Ewrop. Hyd yn oed wedyn, fodd bynnag, ni warentir y byddant yn dod yn ddeddf. Un
peth yw datgan cefnogaeth i ieithoedd lleiafrifol, peth aral yw deddfu o'u plaid.
Beth bynnag ddaw, byddai i'r DG ymadael â'r UE yn golygu bod y Gymraeg yn cilio o gyd-
destun cyfansoddiadol lle mae ganddi gefnogwyr a chynghreiriaid brwd.
Byddai'r DG wrth gwrs yn dal yn rhwym wrth y Siarter a'r Confensiwn Fframwaith, sydd yn
rhoi troedle i'r Gymraeg ar y llwyfan Ewropeaidd, ond nid yw Cyngor Ewrop yn darparu cyd-
destun gwleidyddol sefydliadol mor gryf ag a wna'r UE. At hynny, mae rhywun yn synhwyro
nad yw Llywodraeth bresennol y DG beth bynnag yn or-eiddgar i fynd i'r afael â gofynion yr
offerynau rhyngwladol hyn. Wedi'r cyfan, offerynau Ewropeaidd ydyn nhw yn deillio o'r corff
sydd hefyd yn gyfrifol am y bwganod eraill hynny, Confensiwn a Llys Hawliau Dynol Ewrop.
Credaf ei bod hi'n fater o egwyddor, ond hefyd yn fater o strategaeth, ein bod yn mynd i'r
afael â diogelu'r iaith a hawliau ei siaradwyr fel rhan o dirlun ehangach hawliau lleiafrifoedd
a chydraddoldeb yn Ewrop, ac y dylem ddechrau dwyn pwysau ar Lywodraeth y DG yn hyn o
beth. Fel y dywedodd Angharad wrth i ni drafod yr hyn oeddwn am ei ddweud heddiw ­
fedrwch chi dynnu'r Cymry allan o Ewrop, ond fedrwch chi ddim tynnu Ewrop allan o'r Cymry.
15