gytundeb Lisboa ("Lisbon Treaty"). Fel yn achos nifer o gytundebau amlochrog, mae cytundeb
Lisboa yn datgan cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd. Mewn sawl ffordd, mae'n debyg i
gyfansoddiad clwb neu gymdeithas. Mae'r cyfansoddiad yn dweud pwy sydd yn aelod o'r
clwb, beth yw ei ddibenion, beth yw ei reolau, sut mae'n gweithredu, pwy sydd yn cael
pleidleisio dros beth, sut mae cyfri'r pleidleisiau hynny a sut mae datrys anghydfodau. Er
mwyn gwneud hyn mae'n creu organau llywodraethiant penodol: Senedd Ewrop, Comisiwn
Ewrop, Cyngor y Gweinidogion a'r Llys Cyfiawnder. Drwy'r cytundeb, mae pob gwladwriaeth
sydd yn aelod o'r clwb yn cytuno i gadw at y rheolau hyn.
Mae un gwahaniaeth sylfaenol, fodd bynnag, rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r rhan fwyaf o
sefydliadau a grëir drwy gytundeb amlochrog rhyngwladol, sef hyn: er mwyn bod yn aelod o'r
clwb, mae'n rhaid i wladwriaeth sicrhau bod cyfraith Ewrop a'r hawliau a'r dyletswyddau sy'n
deillio ohoni, yn rhan o'i chyfraith ddomestig ei hun hefyd. O'r herwydd, mi fydda'i yn aml yn
meddwl nad clwb yw'r ddelwedd orau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd ond yn hytrach sect
grefyddol, i'r graddau bod rheolau'r hyn yr wyt yn aelod ohono yn dy rwymo ym mhob
agwedd o dy fywyd bob dydd, nid dim ond pan wyt ti'n mynd i'r capel. Yr wyt wedi ildio dy
hawl i reoli dy fywyd domestig fel y mynnot, drwy fabwysiadu rheolau'r clwb.
Yn achos y Deyrnas Gyfunol, cyflawnwyd hyn drwy basio deddf Cymunedau Ewropeaidd
/European Communities Act ym 1972. Mae Adran 2(1) y ddeddf honno yn datgan:
All such rights, powers, liabilities, obligations and restrictions from time to time created or
arising by or under the Treaties, and all such remedies and procedures from time to time
provided for by or under the Treaties, as in accordance with the Treaties are without further
enactment to be given legal effect or used in the United Kingdom shall be recognised and
available in law, and be enforced, allowed and followed accordingly; and the expression
"enforceable EU right" and similar expressions shall be read as referring to one to which this
subsection applies.
Felly mae cyfraith a wneir ar y gwastad rhyngwladol gan yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o
gyfraith y Deyrnas Gyfunol, ac ar ben hynny nid oes modd i gyfraith ddomestig oddi mewn i'r
Deyrnas Gyfunol fod yn drech na chyfraith Ewrop. Lle bo anghysondeb, cyfraith Ewrop sy'n
sefyll, nid yn unig fel mater o gyfraith ryngwladol ond hefyd fel mater o gyfraith ddomestig.
4