Cwestiynau sy’n codi’n aml
Ffeithiau sydyn
- Cynigir y rhaglen PGCertHE i unrhyw rai sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ym meysydd addysgu, dysgu ac asesu. Mae hyn yn cynnwys staff academaidd, cynorthwywyr ymchwil ac ôl-raddedigion.
- Mae dau Gam i gwblhau’r cymhwyster llawn, sy’n cynnwys dau fodiwl 30 credyd.
Faint o addysgu y mae’n rhaid i mi ei wneud er mwyn cwblhau pob cam?
Cam 1: Mae angen 40 awr arnoch, ond gall hyn gynnwys peth amser ar gyfer paratoi ac asesu. Y prif beth yw bod angen ichi gael digon o gyfle i gyflawni’r deilliannau dysgu a nodir ar gyfer pob cam, ac mae hyn yn golygu rhoi cynnig ar bethau gyda’ch addysgu, a phwyso a mesur yr effaith a gaiff hyn ar ddysgu myfyrwyr. Fel rhan o’r portffolio a gyflwynwch ar gyfer Cam 1, mae angen ysgrifennu aseiniad adfyfyriol 2000 o eiriau sy’n disgrifio cynnwys eich addysgu, newidiadau i addysgu a roesoch ar waith ar sail ymchwil berthnasol, a gwerthusiad o’r broses. Ar ddiwedd y Cam hwn, mae angen ichi allu dangos eich bod wedi ymwneud ag o leiaf ddau Faes Gweithgarwch o fewn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU. Os ydych yn ansicr a oes gennych ddigon o gyfle addysgu, a’r cyfle i roi cynnig ar wahanol strategaethau addysgu a’u gwerthuso, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs.Cam 2: Mae angen 60 awr arall arnoch, ac mae angen ichi ddangos eich bod wedi cynnwys y cyfan o’r pum Maes Gweithgarwch o fewn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU.
Sut y caiff y cwrs ei asesu?
Caiff y cymhwyster ei asesu drwy bortffolio o dystiolaeth. Mae angen ichi gyflwyno dau gopi caled i’r Uned Datblygu Academaidd (mae’r rhan fwyaf o gydweithwyr yn gofyn am rwymo’r copïau yn y Brifysgol, er nad yw hynny’n ofynnol) a chyflwyno’r Disgrifiad Adfyfyriol a Gwerthusol o Addysgu yng Ngham 1 a Cham 2 trwy Turnitin ar wefan PGCertHE Blackboard. Yng Ngham 2, gall Project Dysgu wedi’i seilio ar Weithredu, neu Asesiad a drafodwyd, â 4000 o eiriau, gymryd lle’r ddau Gylch. Bydd angen cyflwyno’r rhain drwy Blackboard hefyd. Mae manylion llawn yr asesiad i’w gweld yn y Llawlyfr sydd ar gael ar y wefan hon. Caiff yr holl bortffolios eu marcio ddwywaith, gan ddau aelod staff cymwys o’r Brifysgol.
A gaf gymryd seibiant ar ôl y 30 credyd cyntaf?
Gall y cam cyntaf gymryd hyd at flwyddyn i’w gwblhau. Os ydych chi’n aelod staff academaidd llawn-amser gyda chontract addysgu, mae’n ofynnol i chi gymryd Camau 1 a 2, a bydd gennych hyd at 3 blynedd i gwblhau’r gwaith ar gyfer y cymhwyster cyfan. Os nad yw’r cymhwyster yn rhan o’ch contract, gellwch adael ar ôl Cam 1 a dychwelyd yn ddiweddarach i gwblhau’r ail gam os ydych yn dymuno. Gan fod y math hwn o gymhwyster yn dueddol o ddatblygu i adlewyrchu arferion academaidd sy’n newid mewn prifysgolion, mae’n syniad da peidio â gadael bwlch hir rhwng y ddau gam. Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs os ydych yn ansicr. Yn gyffredinol, byddai hyd at ddwy flynedd yn dderbyniol o ran seibiant rhwng camau.
Faint o weithdai y mae angen i mi fynd iddynt yn ystod y rhaglen?
Mae angen ichi fynd i o leiaf ddau weithdy sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu yn ystod Cam 1. Mae’r CELT yn cynnal gweithdai sy’n berthnasol iawn i’r rhaglen. Gellwch ddewis mynd i ddigwyddiadau eraill, naill ai ym Mhrifysgol Bangor neu’r tu allan, ar yr amod eu bod yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu. Os ewch ymlaen i gwblhau Cam 2, mae’n ofynnol i chi fynd i 4 digwyddiad o’r fath ym mhob blwyddyn yr ydych wedi cofrestru yng Ngham 2. Y peth pwysig yw dangos eich bod yn cyfranogi’n gyson mewn datblygiad proffesiynol parhaus yn ystod y rhaglen, a thrwy eich gwerthusiad o bob digwyddiad, sy’n ofynnol ar gyfer y portffolio, dangos sut mae hyn wedi dylanwadu ar eich ymarfer.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gallu gorffen Cam 1 mewn blwyddyn, neu orffen Cam 2 mewn tair blynedd?
Gall cydweithwyr wneud cais am estyniad, gan ddefnyddio ffurflen estyniad Cam 1, neu ffurflen estyniad Cam 2. Yn achos cydweithwyr sydd â thoriadau am gyfnodau hwy, mae ffurflenni gohirio astudiaethau ar gael drwy’r Gofrestrfa Academaidd.
Rydw i’n athro profiadol / athrawes brofiadol. A oes unrhyw werth i mi wneud y cymhwyster?
Mae’r cwrs yn orfodol i staff addysgu academaidd sydd â llai na 3 blynedd o brofiad addysgu di-dor mewn addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Mae cymrodoriaeth â’r Academi Addysg Uwch wedi dod yn bwysig iawn i bob aelod staff prifysgolion yn y Deyrnas Unedig. Os ydych yn ansicr a ydych wedi’ch eithrio ai peidio, cysylltwch ag Adnoddau Dynol yn y lle cyntaf. Yn achos staff mwy profiadol sydd â phrofiad addysgu digonol ac addas, mae’r Academi Addysg Uwch yn cynnig llwybr Mynediad Uniongyrchol. Cysylltwch â’r CELT i weld a yw’n addas i chi. Bwriad y cwrs yw gwella’ch ymarfer proffesiynol a’r profiad a gaiff eich myfyrwyr. O’r herwydd, dylid dal i annog staff sydd eisoes â phrofiad i gofrestru.
A fydd modd trosglwyddo fy statws Cymrodoriaeth Gysylltiol neu Gymrodoriaeth os byddaf yn symud rhwng sefydliadau?
Bellach, mae achrediad â’r AAU yn cael ei gydnabod drwy’r DU. Mae gan rai sefydliadau statws credydau gwahanol ar gyfer cymwysterau fel hyn, a bydd rhai gwahaniaethau o un sefydliad i’r llall. Fodd bynnag, bron iawn ymhob achos, gellir trosglwyddo’ch statws Cymrodoriaeth Gysylltiol ar draws sefydliadau, ac yn bendant, dylid cydnabod eich statws Cymrodoriaeth.