1-2-3 ... WEDI CYHOEDDI
Anelwch at Gyhoeddi!
Gellir cyhoeddi'r rhan fwyaf o waith addysgol sy'n newydd ac arloesol. Gallech ysgrifennu erthygl adolygu hefyd neu gyfraniad at bolisi.
Chwiliwch o gwmpas! Efallai bod gennych astudiaeth achos eisoes y gellid ei chyhoeddi, enghraifft o ymarfer addysgu da, ymyriadau newydd mewn addysgu neu ymchwil addysgol. Efallai bod y gwaith hwn yn deillio o'ch Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Uwch (PGCertHE).
Chwiliwch am y cyfnodolyn iawn! Dewiswch ddarparwr cyhoeddiad addas o'r linc hwn i'r Cyfnodolion Addysgol. Anelwch at ffactor effaith uchel. Y ffactor effaith ar gyfartaledd i gyfnodolion addysgol yw tua 1.9.
Edrychwch i weld beth ydi'r 'Meini Prawf Marcio'! Cyn i chi ddechrau cofiwch ddarllen y Cyfarwyddiadau i Awduron ar we-dudalen y cyfnodolyn yn ofalus.
Gofynnwch am sylwadau! Gofynnwch i ffrind ddarllen eich drafft i sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Canmolwch o! Dylai'r llythyr eglurhaol at y golygydd egluro beth sy'n arloesol, pam y gall fod yn addas i'r cyfnodolyn arbennig yma a'i fod wedi'i anelu at gynulleidfa ehangach.
Cadwch yr adolygwyr yn hapus! Mae pawb yn cael sylwadau gwael gan adolygwyr - felly peidiwch â phoeni! Ceisiwch roi sylw i gymaint o sylwadau â phosibl. Yn eich llythyr ateb eglurwch fesul pwynt beth gafodd sylw, sut y cafodd sylw neu pam na allech ymdrin â sylw neilltuol. Traciwch yr holl newidiadau yn y drafft.
Gofalwch fod eich papur yn cael ei dderbyn i ddechrau! Mae tua hanner y cyfnodolion yn codi ffioedd cyhoeddi, a all fod yn uwch yn achos cyhoeddiadau Mynediad Agored. Sicrhewch fod eich papur yn cael ei dderbyn i ddechrau gan fod hynny'n eich galluogi i gyflwyno achos cryfach i'r Brifysgol i dalu'r ffioedd.
Gadewch i bawb wybod! Unwaith y caiff eich papur ei dderbyn, peidiwch ag anghofio cysylltu â Swyddfa'r Wasg (press@bangor.ac.uk) i lunio datganiad i'r wasg, gyda'ch Rheolwr Coleg i roi eitem newyddion fer ar we-dudalen eich Ysgol a rhowch wybod i dîm CELT os gwelwch yn dda [e-bost CELT].