1-2-3 ... Wedi cael y Grant!
Chwiliwch am y noddwr iawn! Daw cefnogaeth i brojectau addysgol gan amrywiaeth mawr o noddwyr. Mae llawer o'r rhain wedi'u rhestru yn ein Cronfa Ddata Noddwyr Addysgol. Cyn i chi ddechrau gwneud cais, darllenwch y cyfarwyddiadau ynghylch cyllido ar we-dudalen y noddwr yn ofalus a chysylltwch â'r noddwr yn anffurfiol i weld a yw eich syniad yn cyd-fynd â'r meini prawf i gael cyllid ganddynt. Mae'n werth datblygu cyswllt personol gyda noddwr yn fuan iawn yn y broses ymgeisio, gan y gellir cael gwared â llawer o gamgymeriadau cyffredin cyn cyflwyno.
FEC - beth yw hyn? Mae'n rhaid gwneud Costiad Economaidd Llawn (FEC) yn achos pob grant. Mae'n cyfrifo effaith ariannol lawn eich project. Mae'r Swyddfa Gyllid eisiau cael y daenlen FEC wedi'i llenwi'n llawn, neu'n rhannol, o leiaf 2 wythnos cyn y dyddiad cau am geisiadau. Gellir lawrlwytho'r daenlen o we-dudalen y Swyddfa Gyllid [linc yma]. Cyngor: dechreuwch yn fuan iawn gyda'r Costio Economaidd Llawn!
Mae yna dri math o gostau:
- costau a gafwyd yn uniongyrchol (holl wariant uniongyrchol ar gyfer y project, e.e. efrydiaeth PhD neu gostau nwyddau traul);
- costau a bennwyd yn uniongyrchol (e.e. peth o'ch amser staff, defnyddio cyfleuster neu staff cefnogi a rennir);
- costau anuniongyrchol (e.e. costau lle a gwasanaethau i'r Brifysgol).
Dim ond costau a gafwyd yn uniongyrchol a delir gan grantiau a gyllidir gan elusennau, tra bod grantiau gan Gynghorau Ymchwil y DU, y Llywodraeth a ffynonellau Ewropeaidd yn talu'r costau a bennwyd yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Felly, mae gan bob project ddiffyg mwy neu lai gan na fydd unrhyw noddwr yn talu'r holl gostau (gellir cael hyd at 80% o'r costau). Nid yw hyn, fodd bynnag, yn cael unrhyw ddylanwad ar y math o grant y gellwch wneud cais amdani!
Cofrestrwch yn fuan gyda'r system electronig gwneud cais am grantiau! Mae llawer o noddwyr mawr yn defnyddio system ymgeisio electronig; er enghraifft, y system Je-S yn achos Cynghorau Ymchwil y DU. Cofrestrwch yn gynnar ac ymgyfarwyddwch â’r system. Mae'r Swyddfa Ymchwil yn cynnig arweiniad gyda'r systemau mwy cymhleth a ddefnyddir gan Gynghorau Ymchwil yr Undeb Ewropeaidd a'r DU. Yn achos llawer o elusennau llai, efallai mai dim ond llenwi ffurflen gais ar-lein fydd raid i chi.
Daliwch sylw'r adolygydd! Atebwch y tri chwestiwn canlynol mor glir â phosibl ar ddechrau eich cais:
- Pam mae eich gwaith yn werth ei wybod?
- Sut fyddwn ni'n gwybod bod y casgliadau'n ddilys?
- Beth ydym ni'n mynd i'w ddysgu o ganlyniad i'r project arfaethedig nad ydym yn ei wybod yn awr?
Anelwch at fod yn eglur! Efallai y caiff eich cais ei adolygu gan aelodau pwyllgor nad ydynt yn yr un maes â chi. Felly, cofiwch osgoi jargon, eglurwch dermau technegol yn glir (gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl ohonynt) a phwysleisiwch newydd-deb eich ffordd o ymdrin â'r broblem.
Eglurwch y cyd-destun! Dylai eich cais egluro beth a ddysgir o'ch gwaith nad ydyw'n wybyddus ar hyn o bryd. Mae'n hanfodol bod y cynnig yn crynhoi cyflwr presennol gwybodaeth berthnasol yn y maes mewn ffordd fanwl a chryno. Peidiwch â defnyddio cyfeiriadau sydd wedi dyddio a pheidiwch â hepgor cyhoeddiadau allweddol sy'n berthnasol i'ch cais. Cyfeiriwch yn glir at gylchoedd gorchwyl eich noddwr neu anghenion y cais am geisiadau.
Gofalwch bod gennych gynllun B! Mae cynigion da'n dangos ymwybyddiaeth o wahanol safbwyntiau a risgiau posibl. Eglurwch beth y byddech yn ei wneud pe bai'r dull cyntaf yn methu (h.y. beth yw eich cynllun B?). Mae hyn yn bwysig iawn gan fod pob noddwr eisiau sicrhau eu bod yn cael 'gwerth am arian'.
Adeiladwch Dîm! Os ydi'ch project angen arbenigedd nad oes gennych chi, chwiliwch am gyd-ymgeisydd gyda'r arbenigedd priodol. Mae rhwydweithio'n aml yn angenrheidiol i fod yn llwyddiannus.
Disgrifiwch eich methodoleg? Eglurwch sut y cyflawnir canlyniadau'r project, nodwch beth yw'r cerrig milltir a chynhwyswch amserlen ar gyfer y camau allweddol. Nid dim ond rhestr o dasgau ymchwil yw methodoleg ond dadl sy'n egluro pam mai'r tasgau hyn gyda'i gilydd yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r broblem. Cadwch mewn cof na fydd yr adolygydd yn arbenigwr yn y maes efallai; felly eglurwch ddulliau allweddol yn fyr.
Nodwch beth fydd eich canlyniadau! Eglurwch yn glir beth fydd canlyniadau ac effaith eich gwaith gan gyfeirio at gylchoedd gorchwyl y noddwr a'r cyhoedd yn ehangach. Trafodwch sut fydd canlyniadau eich ymchwil yn cysylltu â chwestiwn canolog eich project? Eglurwch sut y byddwch yn dadansoddi'r canlyniadau a sut y byddwch yn eu lledaenu? Cofiwch gymryd dulliau cyfathrebu cymdeithasol modern i ystyriaeth a pheidiwch ag anghofio eich ffioedd cyhoeddi!
Pob hwyl!