sewerage, rivers and other watercourses, land drainage, flood risk management or
coastal protection,
d)
any function of a Minister of the Crown under the Marine and Coastal Access Act
2009 or the Marine Works (Environmental Impact Assessment) Regulations 2007 (S.I.
2007/1518), or
e)
any power of the Secretary of State under section 6 of the Railways Act 2005
(financial assistance relating to railway services etc),
Fe sylwch 'mod i wedi hepgor un, sef (b) any function of a Minister of the Crown exercisable
in relation to the Welsh language.
Beth yw'r rheswm dros yr eithriad hwn? Rydym yn sôn am feysydd lle mae grym deddfu ym
mhob ffordd arall wedi ei roi i'r Cynulliad. Gallwn ddeall pam y mae yr eithriadau eraill yn
bodoli, am eu bod yn ymwneud â materion trawsffiniol, ond pam yr eithriad hwn? Beth yw'r
rheswm polisi dros roi veto i Whitehall dros swyddogaethau mewn perthynas â'r Gymraeg
mewn meysydd sydd fel arall wedi eu datganoli i Gymru? Nid wyf wedi gweld na chlywed
eglurhad na chyfiawnhad dros hyn.
Tybed ai'r hyn yr ydym yn ei weld yma yw enghraifft o'r hen amheuaeth ohonom ni'r Cymry
oblegid ein hiaith ­ dyma sydd yn ein gwneud yn "arall" annealladwy, yn outgroup sydd yn
medru cynllwynio heb i neb ein deall: rhaid peidio â chaniatáu i ni gael ein ffordd ein hunain,
does wybod beth a wnawn.
Beth bynnag yw'r rheswm, dyma wadu i ni felly ryw dipyn sofraniaeth dros ein trysor
cenedlaethol unigryw. Os yw fy nyfaliad yn gywir, dyma bryder amdanom nad yw'n broblem
oddi mewn i Ewrop, lle mae amlieithrwydd yn norm, a lle nad ydym yn od am nad Saesneg
yw ein hunig iaith. Os mai mynd allan o'r t mae Prydain, ymadael â chyfaill mae'r Gymraeg.
Rhaid i ni gadw cysylltiad.
19