Dwi isio fy iaith nôl: Sofraniaeth, Xenophobia a'r Gymraeg yn dilyn refferendwm Ewrop
Emyr Lewis
(Traddodwyd yn y Symposiwm `Y Gymraeg a Brexit' yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ar 8
Tachwedd 2016)
Diolch yn fawr i chi am y gwahoddiad i draddodi'r ddarlith hon. Mae'n brofiad chwerwfelys i
mi ddod yma i Neuadd Reichel lle bu fy niweddar dad, a fu farw'r llynedd, yn breswylydd yn
ystod ei gyfnod yn astudio Cemeg yn y sefydliad hwn. Aeth yn ei flaen i astudio'r gyfraith yn
yr LSE. Arbenigodd ym maes eiddo deallusol. Ac yntau'n fargyfreithiwr ifanc ar ei gythlwng
yn Llundain, mi sgwennodd lyfryn bychan am drwyddedu eiddo deallusol yn y "Common
Market", a hynny ddegawd a mwy cyn i'r Deyrnas Gyfunol ddod yn rhan o'r farchnad honno.
Yn wahanol i'w brofiad yntau, bu cyfraith Ewrop yn rhan o gyfraith bob dydd ers cychwyn fy
ngyrfa. Mae llawer o fy ngwaith beunyddiol fel cyfreithiwr yn ymwneud â chynghori busnesau
a chyrff cyhoeddus am gyfraith Ewrop. Byddaf yn sôn cryn dipyn am y gyfraith yn y ddarlith
hon, a byddaf yn mentro hefyd i feysydd economeg, cymdeithaseg a gwleidyddiaeth.
Gwybodaeth wantan gadair-freichiau sydd gennyf o'r meysydd hynny, felly ymddiheuriadau
ymlaen llaw am unrhyw gamgymeriadau, camau gwag neu amryfusedd wrth ymdrin â nhw.
Brexit
Yn ôl cyhoeddwyr geiriadur Saesneg Collins, Brexit yw "gair y flwyddyn" eleni. Ni welwyd
erioed y fath gynnydd, mae'n debyg, mewn defnydd o air newydd ag a welwyd yn achos y gair
hwn.
Cyfuniad yw'r gair wrth gwrs o "Britain" ac "exit", ac mae hynny efallai'n ddarlun o'r disgwrs
cyhoeddus am y pwnc hwn. Amdanom ni, y Prydeinwyr mae o, ac amdanom ni yn mynd allan.
Ni chrybwyllir yr hyn yr ydym yn mynd allan ohono. Nid ymadael ("leave") sylwer, ond mynd
allan ("exit"). Mae'r gair yn cyfleu bod y weithred o adael yr Undeb Ewropeaidd fel mynd
allan o adeilad neu stafell, yn hytrach na fel ymadael â pherthynas neu berson. Drwy'r
ddelwedd honno, mae'r gair yn llwyddo i symleiddio a dadbersonoli'r weithred ar yr un pryd.
1