ei sofraniaeth fewnol, os liciwch chi. Arwydd o hyn yw'r awydd i gynnal y cysyniad mai un
gyfraith sydd yn bodoli ar draws Lloegr a Chymru er gwaetha'r gwahaniaethau cynyddol
rhwng y ddwy diriogaeth. Mae hyn yn arwain at gymhlethdod a diffyg eglurdeb yn y drafftio.
Ar ben hynny, mae nifer a chymhlethdod yr eithriadau gyfryw fel mai effaith y ddeddf fydd
gwanhau grym deddfu'r Cynulliad yn sylweddol. Bydd hyn yn dad-wneud penderfyniadau'r
Goruchaf Lys sydd wedi cadarnhau bod grym deddfu'r Cynulliad dan y drefn bresennol yn
ehangach nag y tybiasai Whitehall iddo fod. Fel y nododd Richard Wyn Jones yn ei erthygl
ddiweddar ar y pwnc yn Barn, y mae Swyddfa Cymru yn rhy wan oddi mewn i Lywodraeth y
DG i wrthsefyll adrannau Whitehall sy'n gyndyn i ollwng gafael. Mae Pwyllgorau yn y Cynulliad
ac yn Nh'r Arglwyddi wedi beirniadu'r Mesur, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bygwth
peidio â chefnogi'r Mesur pan ddaw hi'n fater o gael cydsyniad y Cynulliad iddo. Yr hyn sydd
ei angen fwy na dim ar hyn o bryd yw amser i bwyllo, i drafod ac i ddwyn perswâd, ond mae'r
gofod yn rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DG y mae'r refferendwm wedi ei greu, ac awydd
Whitehall i fanteisio ar y cyfle hwn i adennill pwerau wedi creu momentwm sy'n debygol o
olygu mai setliad cyfansoddiadol annigonol arall gaiff Cymru eto fyth.
Beth sydd a wnelo hyn â'r Gymraeg? Dau beth. Yn gyntaf, bydd cymhlethdod ac ehangder yr
eithriadau yn golygu cwtogi ar allu'r Cynulliad i ddeddfu ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg.
Yn yr ail le, ac yn fwy arwyddocaol efallai, mae'r manylyn canlynol.
Un ffordd mae'r Mesur yn rhagori ar y gyfraith bresennol yw'r modd y mae'n delio â phwerau
Gweinidogion y Goron (h.y. gweinidogion Llywodraeth y DG) mewn meysydd y mae gan y
Cynulliad rym i ddeddfu ynddynt. Os daw'r Mesur yn gyfraith, bydd y Cynulliad yn gallu
deddfu mewn modd sy'n effeithio ar y pwerau hynny yn y rhan fwyaf o achosion, yn dilyn
ymgynghori â'r Gweinidog priodol. Mewn ambell achos fodd bynnag, bydd yn rhaid derbyn
cydsyniad y Gweinidog priodol. Hynny yw, bydd gan Whitehall veto yn y sefyllfaoedd hynny.
Mae pump ohonyn nhw. Dyma nhw:
a)
any function of a Minister of the Crown that relates to a qualified devolved function,
(hy lle mae'r swyddogaeth dan sylw yn cael ei rhannu rhwng Caerdydd a Llundain),
c)
any function of a Minister of the Crown exercisable in relation to water supply, water
quality, water resources management, control of pollution of water resources,
18