A dyma ni yn dod nôl at sofraniaeth. Cofiwn mai dau o nodweddion sofraniaeth yw
awdurdodaeth ecsgliwsif dros diriogaeth benodol a'i phoblogaeth, a rhyddid rhag ymyrraeth
allanol. Mae'r ffaith fod y Deyrnas Gyfunol, fel gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd,
wedi cytuno bod cyfraith Ewrop yn trosgynnu ei chyfraith hi ar y gwasatad domestig yn golygu
ei bod wedi ildio'r ddwy elfen hon o sofraniaeth. Mae gan gyfreithiau a wneir gan Senedd a
Chomisiwn yr Undeb Ewropeaidd a dyfarniadau ei Llys Cyfiawnder rym uniongyrchol oddi
mewn i'r Deyrnas Gyfunol. Am y rheswm hwn, fe ddisgrifir yr UE fel corff goruwchwladol
("supranational") yn hytrach na rhyngwladol, er mwyn ei gwahaniaethu hi oddi wrth (er
enghraifft) Cyngor Ewrop, lle nad yw'r corff na'i rheolau yn tresmasu ar sofraniaeth
ddomestig.
Mae'r cysyniad hwn o golli sofraniaeth wedi peri annifyrwch sylweddol i nifer o bobl, yn
arbennig felly rai y gallem eu galw'n genedlaetholwyr Prydeinig neu Seisnig. Dyna i chi eiriau
enwog yr Arglwydd Denning ym 1974 yn achos HP Bulmer Ltd v J Bollinger AS (No 2) [1974]
lle disgrifiodd gyfraith Ewrop "like an incoming tide. It flows into the estuaries and up the
rivers. It cannot be held back". Mae'r ddelwedd a'r rhethreg yn cyfleu i'r dim feddylfryd llawn
panig y cenedlaetholwr o gael ei drechu a'i ddifwyno gan rym estron sydd y tu hwnt i'w allu i
reoli, ac yn atgoffa dyn o ddelweddau eraill: moch yn difetha gwinllan, er enghraifft.
Credaf nad yw'r rhai sydd, fel fi, wedi gwrthwynebu ymadael ac sy'n parhau i wneud hynny,
wedi sylweddoli pa mor gryf yw'r teimlad hwn o adfer sofraniaeth genedlaethol a fynegwyd
mor groyw yn y sloganau "I want my country back" a "taking back control". Oherwydd mor
llafar ac mor chwerw yr oedd y rhethreg negyddol, gwrth-estron, hiliol a xenophobaidd oedd
yn aml yn cydfynd â'r sloganau hyn, ni thalwyd fawr o sylw i'r bobl hynny, y credaf eu bod yn
niferus, nad oeddent yn hiliol nac yn xenophobaidd, oedd yn dirnad y coll-sofraniaeth yma fel
elfen o goll-hunaniaeth. Mae cymdeithasegwyr mae'n debyg yn sôn am "ingroups" ac
"outgroups". Ingroups yw'r cymunedau hynny y mae rhywun yn perthyn iddynt neu yn
uniaethu â nhw, ac outgroups yw'r rhai hynny nad ydys yn perthyn iddynt neu'n uniaethu â
nhw. Nid yw cariad neu deimladau cadarnhaol tuag at yr ingroup yn golygu o anghenraid
gasineb neu deimladau negyddol tuag at yr outgroup. Gellid barnu llawer o Brexiteers am eu
bod yn genedlaetholwyr rhamantaidd afrealistig neu yn ymreolwyr cibddall, ond dydy hynny
ddim yn eu gwneud yn hilgwn na chwaith yn gwneud eu safbwynt yn annilys.
5