hyn. Ar y cyfan, dengys arolygon barn yng Nghymru bod agweddau pobl tuag at y Gymraeg
yn gefnogol, ond erys elfen fechan graidd sydd yn ei chasáu hi a'i siaradwyr, ac elfen fwy sydd
yn ein drwgdybio. Does dim amser maith ers pan oedd ymosodiadau ar y "Welsh speaking
elite" yn rhan o arfogaeth pob dydd gwleidyddion prif ffrwd populist asgell chwith honedig,
yn ogystal â rhai asgell dde. Rhaid i ni fod yn barod i wrthsefyll rhethreg o'r fath os daw hi'n
ei hôl, ac i sefyll ysgwydd yn ysgwydd nawr â lleiafrifoedd eraill sydd eisioes yn wynebu
ymosodiadau o'r fath, a rhai gwaeth. Dyma pam hefyd y mae'n ofynnol i ni barhau i
ddefnyddio'r sefydliadau a'r rhwydweithiau rhyngwladol sydd ar ôl er mwyn cynghreirio gyda
lleiafrifoedd ieithyddol eraill ein cyfandir.
Mesur Cymru a'r refferendwm
Nawr fe hoffwn droi at effaith Brexit ar lywodraethiant Cymru ac oblygiadau hynny i'r
Gymraeg.
Cyn cychwyn, a rhwng cromfachau megis, rhaid i ni beidio â cholli golwg o'r ffaith bod cyfraith
Ewrop hefyd yn rhwymo organau llywodraethiant Cymru. Mae hynny'n cael ei ddatgan yn
Neddf Llywodraeth Cymru 2006, ac ni fydd Mesur Cymru sydd ar hyn o bryd ar daith drwy'r
Senedd yn Llundain, yn newid hynny. Bydd rhaid diwygio'r ddeddf er mwyn newid hynny yn
sgil Brexit (ac yn yr un modd ddeddfau'r Alban a Gogledd Iwerddon). Nid canlyniadau
cyfreithiol Brexit ar Fesur Cymru sydd dan sylw gen i dan sylw yma, fodd bynnag, ond rhai
gwleidyddol.
Un o ganlyniadau anuniongyrchol y refferendwm yw'r hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd
mewn perthynas â Mesur Cymru. O ddod yn ddeddf, byddai'r Mesur hwn yn newid natur
setliad datganoli Cymru o fod yn fodel pwerau a roddir i fodel pwerau a gadwyd nôl. Byddai
grym y Senedd yng Nghaerdydd i ddeddfu yn newid. Yn hytrach na gallu deddfu mewn
perthynas â meysydd penodol yn unig, byddai modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu am
unrhywbeth heblaw mewn perthynas ag eithriadau penodol. O ran siap y setliad, byddai hyn
yn gosod Cymru ar yr un gwastad â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Yn anffodus, fodd bynnag,
mae'r modd y mae'r Mesur yn mynd o'i chwmpas hi yn ddiffygiol mewn sawl ffordd, a hynny'n
deillio yn y bôn o'r ffaith fod Whitehall yn gyndyn i ollwng gafael ar reolaeth dros Gymru, ar
17