Y Gymraeg oddi mewn i'r DG
Sydd yn dod â fi at fy ail bwynt, sef dylanwad y refferendwm ar sefyllfa'r Gymraeg fel iaith
leiafrifol oddi mewn i'r Deyrnas Gyfunol.
Crybwyllais uchod y Brexiteers hynny oedd yn frwd dros adfer sofraniaeth Brydeinig, gan
rybuddio yn erbyn eu hystyried yn awtomatig fel hilgwn neu xenophobiaid. Fedrwn ni ddim
gwadu fodd bynnag fod llawer o'r gefnogaeth i Brexit, a'r ymgyrchu drosto wedi bod yn hiliol
ac yn xenophobaidd. Ers y refferendwm, mae pethau wedi gwaethygu. Mae hi fel pe bai pobl
yn teimlo bod ganddynt drwydded bellach i fynegi lefel o atgasedd ymosodol tuag at
estroniaid o bob math nad oedd yn dderbyniol cyn y refferendwm. Ar ben hynny, mae
gwleidyddion prif ffrwd, gan gynnwys gweinidogion y goron a'r Prif Weinidog ei hun wedi
gwneud datganiadau am weithwyr tramor a'u dyfodol yn y DG na fyddent wedi meiddio eu
gwneud cyn y refferendwm.
Mae bygythiadau llwfr ar y "cyfryngau cymdeithasol"
bondigrybwyll i ladd pobl ac i dreisio menywod am eu bod yn mynegi eu barn yn fater o gwrs
bellach. Mae ymosodiadau'r wasg ar aelodau o leiafrifoedd yn adlewyrchu ac hefyd yn hybu
hinsawdd lle mae erledigaeth yn ffynnu, a lle mae perygl y bydd pobl yn ofni dweud eu dweud.
Yn fwyaf diweddar gwelsom ymosodiadau ffiaidd ar y barnwyr a benderfynodd mai'r Senedd
nid y Llywodraeth ddylai benderfynu pryd i weithredu Erthygl 50 Cytundeb yr Undeb
Ewropeaidd. Mae dicter afresymol, ac yn aml gwrth-resymol, yn nodwedd hyglyw o'r digwrs
beunyddiol.
Mewn sefyllfa felly, y lleiafrifoedd yn aml sydd dan y lach. Dyma'r outgroups hawsaf eu
gormesu a'u beio, gan eu bod yn aml yn wan yn wleidyddol ac yn ddigon "gwahanol" i alluogi
eu harallu, eu dadbersonoli, eu dad-ddynoleiddio. Mae gen i bryder dros y Gymraeg yn y cyd-
destun hwn. Mewn rhai ffyrdd yr ydym yn gymharol ffodus fel lleiafrif ieithyddol yn Ewrop,
er enghraifft ym maes darlledu, lle mae arian sylweddol wedi cael ei wario ar ddarpariaeth
Gymraeg. Mae hynny wedi bod yn bosibl i raddau oherwydd llewyrch cymharol yr economi
Brydeinig sydd i'w briodoli yn rhannol beth bynnag i'r UE. Nid oes dal a fydd y llewyrch hwnnw
yn parhau wedi Brexit. Teimlaf weithiau fel ein bod mewn mewn bath cynnes cysurus, lle
mae peryg i'r dr oeri a'r plyg gael ei dynnu. Yr ydym yn lleiafrif yng Nghymru, a lleiafrif llai
fyth yn y DG. Yr ydym yn hen gyfarwydd â rhagfarn yn erbyn yr iaith, casineb tuag ati a mythau
am ei siaradwyr hi. Mae llawer o waith da wedi ei wneud gan wleidyddion ac eraill i wrthsefyll
16