Negeseuon Dwyieithog
Wrth lunio negeseuon dwyieithog mewnol ar gyfer myfyrwyr neu staff, mae gosod y ddwy iaith ochr yn ochr yn arfer dda sy'n cael ei annog.
Mae'r sleidiau isod yn dangos i chi sut i ddefnyddio meddalwedd Outlook i osod eich negeseuon dwyieithog mewn dwy golofn gyfochrog, gyda'r Gymraeg ar y chwith, yn unol â Chynllun Iaith y Brifysgol.