Cynllun Arsylwi Cydweithwyr
Arsylwi Cydweithwyr ffurflen - Word | Arsylwi Cydweithwyr ffurflen - PDF |
Peer Observation form - Word | Peer Observation form - PDF |
Blackboard site |
Beth yw'r Cynllun Arsylwi Cydweithwyr a pham rydym angen un?
Mae angen i Brifysgol Bangor adlewyrchu'r arfer gorau mewn addysgu a dysgu a nodwyd gan God Ansawdd y QAA i Addysg Uwch (Pennod B3) a Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer Addysgu a Chefnogi Dysgu mewn Addysg Uwch (UKPSF). Cydnabyddir bod arsylwi cydweithwyr yn addysgu yn ffordd ragorol o rannu arfer da yn unol â'r safonau hyn, ac o nodi meysydd lle mae angen cefnogaeth. Oherwydd hynny, cyflwynwyd arsylwi cydweithwyr ym Mangor yn 2001.
Trafod proffesiynol, nid proses feirniadol, yw arsylwi cydweithwyr. Mae'n gyfle i'r sawl a arsylwir a'r arsylwr i feddwl yn greadigol ynghylch datblygu arfer addysgol. Mae derbyn sylwadau gan gydweithiwr yn ymwneud ag addysgu, a gallu adfyfyrio ar y broses yn gyffredinol, yn gyfrwng pwysig ar gyfer datblygiad academaidd proffesiynol.
Pwy sydd eu hangen i gymryd rhan yn y cynllun?
Mae Cynllun Arsylwi Cydweithwyr Bangor yn agored i holl staff sy'n addysgu ac/neu gefnogi dysgu. Disgwylir y bydd holl staff academaidd gyda swyddogaeth addysgu yn cymryd rhan yn y cynllun o leiaf unwaith bob blwyddyn academaidd. Mae hyn yn cynnwys darlithwyr rhan-amser ac ymarferwyr proffesiynol sy'n cyfrannu'n rheolaidd at addysgu. Caiff myfyrwyr PhD sy'n addysgu eu harsylwi fel rhan o'r angen iddynt wneud hyfforddiant penodol i'w Hysgol neu wneud y PgCertHE. Ni fydd angen i siaradwyr allanol gymryd rhan yn y cynllun llawn ond dylai arweinwyr modiwlau drefnu i gydweithiwr penodedig fynd i'w sesiynau a rhoi sylwadau ar lafar.
Pa fath o addysgu a arsylwir a phryd?
Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae angen i staff gwblhau'r broses erbyn diwedd pob blwyddyn academaidd. Erbyn hyn mae'r cynllun yn cynnig dau ddewis. Mae'n eich galluogi naill ai i barhau â'r drefn a sefydlwyd o arsylwi sesiwn hyfforddedig fel pâr bob blwyddyn (Opsiwn A) ac/neu gymryd rhan ar y cyd i wella maes ymarfer penodol (Opsiwn B). Mae'r ddau opsiwn yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan yn flynyddol mewn trafodaeth adeiladol gyda chydweithwyr ynghylch gwella'r ffordd mae myfyrwyr yn dysgu ac/neu brofiad ehangach myfyrwyr yn eich pwnc.
Mae angen i holl staff fod wedi cyflawni Opsiwn A cyn gwneud Opsiwn B mewn unrhyw gyfnod dwy flynedd. Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun newydd hwn (2017/18) bydd holl staff yn cymryd rhan yn Opsiwn A yn y semester cyntaf. Dim ond o 2018/19 y bydd Opsiwn B ar gael.
Sut y rheolir y cynllun?
Caiff y cynllun ei weithredu gan Gyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu (CAaD) Ysgolion, a fydd yn gweithio'n agos â Phenaethiaid Ysgolion a fydd yn pennu staff i'r cynllun a chadw cofnod o ymwneud ag ef ar draws eu hysgol. Caiff ei gefnogi a'i fonitro'n ganolog gan y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT) mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu'r Colegau.
Arsylwi Cydweithwyr ffurflen - Word | Arsylwi Cydweithwyr ffurflen - PDF |
Peer Observation form - Word | Peer Observation form - PDF |
Blackboard site |
I gael gwybodaeth neu arweiniad pellach ar sut i gymryd rhan yng Nghynllun Arsylwi Cydweithwyr ym Mangor, cysylltwch â Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu eich Ysgol neu celt@bangor.ac.uk.