1) awdurdodaeth (sydd ar yr wyneb yn ecsgliwsif) dros diriogaeth benodol a'i
phoblogaeth barhaol;
2) dyletswydd i beidio ag ymyrryd ym maes awdurdodaeth ecsgliwsif gwladwriaethau
eraill; a
3) bod dyletswydd i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol yn dibynnu ar gydsyniad
gwladwriaeth. Mewn geiriau eraill, mae gwladwriaeth yn rhydd i ddewis a yw hi, ac i
ba raddau y mae hi, yn derbyn y gyfundrefn gyfreithiol ryngwladol.
Oherwydd y pwynt olaf hwn, yn aml fe sonnir am gyfraith ryngwladol fel cyfundrefn sy'n
dibynnu ar gonfensiwn neu arfer, a hynny er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth gyfraith
ddomestig. Dan gyfraith ddomestig, er enghraifft cyfraith Cymru a Lloegr, does dim dewis
gan ddinesydd (dan y gyfraith beth bynnag) na chwaith y Llywodraeth p'un ai i gydsynio i'r
gyfraith ai peidio. Mae'n rhaid gweithredu yn unol â'r gyfraith. Os na wneir hynny, yna mae
gan y llysoedd y grym i gosbi neu i orchymyn gwneud yn iawn am y methiant. Ac eithrio drwy
apêl o ryw fath, gan y llysoedd mae'r gair olaf oni bai bod y gyfraith yn newid drwy ddeddf.
Mae llysoedd rhyngwladol yn bodoli wrth gwrs, ond nid oes modd gorfodi gwladwriaethau i
ymddangos ger eu bron, na chwaith i fod yn rhwym wrth eu penderfyniadau. Gellir gweld
bywyd ar y gwastad rhyngwladol felly fel rhyw fath o anarchiaeth sy'n cael ei rheoli drwy
barodrwydd gwladwriaethau i gydsynio i drefn gyfreithiol, ond dim ond i'r graddau y mae'n
eu siwtio nhw. Felly mae'r Unol Daleithiau wedi gwrthod dod yn rhan o'r Llys Troseddol
Rhyngwladol rhag bod ei milwyr neu ei gwleidyddion yn cael eu herlyn yno ac mae Rwsia wedi
adfeddiannu tir Crimea gan wladwriaeth yr Wcrain.
Un o'r ffyrdd o osod trefn oddi mewn i'r anarchiaeth hon yw drwy gytundebau rhwng
gwladwriaethau. Drwy gytundebu â'i gilydd, mae gwladwriaethau'n gallu rheoli yn ffurfiol y
berthynas rhyngddynt.
Gall cytundebau o'r fath fod yn rhai rhwng dwy wladwriaeth
(dwyochrog / "bilateral") neu fwy na dwy (amlochrog / "multilateral"). Mae cytundebau
dwyochrog yn aml yn rheoli sefyllfaoedd trawsffiniol. Enghraifft nodedig ddiweddar yw'r
cytundeb rhwng y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon am Ogledd Iwerddon. Mae cytundebau o'r
fath hefyd yn medru rheoli masnach rhwng gwledydd a'i gilydd.
Fel mater o gyfraith ffurfiol, creadigaeth cytundebau rhyngwladol amlochrog yw'r Undeb
Ewropeaidd. Y cytundeb presennol sy'n dwyn y cytundebau yma ynghyd yw'r un a elwir yn
3