Mae bron hanner o’r holl fyfyrwyr sy’n astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor

Mae ystadegau diweddar wedi datgelu fod bron hanner o’r holl fyfyrwyr sy’n astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor. Yn ogystal, ym Mhrifysgol Bangor mae’r nifer fwyaf o ddarlithwyr sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac yn hollbwysig er mwyn cyflawni strategaeth y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-gangellor Prifysgol Bangor: “Mae cael cyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg gyflawn, sy’n caniatau i blant a phobl ifanc Cymru ddysgu ac astudio drwy’r Gymraeg o’r cyfnod meithrin hyd at gyfnod addysg uwch, yn gwbl allweddol at ffyniant yr iaith.

“Wrth anelu i gyrraedd y miliwn erbyn 2050, mae’n hanfodol fod ein sefydliadau addysg uwch ni yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc barhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn hyn o beth, calondid yw gweld fod Prifysgol Bangor yn arwain y maes yng Nghymru ac yn darparu cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio rhaglenni gradd llawn a modiwlau unigol yn yr iaith.”

Ychwanegodd yr Athro Hunter: “Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cael eu dosbarthu ledled Cymru, mae’n rhyfeddol fod 44% o’r holl fyfyrwyr sy’n astudio cwrs gradd yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny ym Mangor.

“Mae’n wych ei bod hi’n bosib astudio rhai pynciau yn gyfangwbl trwy’r Gymraeg, ond dylid cofio hefyd y gellir astudio elfennau o bob pwnc ym Mangor drwy’r Gymraeg.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwelwyd yn ddiweddar fod Prifysgol Bangor yn arwain mewn sawl maes sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Cyhoeddwyd y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn Medi 2018, cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol. Ac yng nghyd-destun y cyfnod presennol a lle technolegau yn ein bywydau beunyddiol, rhoddwyd sylw i ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn Senedd Ewrop yn ddiweddar.

Yn ogystal â hyn, bu’r Uned Technolegau Iaith yn gyfrifol am gyfrannu eu harbenigeddau at gynllun gweithredu technoleg Cymraeg a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn mis Hydref 2018, gan arwain ar ddatblygu fersiynau Cymraeg o gynorthwywyr personol digidol a systemau deallusrwydd artiffisial a fydd yn caniatáu i’r peiriannau hyn ddeall Cymraeg. Yn ogystal, o ganlyniad i arbenigeddau Prifysgol Bangor, bydd modd defnyddio technoleg er mwyn datblygu system cyfieithu peiriannyddol, a fydd yn arwain at gynyddu nifer y testunau Cymraeg fydd ar gael i’w darllen a’u clywed.

Esboniodd yr Athro Hunter, bwysigrwydd arbennigedd y Brifysgol:

“Yn ogystal â bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae’n wych gweld Prifysgol Bangor yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny – ymchwil, polisi a thechnoleg – sy’n cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid agweddau ar wahân mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu’r nod uchelgeisiol hwn.”

“Does dim dwywaith fod Bangor yn arwain ar ddatblygu a chynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn defnyddio’r Gymraeg. Mae ein cyfraniad tuag at ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg yn unigryw, ond yn bwysicach fyth efallai, yw ein cyfraniad tuag at ddiogelu a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

“Rhaid cofio fod myfyrwyr Bangor yn datblygu i fod yn athrawon, staff iechyd, pobl fusnes, gwyddonwyr a gweision sifil y dyfodol, ac mae’r ffaith fod cynifer ohonynt wedi cyflawni eu gradd trwy’r Gymraeg yn hanfodol i lwyddiant strategaeth y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” ychwanegodd yr Athro Jerry Hunter.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018