Ochr arall y geiniog wrth gwrs yw nad y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd wedi ildio ei sofraniaeth
fel hyn, ond pob gwladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn sgil yr ildio sofraniaeth hwn ar
ran y gwladwriaethau, y mae gennym ni fel dinasyddion hawliau y medrwn eu harddel a'u
gweithredu ledled gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft yr hawl dilyffethair i fynd i
wlad arall i weithio neu i fyw. Dyma hawliau sydd mewn perygl o ddiflannu, rhywbeth fydd
yn crebachu ein byd yn sylweddol.
Nid yw amser yn caniatáu i mi fynd ar drywydd mecanwaith cyfansoddiadol a chyfreithiol
Brexit na phenderfyniad gloyw diweddar yr Uchel Lys am Erthygl 50 Cytundeb yr Undeb
Ewropeaidd. Digon yw dweud mai ystyr ffurfiol y DG yn ymadael â'r UE yw ymadael â'r clwb
hwn. Byddai cyfraith yr UE yn peidio â bod yn rhan o gyfraith y DG a byddai sofraniaeth y DG
mewn cyfraith ryngwladol wedi ei hail-orseddu yn gyflawn. Mae hyn yn codi sgwarnogod
difyr yngln â beth sy'n digwydd i dros ddeugain mlynedd o ddeddfau Prydeinig sydd yn deillio
o gyfraith Ewrop. Syniad clyfar ond arwynebol Llywodraeth y DG yw eu gwneud i gyd yn rhan
o gyfraith y DG, cyn eu dad-wneud fesul tipyn, os oes angen eu dad-wneud.
Yr agwedd economaidd
Rwyf am symud yn awr o natur ffurfiol yr Undeb Ewropeaidd fel y mynegir hynny mewn
cyfraith, at gynnwys y gyfraith honno ­ yr hyn y mae hi'n ei wneud.
Gellid dadlau mai craidd yr Undeb Ewropeaidd ers ei gychwyn fel "marchnad gyffredin", yw
chwalu rhwystrau rhag masnachu ar draws ffiniau'r gwladwriaethau sydd yn aelodau o'r
Undeb. Oddi mewn i'r anarchiaeth gysefin a ddisgrifiais uchod, mater o bawb drosto'i hun
yw hi pan ddaw hi'n fasnachu rhyngwladol. Cyn y cyfnod modern, manteisiodd Cymry
blaenllaw ar y rhyddid masnachu rhyngwladol hwn: gallwn enwi er enghraifft Harri Morgan a
Barti Ddu.
Un ffordd i wladwriaethau geisio hybu twf economaidd yw drwy ffafrio eu busnesau a'u
cynnyrch eu hunain, a gosod rhwystrau ar fusneasau a chynnyrch estron. Oherwydd
sofraniaeth mae gwladwriaethau'n medru gwneud hyn. Un ffordd o wneud hyn yw drwy osod
treth neu dollau ar gynnyrch sy'n cael ei fewnforio ("tariffau"), a darparu nawdd i fusnesau er
6