Y peth gorau am astudio ym Mangor yw medru astudio fy nghwrs gradd trwy gyfrwng fy mamiaith a datblygu perthnasoedd da gyda fy nghyd-fyfyrwyr ar y cwrs a'r darlithwyr.

Lowri Wyn Powell,  sy'n astudio Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig

Pa gefnogaeth sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg? 

Yn ystod eich cyfnod ym Mangor, byddwch chi’n cael cyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Dystysgrif yn cael ei derbyn gan lawer o gyflogwyr fel prawf o’ch gallu i weithio’n gywir ac effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd tiwtor yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer arholiad llafar ac ysgrifenedig y Dystysgrif a datblygu eich sgiliau iaith ar yr un pryd, a hynny drwy gyfuniad o ddarpariaeth ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.  

Os ydych chi am ymgeisio am y Dystysgrif eleni, bydd angen i chi gofrestru erbyn 8 Tachwedd 2023.  

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.   

Mae Canolfan Bedwyr yma i’ch cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, rydyn ni’n cynnig y modiwl yn Semestr 1: CCB-1101 Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg 1 (20 credyd).

Nod y modiwl yw codi hyder llafar ac ysgrifenedig myfyrwyr yn y Gymraeg. Bydd yn eich helpu chi i wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eich prif bynciau ac yn eich paratoi at fyd gwaith dwyieithog. Mae’r modiwl yn addas hefyd ar gyfer rhai sy’n astudio’r Gymraeg fel ail iaith.   

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.  

Mae'r tîm Cefnogi Dysgu ac Addysgu yn darparu ystod o wasanaethau rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i hwyluso symud i Brifysgol ac i'ch helpu i elwa o'ch astudiaethau.

Rydym yn gweithio o fewn adrannau academaidd ac yn cynnig rhaglen o weithdai. Ewch i'n tudalennau gwe am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad. Mae croeso i chi hefyd gyslltu â ni drwy ebost.

Rydym wedi ein lleoli yn y Brif Lyfrgell. Mae pob gwasanaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Modiwlau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog Blwyddyn 1 2023/24

Mae'r modiwlau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi eu rhestru fesul Coleg ac Ysgol isod.

Noder os gwelwch yn dda bod y rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid.

Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas

Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau

Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr GEraint Ellis

Dyma fodiwl sy’n cyflwyno’r myfyrwyr i fyd newyddiaduraeth. Byddant yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu creadigol a ffeithiol, y sgiliau gwahanol sydd eu hangen, a sut i gynllunio straeon ffeithiol. Fe’u dysgir sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, sut i gynhyrchu eu straeon eu hunain a sut i olygu eu gwaith. Elfen bwysig o hyn fydd dysgu sut i ymchwilio straeon. Bydd nifer o dasgau ganddynt i’w cwblhau a fydd yn eu hannog i fynd allan i gyfweld pobl `go iawn’ a sut i ddewis a dethol y dyfyniadau gorau. Erbyn diwedd y modiwl byddant hefyd wedi cysylltu gyda golygyddion amrywiol gyhoeddiadau i geisio cyhoeddi eu gwaith.

Mae’r modiwl hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi’r ddelwedd symudol. Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi’r ffordd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scène, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno enghreifftiau o’r pynciau dan sylw. 

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i amryw o elfennau creadigol a fydd yn rhan o’u cynlluniau gradd, gyda phwyslais arbennig ar sgiliau generaidd y gellir ei defnyddio mewn gwahanol feysydd cynhyrchu o fewn y cyfryngau. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu ac ymchwilio syniadau, technegau a dulliau cynhyrchu sylfaenol, ac adfyfyrio a gwerthuso beirniadol. Bydd yn cyflwyno sylfaen buddiol ar gyfer elfennau ymarferol y ddarpariaeth Cyfryngau a Newyddiaduraeth a gyflwynir yn yr ysgol yn ddiweddarach, ac yn cynorthwyo’r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau beirniadol. 

Dyma fodiwl sydd yn cyflwyno’r myfyrwyr i’r sgiliau a’r technegau sylfaenol a fydd yn eu galluogi i greu cynyrchiadau fideo a sain. Cyflwynir y myfyrwyr i’r offer a’r dulliau cynhyrchu perthnasol, a chyflawnir cyfres o dasgau perthnasol. Rhoddir sylw i’r prosesau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, gan drafod enghreifftiau defnyddiol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn adfyfyrio ar y gwaith drwy ddadansoddi’r hyn a gyflawnir. 

Bydd y modiwl hwn yn edrych ar nifer o gyfryngau gweledol gan archwilio testunau unigol yn ogystal ag edrych ar y sefydliadau sy’n eu cynhyrchu, a’r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol o amgylch y sefydliadau hynny. Trafodir dadleuon ynglŷn â natur gwahanol gyfryngau, gan archwilio’r berthynas rhwng y cyfrwng a’r testun. Mae hyn yn cynnwys maes newyddiaduraeth, ond gan ganolbwyntio ar ffurfiau gweledol o newyddiadura, gan gynnwys ffotonewyddiaduraeth a ffilmiau dogfen. Un o amcanion y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr â gwybodaeth a dealltwriaeth o ddadleuon allweddol am orffennol, presennol a dyfodol y cyfryngau gweledol.
 

Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg 

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Peredur Webb-Davies

Mae’r modiwl dwyieithog hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sosioieithyddiaeth, sef yr astudiaeth o’r berthynas rhwng iaith a chymdeithas. Bydd y ffocws ar yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg. Byddwn yn ystyried pa ffactorau cymdeithasol - fel ffurfioldeb, dosbarth cymdeithasol, oedran a rhyw siaradwyr - yn dylanwadu ar ffurf ramadegol iaith, a hefyd yn trafod amrywiaeth tafodieithol, sef sut mae pobl o wahanol ardaloedd yn siarad yn wahanol. Bydd myfyrwyr Cymraeg yn cael darlithoedd Saesneg gyda myfyriwr modiwl QXL1113 Language and Society a hefyd yn cael seminarau Cymraeg fydd yn canolbwyntio ar enghreifftiau o’r Gymraeg cyfoes. Nid oes angen unrhyw gefndir ieithyddol penodol i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn y modiwl hwn. 
 

Mae’r modiwl cyfrwng Cymraeg hwn yn cyflwyno myfyrwyr i hanfodion ieithyddiaeth (linguistics) . Gan ddefnyddio’r iaith Gymraeg fel man cychwyn, yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn edrych ar sut i ddisgrifio gramadeg ieithoedd sydd o ddiddordeb i fyfyrwyr y modiwl, fel Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a/neu Sbaeneg. Byddwn yn trafod nodweddion gramadegol fel trefn geiriau, strwythur mewnol geiriau, sain iaith, hanes iaith, cymysgu ieithoedd (cyfnewid côd), ayb. Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu esbonio’r blociau adeiladol sy’n cael eu cyfuno er mwyn creu iaith a’u cymharu ar draws ieithoedd. Gan nad oes angen i fyfyrwyr gael gwybodaeth ieithyddol flaenorol, mae’r modiwl yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ieithyddiaeth, llên/iaith Cymraeg, llên/iaith Saesneg, iaith fodern fel Sbaeneg neu Ffrangeg, ayb.

Modiwl sy’n galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A Ffrangeg ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â sgiliau llafar/ gwrando. Bydd myfyrwyr hefyd yn adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw’r testunau a’r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn dod i arfer â gwahanol gyweiriau. Bydd myfyrwyr yn cael cipolwg ar themâu Ffrengig penodol a materion sy’n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunanastudiaeth gyd-gwricwlaidd. 

Mae’r modiwl hwn yn barhad o LCF-1001, a’i nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Ffrangeg myfyrwyr lefel uwch. 
 

Modiwl sy’n addas i ddechreuwyr ynghyd â myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg hyd at TGAU. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Bydd myfyrwyr yn dysgu ac ehangu geirfa ac yn dod i ddeall a medru defnyddio gramadeg Ffrangeg. Byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau llafar a’u hyder i siarad Ffrangeg mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol.

Modiwl sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau’r modiwl LCF1003. Nod y modiwl yw adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn cyrraedd safon sy’n cyfateb i Lefel A. Bydd myfyrwyr yn defnyddio a datblygu’r eirfa a’r gramadeg a ddysgwyd yn semester 1, a bydd sgiliau llafar a’r hyder i siarad Ffrangeg yn cael eu datblygu ymhellach mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol. 
 

Modiwl sy’n galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â sgiliau llafar/ gwrando. Bydd myfyrwyr hefyd yn adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw’r testunau a’r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn dod i arfer â gwahanol gyweiriau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Sbaenaidd penodol a materion sy’n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Sbaeneg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.

Mae’r modiwl hwn yn barhad o LCS-1001, a’i nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Sbaeneg myfyrwyr lefel uwch. 

Modiwl sydd wedi ei anelu at ddechreuwyr a myfyrwyr sydd wedi astudio TGAU Sbaeneg. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar, clywedol ac ysgrifenedig sylfaenol. Mae’n cynnwys cyflwyniad ac adolygiad o elfennau gramadegol allweddol a geirfa ac ymadroddion cyffredin sy’n ymwneud â’r hunan, y teulu, bywyd pob dydd, hobïau, hoff bethau a chas bethau a chwarae rôl. Trwy gymhorthion clywedol/ gweledol, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant a chymdeithas Sbaen. 

Modiwl sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi astudio Sbaeneg i Ddechreuwyr a Myfyrwyr Canolradd 1. Nod y modiwl yw datblygu’r sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu’r hyfedredd sy’n cyfateb i safon Lefel A. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r egwyddorion gramadegol a ddysgwyd yn semester 1 i ysgrifennu darnau estynedig. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar strwythurau gramadegol mwy cymhleth. Datblygir sgiliau gwrando trwy ymarferion gwrando a deall gyda thapiau sain a fideo a bydd gofyn i fyfyrwyr roi cyflwyniadau unigol ar bynciau mwy cymhleth.

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Aled Llion Jones

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu traethodau a thrafod ar lafar drwy ganolbwyntio ar ddetholiad o weithiau gan awduron o’r unfed ganrif ar hugain. Rhoddir sylw i faterion pwysig fel llên-ladrad yn ogystal ag agweddau technegol, e.e. trefnu troednodiadau a dulliau cyfeirio safonol.  
 

Edrychir ar waith dramodwyr fel Ibsen, Strindberg, Chekhov, Brecht, Beckett ac eraill, a byddwn yn trafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y ddrama yn Ewrop. Trwy astudio cyfieithiadau Cymraeg o rai o ddramâu mawr y byd, dyma fodiwl rhyngwladol sy'n rhoi cefndir gwerthfawr i hanes y ddrama yng Nghymru.

 

Modiwl ymarferol ei bwyslais sy’n anelu at godi hyder myfyrwyr wrth arfer y Gymraeg yn ysgrifenedig. Mewn cyfres o ddosbarthiadau eglurhaol, trafodir y modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair.  

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau beirniadol myfyrwyr. Ceir cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Bydd y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol.  

 Cyflwyniad cryno i lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur.

Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tua 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig, a gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau a llunio cast ar gyfer y gyfres; llunnir braslun o blotiau’r gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod; eir ymlaen i lunio bwrdd storïo. Ceir cyfarwyddyd manwl ar sut i lunio deialog, a dysgir sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn y confensiynau arferol.  

Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl: ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol.  
 

Dyma gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg rhwng tua 1700-1900, cyfnod o drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Sut aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes hon o chwyldro? Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ystyriwn barhad gwahanol agweddau traddodiadol. Dan sylw fydd llenorion pwysig megis yr emynwyr Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths, Radicaliaid megis Jac Glan-y-Gors ac Iolo Morganwg, ac ymgyrchwyr pwysig megis Sarah Jane Rees (Cranogwen).  

Amcan y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eu galluogi maes o law i gyfrannu at y broses o gynllunio a chynnal y Gymraeg o fewn byd gwaith. Y mae’r modiwl yn tywys myfyrwyr drwy’r broses o gynllunio a gweithredu strategaethau iaith mewn gweithleoedd gan roi blas iddynt hefyd o realiti’r broses drwy ddeuddydd o leoliad gwaith yn un o adrannau’r Brifysgol. Wedi dilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn deall gwerth eu sgiliau Cymraeg eu hunain mewn cyd-destun proffesiynol ac yn deall hefyd sut i fynd ati i sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg mewn gweithle lle y mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio.

 

Modiwlau Cymraeg Ail Iaith

This module will develop your spoken Welsh skills, giving attention to various registers of the language, formal and informal. We’ll use TV, radio, films and music to get the discussions started. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafar. Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau’r iaith, o’r tafodieithol i’r ffurfiol. Bydd hyfedredd yn cael ei feithrin drwy drafod materion cyfoes, gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr ar amrywiol bynciau. Defnyddir deunydd cyfredol o’r teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau a sbarduno trafodaeth. 

A module designed to hone your written Welsh skills, paying attention to different styles and registers, from formal to informal. You will write regular short pieces, factual and fictional, and receive detailed feedback. Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu darn byr o Gymraeg yn rheolaidd. Gosodir tasgau o natur ffeithiol (e.e. crynodeb neu fwletin newyddion) a hefyd greadigol (e.e. stori fer neu bortread). Bydd pwyslais y modiwl ar ymarfer ysgrifennu’n raenus ac yn gywir.

A series of seminars giving you the chance to study different literary genres, e.g., poetry, a novel, a TV drama.  Bydd cyfle i astudio pedwar gwahanol genre drwy gyfrwng enghreifftiau diweddar, e.e. casgliad o gerddi, nofel a drama deledu. Dysgir drwy gyfres o seminarau.

Manylion y modiwl i ddilyn yn fuan.

A series of seminars in which we take a look at some of the highlights of Welsh literature, from the earliest poetry and the medieval legends of the Mabinogi, to the most recent works. Yn ystod y ddau fodiwl hyn bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar rai o uchafbwyntiau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, e.e. barddoniaeth Taliesin, Aneirin a Dafydd ap Gwilym a rhyddiaith Pedair Cainc y Mabinogi. Dysgir drwy gyfres o seminarau. 

Datblygu dealltwriaeth o elfennau iaith cerddoriaeth (melodi, harmoni, gwrthbwynt, rhythm) drwy astudio ymarfer cyfansoddi yng nghyfnodau’r Dadeni hwyr a’r Baroc yn ogystal ag elfennau o gerddoriaeth boblogaidd fodern.. 
 

Cyflwyno astudiaethau cerddoregol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth rhwng 1850 a heddiw, ynghyd â chyfres o weithdai ar sgiliau astudio. Mae’r modiwl yn cynnig arolwg o weithiau mewn amrywiaeth o genres ‘clasurol’ a phoblogaidd. Gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd. 
 

Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sylfaenol o gyfansoddi gan ddefnyddio offerynnau, lleisiau a thechnoleg. Mi fydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyfansoddi cerddoriaeth a chreu celf sonig gan ddefnyddio enghreifftiau o weithiau arwyddocaol ac ymagweddau creadigol o’r 20fed a’r 21ain ganrif. 

Mae’r modiwl hwn yn gymar i Gyfansoddi a Chelf Sonig A. Bydd y modiwl yn darparu’r sylfaen sy’n ofynnol i symud ymlaen i fodiwlau ail flwyddyn sy’n archwilio cyfansoddiad a chreadigrwydd sonig ymhellach.

Cyfuno rhaglen o hyfforddiant ar offeryn neu lais ynghyd â chyflwyniad i amrywiaeth o faterion sydd o bwys i berfformwyr, gan gynnwys paratoi a chyflwyno datganiad, technegau ymarfer effeithiol, gweithio gyda cherddorion eraill, gwahanol ddulliau o ddehongli. Er mai yn Semester 2 mae’r modiwl hwn yn rhedeg, mae gwersi offerynnol/lleisiol yn dechrau yn Semester 1. Mae’r modiwl hwn ar gael yn unig i fyfyrwyr sydd yn dilyn gradd mewn Cerddoriaeth neu radd cydanrhydedd mewn Cerddoriaeth gyda phwnc arall (e.e. Cymraeg). 

Estyn astudiaethau cerddoregol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth rhwng 1550 a 1850, ynghyd â chyfres o weithdai ar sgiliau astudio uwch. Gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd.
 

Drama, Theatr a Pherfformio 

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Ffion Haf Evans

Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio’r broses ysgrifennu ar gyfer perfformio. Gan ganolbwyntio’n bennaf ar ysgrifennu gwaith newydd i’r llwyfan, sut mae rhywun yn datblygu’r ymarfer o lunio naratif, datblygu cymeriad, dadansoddi strwythur a drafftio syniadau i fod yn gynhyrchiad? Edrychir ar y berthynas a’r cydweithio rhwng yr awdur â’r cyfarwyddwr a’r actorion ynghyd â gwerthuso’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau allweddol i ysgrifennu ar gyfer y sgrin.

Mae Creu Theatr yn gyfle i gael eich cyflwyno i faes pwnc theatr a pherfformio. Archwilio o fewn gweithdai ymarferol, sut i greu eich gwaith perfformio eich hun gyda grŵp o bobl eraill, sut y gall rhywun lunio drama wreiddiol, a datblygu fel actor, cyfarwyddwr, awdur, dylunydd… wrth wneud gwaith byw. Cewch eich cyflwyno i ddramâu clasurol, cyfoes, absẃrd ac ysgrifennu rhai newydd ynghyd â sawl ymarferydd theatr sydd wedi ffurfio’r ffordd yr ydym yn gwneud ac yn gwylio gwaith perfformio byw heddiw. Archwilir prosesau cynhyrchu, cewch eich annog i fynd i weld perfformiadau byw a gwaith perfformio digidol gyda chyfle cyffrous i greu eich darn perfformio eich hun erbyn diwedd y tymor. Mae croeso i chi berfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo’r gwaith perfformio a chael cyfle i archwilio ac arbrofi.
 

(Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) 

Edrychir ar waith dramodwyr fel Ibsen, Strindberg, Chekhov, Brecht, Beckett ac eraill, a byddwn yn trafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y ddrama yn Ewrop. Trwy astudio cyfieithiadau Cymraeg o rai o ddramâu mawr y byd, dyma fodiwl rhyngwladol sy'n rhoi cefndir gwerthfawr i hanes y ddrama yng Nghymru.

(Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd)

Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tua 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig, a gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau a llunio cast ar gyfer y gyfres; llunnir braslun o blotiau’r gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod; eir ymlaen i lunio bwrdd storio. Ceir cyfarwyddyd manwl ar sut i lunio deialog, a dysgir sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn y confensiynau arferol.

 

(Adran Ffilm, Neyddiaduraeth a'r Cyfryngau) 

Dyma fodiwl sydd yn cyflwyno’r myfyrwyr i’r sgiliau a’r technegau sylfaenol a fydd yn eu galluogi i greu cynyrchiadau fideo a sain. Cyflwynir y myfyrwyr i’r offer a’r dulliau cynhyrchu perthnasol, a chyflawnir cyfres o dasgau perthnasol. Rhoddir sylw i’r prosesau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, gan drafod enghreifftiau defnyddiol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn adfyfyrio ar y gwaith drwy ddadansoddi’r hyn a gyflawnir.  

(Adran Ffilm, Neyddiaduraeth a'r Cyfryngau) 

Mae’r modiwl hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi’r ddelwedd symudol. Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi’r ffordd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scène, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno enghreifftiau o’r pynciau dan sylw.  

Ysgol Addysg

 

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Rhian Tomos 

Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau academaidd y myfyrwyr ac yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer elfennau fel cyfeirnodi, golygu a phrawf ddarllen, cynllunio gwaith, creu a rhoi cyflwyniadau, hynny yw y sgiliau angenrheidiol trwy gydol eu cwrs is-raddedig ond hefyd sgiliau a fydd yn ddefnyddiol wedi iddynt adael y Brifysgol. 
 

Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar bwysigrwydd amrywiaeth diwylliannol, gwerthoedd a hawliau a’u pwysigrwydd wrth ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plant. Gyda phwyslais ar hawliau, bydd y modiwl yn edrych ar ffyrdd y gellir meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn plentyndod ac ieuenctid. Drwodd a thro, nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth eang o faterion diwylliannol mewn plentyndod ac ieuenctid o fewn cyd-destunau safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol. 

Mae’r modiwl hwn yn craffu ar ddatblygiad seicolegol cynnar plant o’u geni hyd at y blynyddoedd cynnar. Mae’n nodi’r cerrig milltir yn natblygiad cynnar plant ac yn tanlinellu’r ffactorau sy’n hyrwyddo datblygiad. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr arsylwi datblygiad plant ifanc mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar priodol, yn enwedig mewn perthynas â chymdeithasu a rhyngweithio ag eraill, a dadansoddi eu tystiolaeth yn erbyn y prif gerrig milltir datblygu. 

Mae’r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaeth gymdeithasegol plentyndod, ac yn trafod sut y mae cysyniadau a dealltwriaethau plentyndod yn cael eu pennu’n gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Archwilir y syniadau hyn gan drafod agenda hawliau plant a’r dadleuon cymdeithasol a chyfreithiol sy’n deillio ohoni.

Mae'r modiwl hwn yn ystyried agweddau cymdeithasol a seicolegol ar ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant. Nod y modiwl yw rhoi cyflwyniad defnyddiol i'r maes hynod ddiddorol hwn i'r rhai sydd eisiau gweithio gyda phlant. Mae'n cynnwys syniadau ymarferol yn ogystal â syniadau damcaniaethol. Bydd y rhai sy'n astudio'r modiwl hwn yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o sut y gellir cyfuno bywyd cartref, profiadau amrywiol ac eang a defnyddio llwyfannau digidol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu creadigol a llythrennedd sy'n paratoi plant at ddysgu gydol oes.
 

Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol. 
 

Mae’r cwrs gradd yma yn eich hyfforddi fel athro/athrawes gynradd. Bydd y cwrs yn eich paratoi i addysgu yng Nghymru ond hefyd un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu tu hwnt i Gymru. Bydd myfyrwyr yn cael eu gosod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth ac anogaeth i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach ar hyd y cwrs. 

Ysgol Busnes Bangor

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr EDWARD JONES

Ar gyfer y modiwlau isod mae’r darlithoedd yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i amcanion a nodweddion marchnata fel swyddogaeth fusnes. Mae’n canolbwyntio ar y broses a ddefnyddir gan sefydliadau i adnabod anghenion a dyheadau cwsmeriaid, i bennu pa farchnadoedd targed y gellir eu gwasanaethu orau, ac i gynllunio rhaglenni priodol i wasanaethu’r marchnadoedd hyn. Mae marchnata yn swyddogaeth fusnes craidd ac yn athroniaeth ar draws y sefydliad. Mae'r cysyniad marchnata yn mynd at wraidd angen sefydliad i fynegi a dilyn amcanion, gan greu gwerth i'w wahanol randdeiliaid. Mae'r modiwl yn pwysleisio'r cysyniad o werth i gwsmeriaid, mae hefyd yn archwilio a phwyso a mesur y penderfyniadau a’r dulliau sydd ar gael i sefydliadau roi gwerth i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ystyried gwahanol elfennau o'r dulliau marchnata amrywiol, fel swyddogaeth cynnyrch, brand, pris, hyrwyddo, lle a phobl.

Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg o hanes datblygiad economaidd byd-eang ac yn cyflwyno rhai o’r technegau a’r modelau y mae economegwyr yn eu defnyddio. Bydd y modiwl yn ystyried modelau o ddewis unigol a damcaniaeth gêm; ymddygiad cwmnïau a rhyngweithio yn y farchnad, yn ogystal â modelau'r macroeconomi. Bydd y modelau hyn yn cael eu defnyddio i ddeall nodweddion y gorffennol â’r byd cyfoes, gan gynnwyd twf poblogaeth a thwf economaidd; anghydraddoldeb, cylchoedd busnes a newid hinsawdd. Bydd y modiwl yn egluro mesurau newidynnau economaidd a chysyniadau o effeithlonrwydd economaidd.

Ar gyfer y modiwlau isod, bydd y darlithoedd yn Saesneg gyda’r tiwtorialau yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y modiwl hwn yn rhoi egwyddorion economaidd i fyfyrwyr ddeall strwythur marchnadoedd ariannol a swyddogaeth a gweithgareddau banciau a chwmnïau ariannol yn gyffredinol. Gan ddatblygu'r syniad o anghymesuredd gwybodaeth, bydd y modiwl yn edrych ar sut mae marchnadoedd ariannol, a chwmnïau ariannol fel banciau, yn effeithio ar yr economi yn gyffredinol. Bydd yn edrych ar swyddogaeth cyfraddau llog a sut mae marchnadoedd bondiau a marchnadoedd stoc yn gweithredu. Bydd y modiwl yn ymdrin yn feirniadol â'r strwythur ariannol ac yn galluogi i fyfyrwyr ddeall sut mae banciau'n gweithio ac yn cael eu rheoli, gan gynnwys arloesi ariannol a pham mae banciau'n cael eu rheoleiddio. Mae marchnadoedd ariannol yn dueddol o fethu a bydd y modiwl yn egluro pam mae argyfyngau ariannol yn digwydd. Bydd yn dod i ben drwy ystyried y cysyniad o greu adnau, drwy edrych ar y cyfryngau mae banciau canolog yn eu defnyddio i reoli'r cyflenwad arian, ac ystyried y polisi o dargedu chwyddiant. Byddwn yn ychwanegu at y modiwl gydag astudiaeth o fathau o gwmnïau bancio a dadansoddiad cymharol o systemau bancio.

Nodir mai modiwl yw hwn sy'n cyflwyno cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaeth.
Cyfrifeg ariannol: Rhoi cyflwyniad i sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon, a datblygu dealltwriaeth eang o theori, cysyniadau a chonfensiynau cyfrifeg.

Cyfrifeg rheolaeth: Rhoi cyflwyniad i swyddogaeth cyfrifeg rheolaeth mewn gwneud penderfyniadau a rheoli sefydliad.
 

Mae hwn yn gwrs sylfaen mewn sgiliau dadansoddeg busnes sy'n cynnwys dulliau ystadegol, casglu a dehongli data, dosraniadau tebygolrwydd, ffurfio a phrofi rhagdybiaethau, cydberthyniad a dadansoddiad atchwel. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau hyn yn Microsoft Excel.
 

Amcanion y cwrs hwn yw rhoi cyflwyniad i fusnes, rheolaeth a sefydliadau. Mae sefydliadau’n allweddol i’r ffordd yr ydym yn trefnu cymdeithas, ac mae astudiaeth o sefydliadau yn ganolog i ddatblygu dealltwriaeth nid yn unig o fusnes a rheolaeth, ond nifer o agweddau eraill ar ein bywydau. Mae’r cwrs yn edrych ar gyd-destun busnes, trefniadaeth gwaith a natur rheolaeth.
 

Mae'r modiwl yn cynnwys elfen efelychu masnachu sy'n rhedeg ochr yn ochr â darlithoedd wythnosol ar fathemateg gyllidol a thechnegau dadansoddol craidd.

Nod y modiwl yw datblygu sgiliau mathemateg a dadansoddi i lefel sy'n galluogi defnydd o dechnegau meintiol mewn ystod eang o weithgareddau busnes ac economeg, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) masnachu gwarantau a buddsoddi. Mae rhan greiddiol y modiwl yn cyflwyno mathemateg a thechnegau cyllidol sy'n berthnasol i wneud penderfyniadau mewn ystod eang o gyd-destunau. Pwrpas y rhan efelychu masnachu yw datblygu'r defnydd o dechnegau dadansoddi a phrisio yng nghyd-destun penodol buddsoddiad y farchnad stoc, gan ddefnyddio modelu taenlenni a masnachu gwarantu efelychu mewn amgylchedd delio rhithwir.

Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Y Gyfraith

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Hayley Roberts

Mae’r modiwl yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o gyfraith gyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys elfennau cyfraith datganoli. Bydd yn edrych ar y rheolau sy’n rheoleiddio prif gyrff llywodraeth, a’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth.

Mae’r modiwl yn rhoi sylfaen i’r myfyriwr ar yr hyn sy’n rheoli ffurfio a gorfodi contractau (addewid, derbyn a chytundeb) meysydd gallu, bwriad, cyfreithlondeb a sicrwydd telerau.

Mae’r modiwl hwn yn rhoi fframwaith i astudio’r gyfraith wrth edrych ar y llysoedd, y farnwriaeth, cyfreithwyr a hawliau dynol ymysg testunau eraill.

Mae’r modiwl yn cyflwyno sgiliau astudio cyfreithiol ymarferol, megis ysgrifennu traethodau cyfreithiol, a datrys problemau cyfreithiol. Bydd cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn achosion ffug lys yn ystod Semester 2. 
 

Mae’r modiwl yn cynnwys elfen o ddatblygu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn cyflawni tasgau megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodiadau achos, drafftio deddfwriaethau ac yn y blaen. Bydd y modiwl yn cynnig cyflwyniad i amryw o bynciau cyfreithiol, er enghraifft cyfraith trosedd, cyfraith rhyngwladol a chyfraith datganoli.

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatgan a chymhwyso rheolau cyfraith droseddol yng Nghymru a Lloegr yr ymdrinnir â hi yn y cwrs yn gywir ac yn berthnasol, ac i egluro'n gywir y newidiadau gwirioneddol ac arfaethedig diweddar i'r maes hwn o'r gyfraith.  

Ceir cyflwyniad i’r prif theorïau cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau ffwythiannaeth a theori gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a’u gwaith arloesol mewn ffurfio theorïau cymdeithasegol cynnar. Yna edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso’r theorïau a’r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, gwaith a dosbarth cymdeithasol. 

Dyma fodiwl rhyngddisgyblaethol yn cyfuno elfennau o hanes modern â pholisi cymdeithasol yng Nghymru a Prydain. Mae’r modiwl yn edrych ar ddatblygiad polisïau cymdeithasol o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol, a gwneir hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol. Ystyrir pwy yw’r prif ddarparwyr lles, ynghyd a sut y telir am les cymdeithasol. Edrychir yn arbennig ar y dimensiwn Cymreig wrth ystyried anghenion, polisïau cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru yn sgil datganoli.

Er bod gan ein cymdeithas ystod eang o adnoddau fel cyfoeth, statws a phŵer, rydym yn byw mewn cymdeithas anghyfartal iawn, wedi’i nodweddu gan anghydraddoldeb a rhaniad cymdeithasol. Bydd y modiwl yn cychwyn drwy ystyried categorïau haeniad cymdeithasol, gan gynnwys dosbarth cymdeithasol, rhyw ac ethnigrwydd, cyn canolbwyntio ar feysydd cyfoes cymdeithasegol fel oedran, rhywioldeb, mynegiant rhyw, anabledd, crefydd, cenedl ac ardal ddaearyddol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o sut mae rhaniadau cymdeithasol yn treiddio trwy’r drefn gymdeithasol yn gyhoeddus ac yn breifat, gan arwain at wahaniaethu ac anfantais. 

Troseddeg yw un o’r meysydd astudio mwyaf diddorol. Mae trosedd yn fater pwysig i gymdeithas ac yn bwnc gwleidyddol llosg mewn llawer o wledydd, gan ei fod yn gysylltiedig â phryderon am gyflwr cymdeithas. Mae “Cyflwyniad i Droseddeg” yn ymgyfarwyddo myfyrwyr blwyddyn gyntaf â ffyrdd o feddwl am drosedd ac yn cyflwyno rhai o’r prif safbwyntiau damcaniaethol o fewn troseddeg. 

Bwriad y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth gadarn o’r ffyrdd y mae trosedd, yng Nghymru a Lloegr, yn dod i sylw’r awdurdodau, sut mae troseddau’n cael eu mesur, sut mae troseddu yn cael ei blismona, sut mae personau a gyhuddir yn cael eu dwyn i dreial ac mae’r rhai sy’n euog yn cael eu dedfrydu a’u cosbi. Mae’r modiwl yn cymryd trosolwg hanesyddol o darddiad cyfraith droseddol, yr heddlu, y llysoedd troseddol a’r carchar, gan archwilio’r newidiadau cymdeithasol, economaidd ac athronyddol sylweddol sydd wedi helpu i siapio’r system cyfiawnder troseddol a chosbi modern.
 

Hanes, Archeoleg a Threftadaeth

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Mari Elin Wiliam

O ddyfodiad y Normaniaid i ddiwygiadau’r cyfnod Tuduraidd: dyna grynhoi cwmpas cronolegol y modiwl hwn. Bwriad y modiwl yw cyflwyno rhai o ddatblygiadau pellgyrhaeddol hanes Cymru yn ystod y cyfnod c.1060-1603. Bydd cyfle i edrych ar gymeriadau blaenllaw fel Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr a Harri VII, yn ogystal â chyfle i wyntyllu newidiadau gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol y cyfnod.

Amcan y modiwl hwn yw cynnig arolwg cynhwysfawr o hanes Cymru yn y cyfnod modern, gan ddangos sut yr adlewyrchodd Cymru’r cyfnewidiadau enfawr a gafwyd yn Ewrop a rhannau eraill o Brydain ynghlwm â chwyldroadau, diwydiannu a phrotest. Mae’r modiwl yn olrhain trawsnewidiad Cymru o ddiwedd y 18fed ganrif hyd at yr 21ain ganrif, gan edrych ar themâu fel cenedlaetholdeb, gwleidyddiaeth Cymru, iaith, diwylliant a chwaraeon.   

Dyma fodiwl rhyngddisgyblaethol yn cyfuno elfennau o hanes modern â polisi cymdeithasol yng Nghymru a Prydain. Mae’r modiwl yn edrych ar ddatblygiad polisïau cymdeithasol o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol, a gwneir hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol. Ystyrir pwy yw’r prif ddarparwyr lles, ynghyd a sut y telir am les cymdeithasol. Edrychir yn arbennig ar y dimensiwn Cymreig wrth ystyried anghenion, polisïau cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru yn sgil datganoli. 

Modiwlau gyda grwpiau seminar Cymraeg

Bydd darlithoedd y modiwlau isod yn Saesneg, gyda’r opsiwn (os ydy’r niferoedd yn caniatáu) i ymuno â grŵp seminar Cymraeg. Cewch gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis.

Bydd mwy o wybodaeth am y modiwl ym ar gael yn fuan. 

Bydd mwy o wybodaeth am y modiwl ym ar gael yn fuan. 

Bydd mwy o wybodaeth am y modiwl ym ar gael yn fuan. 

Bydd mwy o wybodaeth am y modiwl ym ar gael yn fuan. 

Mae’r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad eang i fyfyrwyr i faes Hen Athroniaeth. Gan ddechrau gyda'r cyn-Socratiaid, byddwn yn archwilio themâu a nodweddion y math(au) o athroniaeth a ddatblygodd yng nghyfnod cynnar meddwl y Gorllewin. Yna byddwn yn ystyried yr athronydd arwyddocaol hwnnw, Plato. Trwy archwilio ei 'Weriniaeth' yn fanwl, bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth fanwl o'r testun, yn enwedig o ran syniadau allweddol megis damcaniaeth Ffurfiau, natur cyfiawnder a thair rhan yr enaid. Gan adeiladu ar hynny, byddwn yn ystyried yr athronwyr diweddarach, gan gynnwys Aristoteles, ac ysgolion meddwl eraill, megis yr Epicureaid a'r Stoiciaid. Pan fo'n briodol, byddwn yn ystyried cymhwysiad yr hen athroniaethau hyn at feddwl a chymdeithas gyfoes.

Amcan y modiwl hwn yw darparu myfyrwyr â throsolwg eang o gyfluniad hanesyddol a chrefyddol Cristnogaeth. Bydd y modiwl yn dechrau ag archwiliad o hanes datblygiad Cristnogaeth, gan gyfeirio at gyfansoddiad y Testament Newydd, dysgeidiaeth Iesu, a sefydlu’r Eglwys Fore. Wedi gwneud hynny, byddem yn ystyried datblygiad yr Eglwys Gristnogol, gan sylwi’n benodol ar ddatblygiad y gwahanol enwadau Cristnogol. Yn y cyswllt hwn, bydd y modiwl yn gwerthuso’r gwahanol syniadau diwinyddol, ideolegau, a chysyniadau sydd gan y gwahanol enwadau. Sylwn, er enghraifft ar y Tystion Jehofa a grwpiau ‘Cristnogol’ yr asgell chwith. Yn ogystal, ystyrir agweddau penodol ar ddiwinyddiaeth Gristnogol, gan gynnwys athrawiaeth y Drindod Sanctaidd a Christoleg. Byddem wedyn yn asesu’r modd yr ymarferir Cristnogaeth heddiw drwy archwilio themâu megis bedydd, arwyddocâd y cymun, ac ymarferoldeb y ffydd Gristnogol mewn cyd-destun cymdeithasol anghristnogol. Pwrpas y modiwl, felly, yw annog myfyrwyr i ennyn dealltwriaeth o wahanol bynciau cysylltiedig â Christnogaeth, gan drafod seiliau’r grefydd a’r sawl sy’n eu hystyried eu hunain yn ‘Gristnogion’. 

Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Prysor Williams

Cyflwyniad i sgiliau astudio a datblygiad galluoedd llafar ac ysgrifenedig yng nghyd-destun sgiliau cyflwyno a methodoleg amgylcheddol/hamdden. 

Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi, a gwerthuso gwybodaeth wyddonol. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau. 

Modiwl ymarferol sy’n cynnwys uned maes preswyl ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe. Mae’n gyfle gwych i gydweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda myfyrwyr o sefydliadau eraill yng Nghymru. Nid oes arholiad: bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy gynhyrchu portffolio.
 

Gwaith maes yn edrych yn uniongyrchol ar y prosesau daearegol, amgylcheddol a dynol sy’n cyfrannu tuag at dirlun, a strwythur cymunedol a diwydiannol Eryri. 

Mae’r modiwl yn cyflwyno meddylfryd daearyddol i gysyniadau globaleiddio – gofod a lle, pobl ac amgylchedd, trefoli, tlodi a datblygu, hunaniaeth a gwahaniaeth, poblogaeth, mudo, ethnigrwydd a chenedlaetholdeb, a chynaladwyedd. Byddwn yn ystyried y berthynas rhwng pobl a’u lle mewn amgylchedd naturiol, eu sefyllfa economaidd a gwleidyddol.

Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi, a gwerthuso gwybodaeth wyddonol. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau. 

Gan adeiladu ar y sgiliau a ddatblygir yn Semester 1, rhoi profiad o ddylunio a chynnal arbrofion yn y labordy ac yn y maes, technegau i gasglu a dadansoddi data, ac adrodd canlyniadau.

Ysgol Gwyddorau Eigion

I drafod ymhellach cysylltwch gyda

dr dei huws  neu dr mollie duggan-edwards

 

Mae’r modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau a ddefnyddir gan wyddonwyr naturiol ee. sgiliau TG, defnydd effeithiol o’r cyfleusterau chwilio’r llyfrgell, cyfrifiadau mathemategol sylfaenol, y dull gwyddonol, dadansoddi ystadegol, a dylunio arbrofol. 

Cyflwynir yr ystod o sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo wrth ddilyn cwrs gradd yn y maes Gwyddorau Eigion. Bydd y myfyrwyr yn sgwrsio a chyfathrebu am egwyddorion a phroblemau gwyddonol.

Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Daniel Roberts

Mae’r modiwl hwn yn gosod y sylfaen mewn meddwl cyfrifiannol ac yn cyflwyno dealltwriaeth o’r fathemateg sylfaenol sy’n sail i holl gyfrifiadura. Mae’r modiwl hefyd yn rhoi profiad o ddelio â’r strwythurau mathemategol sy’n sail i strwythurau rhaglennu a data, ynghyn â chynnwys adolygiad o algebra elfennol ac ymarfer ag ef.

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno prif dechnegau dadansoddi cylchedau a dangos bod hwn yn fframwaith allweddol o beirianneg electronig a dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r ffiseg sylfaenol sy’n pennu priodweddau electronig deunyddiau a ddefnyddir yn y diwydiant electroneg.

Mae’r modiwl yma yn darparu hanfodion dadansoddi a dylunio cylchedau analog a digidol yn seiliedig ar ddyfeisiau arwahanol i baratoi myfyrwyr at y modiwlau electroneg analog a digidol yn yr ail flwyddyn.

Dylunio Cynnyrch

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Peredur Williams

 

Mae hi’n bosib cofrestru ar gyfer y Cwrs Dylunio Cynnyrch drwy’r Gymraeg (W241), ac astudio pob modiwl drwy’r Gymraeg.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddechrau datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i fod yn ddylunydd ac yn ymarferydd proffesiynol drwy dasgau dylunio a gweithgynhyrchu â ffocws byr. Bydd y myfyriwr yn creu dogfennau sgiliau CV proffesiynol. Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddechrau datblygu meddylfryd creadigol a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gyfleu eu syniadau'n effeithiol mewn 2D drwy dechnegau braslunio a chyfathrebu graffigol. Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddechrau datblygu eu sgiliau prototeipio a gweithgynhyrchu 3D drwy ddefnyddio stiwdio prototeipio masnachol a pheiriannau gweithdy. Trwy weithgareddau gweithdy bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth am arferion Iechyd a Diogelwch ac eiddo materol.  Mae hefyd yn dechrau datblygu gwybodaeth a chymwyseddau myfyrwyr wrth ddefnyddio Dylunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur, argraffu 3D a defnyddio meddalwedd graffig digidol (Adobe Photoshop, Darlunydd ac InDesign).

Modiwl 8 wythnos yw hon, a bydd yn cynnwys naill ai un neu ddau o friffiau dylunio gan gwmni allanol. Bydd y prosiect dylunio yn cyflwyno myfyrwyr i Broses Ddylunio Bangor, a fydd yn cael ei ddefnyddio i strwythuro'r gwaith o reoli prosiectau dylunio ac mae'n cynnwys pedwar cam a elwir yn gatiau. Yn ogystal â'r astudiaethau dylunio, bydd cyfres wythnosol o ymarferion a sesiynau a addysgir yn cynnwys Graffeg Ddigidol, technoleg rheoli a sesiwn gweithdy i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau gweithgynhyrchu drwy her ddylunio bwrpasol. Bydd asesu yn gyfuniad o waith dylunio, cyflwyniadau, tystiolaeth o ymarferion wedi'u cwblhau a phortffolio ansawdd CV.
 

Mae'r modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o'r agweddau proffesiynol sy'n gysylltiedig â gyrfa mewn dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch. Mae'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn yn y gweithle, rheoli'r gweithle, arweinyddiaeth, arloesi ynghyd â materion allweddol sy'n ymwneud â dylunio a gweithgynhyrchu, ac amrywiaethau cyfathrebu yn y gweithle. Mae'r darlithoedd yn y modiwl hwn yn llywio ac yn dylanwadu yn uniongyrchol ar y modiwl lleoliad gwaith. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ac ymgyfarwyddo â chynnwys y darlithoedd ac ymgorffori eu dysgu yn adroddiad lleoliad gwaith. Mae ail elfen y modiwl hwn yn cynnwys ysgrifennu academaidd - bydd myfyrwyr yn ymchwilio i ddau bwnc penodol ac yn cyflwyno eu traethodau. Mae pynciau'n ymwneud â themâu fel prosesau arloesi, tueddiadau byd-eang, datblygiad personol, meddwl dylunio a strategaeth. Mae trydedd elfen y modiwl hwn yn cynnwys tasg tîm 4 wythnos o hyd (cymysgedd ar hap o fyfyrwyr Blwyddyn Gyntaf, Ail a Thrydedd Flwyddyn) i ymgysylltu ac ymateb i friff byw diwydiannol a osodwyd gan un o'n cwmnïau partner. Mae'r agwedd hon ar y modiwl yn cael ei hasesu gan dîm Viva gerbron panel o feirniaid. Mae'r dasg hon a'i hasesiad yn ailadrodd y broses lle byddai dylunwyr sy'n gweithio mewn tîm yn cyflwyno eu canlyniad cyflawn i gleient.  

 Mae profiad yn y gweithle yn ganolog i'r cwrs, mae'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o weithio fel dylunydd mewn amgylchedd masnachol. Mae'r modiwl cyntaf hwn mewn cyfres o dri modiwl lleoliad gwaith yn ystod y cwrs, yn cyflwyno ystod o fodelau damcaniaethol a ddefnyddiwyd yn ystod y dadansoddiad. Mae'r gweithle yn agwedd allweddol ar y cwrs ac mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio gyda chwmnïau a phartneriaid diwydiannol i gael profiadau ymarferol gwerthfawr. Yn ystod y lleoliad 6 wythnos, disgwylir i fyfyrwyr lunio adroddiad am agweddau penodol a arsylwyd arnynt a chysylltu eu dadansoddiad â'u datblygiad proffesiynol eu hunain.

Coleg Meddygaeth ac Iechyd

Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Seicoleg

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Dr Emma hughes-parry

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu’n effeithiol mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol, ac mewn seicoleg yn benodol, gan ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a gwerthuso gwaith academaidd . Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda thrafodaeth bellach ar erthyglau a materion cyfoes mewn seminarau wythnosol. 

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau craidd, gan wrando ar ddarlithoedd gan arbenigwyr o feysydd seicolegol gwahanol. Yn ogystal â darlithoedd a seminarau wythnosol, bydd myfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau cyflwyno, lle byddant yn datblygu eu sgiliau cyflwyno ar lafar.
 

Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.

Yma, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau dulliau ymchwil, drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o arbrofion a dadansoddiadau gwahanol. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda seminarau wythnosol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr drafod y pynciau ymhellach, a dysgu sut i ddadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd penodol (SPSS).
 

Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.
 

 Yma, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau dulliau ymchwil, drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o arbrofion a dadansoddiadau gwahanol. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda seminarau wythnosol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr drafod y pynciau ymhellach, a dysgu sut i ddadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd penodol (SPSS). 

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu’n effeithiol mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol, ac mewn seicoleg yn benodol, gan ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a gwerthuso gwaith academaidd . Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda thrafodaeth bellach ar erthyglau a materion cyfoes mewn seminarau wythnosol.

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau craidd, gan wrando ar ddarlithoedd gan arbenigwyr o feysydd seicolegol gwahanol. Yn ogystal â darlithoedd a seminarau wythnosol, bydd myfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau cyflwyno, lle byddant yn datblygu eu sgiliau cyflwyno ar lafar.

Nod y modiwl yw rhoi gwybodaeth sylfaenol am ffisioleg ddynol. Bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn deall yr agweddau ffisiolegol o ymarfer corff a chwaraeon a fydd yn cael eu trafod mewn modiwlau dilynol. Bydd y sesiynau labordy yn cael eu cynnal yn Gymraeg gyda’r opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

Canolbwyntir ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau antur ddiogel ar y tir. Y prif weithgareddau yr ymdrinnir â hwy fydd cerdded mynyddoedd, dringo dan do, micro fordwyo a sgramblo mewn ceunentydd. Cynhelir y sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.
 

Canolbwyntir ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol ac ymwybyddiaeth dactegol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn chwaraeon. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ofynion chwaraeon, ac yn dod i ddeall y paratoi sy’n gydnaws a datblygu ymarfer da wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg. 
 

Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn athletau, dawns, gymnasteg a nofio. Cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

 Nod y modiwl yw rhoi cyflwyniad i egwyddorion datblygu cryfder a ffitrwydd i wella perfformiad athletwyr. Bydd pwyslais ar chwaraeon tîm, er y bydd llawer o’r agweddau dan sylw yn trosglwyddo i chwaraeon unigol ac anhraddodiadol. Lle bo modd, cynhelir sesiynau ymarferol a seminarau bach yn Gymraeg, gyda’r opsiwn o gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg.
 

Ysgol Gwyddorau Iechyd

Gwyddorau Iechyd 

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Siwan humphreys

Nod y modiwl hwn yw cydweithio â chi i ddechrau eich taith gofal iechyd a datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o themâu ac arferion rhyngbroffesiynol allweddol i greu arweinwyr deallus, tosturiol ar gyfer y gweithlu gofal iechyd.

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall a dysgu am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso agweddau sylfaenol ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i egwyddorion hybu iechyd ac atal afiechyd trwy gydol oes er mwyn sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posib. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd gwerthoedd moesegol wrth ddarparu gofal.

Bydd y modiwl yn dysgu sgiliau cyfathrebu, gofal a therapiwtig i chi mewn sesiynau efelychu a gweithdai sy'n hybu diogelwch y cleifion ac ansawdd y gofal. I’r perwyl hwnnw byddwch yn gallu ymarfer, magu hyder, cwestiynu ac ymchwilio sgiliau gofal a sgiliau therapiwtig mewn amgylchedd diogel. 
 

O fewn y modiwl hwn byddwch yn archwilio rhai o'r materion sylfaenol sy'n ofynnol i nyrsio oedolion, plant a phobl ag anableddau, iechyd meddwl drwy gydol eu hoes. Byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau nyrsio sylfaenol ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gan ystyried yr agweddau ffisiolegol a seicolegol ynghyd â'r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio ar iechyd a lles. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol sy'n eich paratoi i ddarparu gofal nyrsio tosturiol ac urddasol i bawb. Mae datblygu gwybodaeth am sgiliau cyfathrebu a dulliau ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn elfen graidd o'r modiwl. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r defnydd o sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer darparu a'r gofal gorau a gwaith tîm rhyngbroffesiynol da.
 

Radiograffeg Diagnostig

 Mae modd astudio peth o'r cwrs radiograffeg diagnotig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cefnogaeth ar gael i fyfyrwyr trwy gymorth staff ac adnoddau, ac mae hefyd yn bosib cael tiwtor personol cyfrwng Cymraeg. 

Bydwreigiaeth

 

I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH Â Siwan Humphreys


Mae myfyrwyr Baglor Bydwreigiaeth (Anrhydedd) sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor yn gallu ymgeisio am yr ‘ysgoloriaeth cymhelliant’ gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth gyflawni o leiaf 33% o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn cyflawni y credydau gofynnol mae modd cwblhau gwahanol aseiniadau sydd yn amrywio o ystod eang megis cymwyseddau clinigol, OSCEs (arholiadau llafar), vivas, arholiadau ysgrifenedig neu thraethodau o wahanol fodiwlau yn ôl eu dewis iaith a’u cryfderau ieithyddol. 

Mae cefnogaeth ar gael i bob myfyriwr sydd yn dewis astudio trwy’r Gymraeg, trwy gymorth staff, adnoddau a thiwtor personol Cymraeg. Er fod canran helaeth or darlithoedd yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, mae modd cymryd rhan a chwblhau gwaith grŵp, sesiynau sgiliau clinigol, unrhyw aseiniad neu waith ymarferol ar leoliad trwy’r Gymraeg. Gweler y modiwlau ar gyfer Blwyddyn 1 isod.

Modiwl cyffredin ble fydd myfyrwyr Gofal Iechyd yn dysgu a gweithio fel corff proffesiynol. Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr hyn i ennill dealltwriaeth ar agweddau a rennir ar ddarparu gofal iechyd, megis cyfathrebu, gwyddorau iechyd, systemau'r corff, deddfwriaeth, polisi ac economeg iechyd o fewn y cyd-destun gweithio rhyngbroffesiynol.

Ar ddiwedd y modiwl dylai'r myfyriwr allu disgrifio/dangos ymwybyddiaeth o rôl y fydwraig wrth optimeiddio y broses ffisiolegol arferol tra'n gweithio mewn partneriaeth â merched, gan alluogi eu barn, eu dewisiadau a'u penderfyniadau, a helpu i gryfhau eu galluoedd.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno rôl y fydwraig fel ymarferydd iechyd cyhoeddus effeithiol. Bydd myfyrwyr yn archwilio cysyniadau addysg iechyd, hybu iechyd ac amddiffyn a chael eu cyflwyno i adeiladu darpariaeth gofal sydd wedi'i wreiddio mewn model gofal cymdeithasol sy'n ystyried merched fel partneriaid a cyfranogwyr gweithredol mewn dewisiadau gofal iechyd. Anogir myfyrwyr  i ystyried sut y gellir diwallu anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol y ferch, ei theulu a'r gymuned ehangach/fyd-eang.

Mae’r modiwl hwn yn rhedeg trwy’r flwyddyn ynghyd ar modiwlau eraill ym mlwyddyn 1 ac yn canolbwyntio ar adeiladau hyder a chymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd yn gysylltiedig gyda ymarfer Bydwreigiaeth. Bydd myfyrwyr yn dysgu drwy ystod o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda gweithdai sgiliau wedi'u hwyluso. Bydd y dysgu damcaniaethol yn cael ei gefnogi gan ddysgu o fewn yr amgylchedd lleoliadau clinigol. Mae'r modiwl hwn yn paratoi'r myfyrwyr i gyflawni yr hyfedreddau a amlinellir yn y Rhaglen Unwaith i Gymru 2020 Dogfen Asesu Ymarfer Bydwreigiaeth (MPAD) ar gyfer blwyddyn 1.


 

Gwyddorau Meddygol

  

I drafod ymhellach cysylltwch gyda

Merfyn Williams   neuDr Dylan Jones

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig mewn gwaith labordy. Bydd darlithoedd a sesiynau ymarferol yn egluro cysyniadau’n ymwneud a materion iechyd a diogelwch, rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau. Caiff technegau labordy sylfaenol, a’r defnydd a wneir ohonynt, eu cynnwys a’u hasesu mewn dosbarthiadau ymarferol. 

Cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn y meysydd Biocemeg, Ffisioleg, Microbioleg a Geneteg. Ymweliadau ag ysbytai a chwmnïau priodol.

Cyflwyniad i agweddau ar ficrobioleg feddygol gan gynnwys bacteria, firws, ffwng a paraseit. 

 Cyflwyniad i wahanol agweddau o ffisioleg dynol, yn cynnwys esboniad o’r prif organau. 

Mae’r modiwl wedi’i selio ar agweddau o gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy, lle bydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu gwyddoniaeth drwy’r Gymraeg, a gwella neu gynyddu eu sgiliau iaith ac ysgrifenedig yn y Gymraeg.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?