Felly, ar yr olwg gyntaf, effaith ymarferol y DG yn ymadael â'r UE yw y bydd gan y DG a'i
busnesau, drwy fod yn rhydd rhag gorfod cadw at reolau cyfraith Ewrop, fwy o ryddid i
weithredu ym maes masnach ryngwladol. Camargraff yw hynny, fodd bynnag, sy'n deillio yn
fy marn i o gamddealltwriaeth o natur sofraniaeth ar y gwastad rhyngwladol. Er i mi nodi mai
anarchiaeth yw cefnlen cyfraith ryngwladol yn y bôn, serch hynny ym maes masnach mae'r
rheidrwydd i alluogi masnachu i ddigwydd yn golygu bod cytundebau yn bodoli. Mae'r rhain
yn cynnwys cytundebau deuochrog rhwng gwladwriaethau a grwpiau o wladwriaethau (fel yr
UE) a'i gilydd, a chytundebau amlochrog. Y pwysicaf o'r cytundebau amlochrog hyn yw'r
World Trade Organisation, y mae'r DG ar UE yn rhan ohono, ac sy'n rheoli masnach rhwng y
rhan fwyaf o wledydd y byd. Craidd y cytundeb hwn yw bod hawl gan wladwriaethau i osod
tariffau ar ei gilydd, ond ei bod hi'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n ffafrio un
wladwriaeth goruwch y lleill oni bai bod gennych gytundeb masnachu deuochrog gyda'r
wladwriaeth honno. Hon yw'r rhwyd ddiogelwch ryngwladol. Os na ddaw'r DG a'r UE i
gytundeb masnachu amgen, dyma fydd sail y berthynas rhyngddynt. Mae rheolau oddi mewn
i'r WTO sy'n gwahardd cymorth y wladwriaeth hefyd a materion gwrth-gystadleuol eraill. Nid
yw sofraniaeth ar y gwastad rhyngwladol, sef y rhyddid i gydsynio neu beidio i bethau, yr un
fath â sofraniaeth ar y gwastad domestig, sef yr hawl i wneud beth a fynnoch oddi mewn i'ch
tiriogaeth. Mae'n ddigon hawdd datgan fod y DG yn sofran, ond er mwyn iddi hi weithredu ar
y gwastad rhyngwladol mi fydd hi'n ofynnol iddi wneud cytundebau, a thrwy hynny ildio
rhywfaint o'i rhyddid bondigrybwll er mwyn manteisio ar yr hyn sydd gan wledydd eraill i'w
gynnig.
Yn y pen draw, nid mater o gyfraith yw masnach ryngwladol ond mater o
ymarferoldeb, negodi, cyfaddawdu a grym masnachol.
Dyma un rheswm pam y mae Brexit yn gymaint o gur pen i wleidyddion y DG. Mae natur
Erthygl 50 cytundeb Lisboa ynghyd â hunan-les aelodau eraill yr UE (ar y cyd ac yn unigol) yn
golygu (1) bod sefyllfa negodi y DG yn wanach nag y gallasai fod, a (2) nad oes modd gweld o
le y daw cyfaddawd ar gwestiwn sylfaenol rhyddid pobl a gweithwyr i symud ar y naill law a
mynediad di-dariff i'r farchnad sengl ar y llall. Dyma pam mae "Brexit caled" yn edrych yn
gymaint o bosibilrwydd go iawn. Digon hawdd dweud "Dan ni'n sofran ac yn rhydd". Tipyn
anos yw byw bywyd felly, oni bai mai Gogledd Corea yw eich model.
8