mwyn iddynt allu allforio ("cymorth y wladwriaeth"). Mae nifer o anghydfodau rhyngwladol
a rhyfeloedd wedi digwydd oherwydd ymddygiad o'r fath gan wladwriaethau.
Bwriad yr UE yw ysgogi masnach rydd rhwng gwladwriaethau oddi mewn i'w ffiniau. Yn
wreiddiol, ei phrif gyflawniad oedd gwahardd tariffau rhwng gwladwriaethaua'i gilydd oddi
mewn i ffiniau yr Undeb, a gwahardd cymorth y wladwriaeth. Datblygodd hyn i fod yn rhaglen
gynyddol o chwalu rhwystrau o bob math yn erbyn masnachu rhyngwladol i greu y "farchnad
sengl" fel y'i gelwir, er enghraifft drwy wahardd rheolau sy'n cyfyngu mynediad i fath arbennig
o broffesiwn neu waith mewn ffordd sy'n ffafrio dinasyddion y wladwriaeth yn unig. Dyna
pam mae cysgod Brexit mor drwm ar Ddinas Llundain ­ y rheoliadau "pasbort" fel y'i gelwir
sy'n galluogi banciau a sefydliadau ariannol eraill Llundain i weithredu ledled yr Undeb
Ewropeaidd. Heb y rhain, bydd hi'n sylweddol anoddach arnynt.
Mae pedwar "rhyddid" yn greiddiol i'r farchnad sengl, sef:
Rhyddid symud (neu ryddid mudolrwydd??) nwyddau;
Rhyddid symud gwasanaethau;
Rhyddid symud pobl a gweithwyr a sefydlu busnesau;
Rhyddid symud cyfalaf / arian.
Mae unrhyw beth sy'n tueddu i rwystro'r pedwar rhyddid hwn yn debygol o fod yn
anghyfreithlon dan gyfraith yr UE ac felly dan gyfraith y DG.
Eto, mae agwedd arall hollbwysig i'r UE, sef nad yw dogma'r farchnad rydd yn cael ei ffordd
yn ddilyffethair. Mae economegwyr clasurol yn aml yn sôn am yr "allanolion" ("externalities")
sydd yn effeithio ar allu marchnadoedd i weithredu yn effeithlon. Mewn sefyllfa lle nad oes
rheolau yn erbyn llygru'r amgylchedd, nid yw cynhyrchwyr nwyddau sy'n peri llygredd yn
ysgwyddo'r gost o lygru, ac felly nid yw'r prisiau a delir am y nwyddau hynny'n adlewyrchu'r
gwir gost. Mae cost cymdeithasol llygredd yn syrthio ar ysgwyddau'r gymdeithas. Felly mae'r
UE yn rheoleiddio gwarchod yr amgylchedd ac hefyd yn caniatáu elfen o gymorth y
wladwriaeth i fusnesau er mwyn cymryd camau sy'n lleihau'r niwed i'r amgylchedd, er
enghraifft drwy gynhyrchu trydan drwy ddulliau adnewyddol.
7